Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI FER GYFAN YR adeg honno," ebe Tomos Williams wrth Edward Parri, yr oedd gwaith mwyn y Dalar yn mynd yn dda a llawer o hogiau yn gweithio yno. A dyna Ue bydden'-hw' ar y Sul yn hel ar y bont yn y pentre', fel maen'-hw 'rwan o ran hynny. Os byddai rhyw ddireidi yn mynd ymlaen, gelli fod yn sicr mai yn y fan honno y byddai'n cael ei blanio yr un fath â 'rwan. Ond beth bynnag i ti, Cloch yr Eglwys oedd yn blino'r hen hogiau yr adeg honno. Yr oedd rhyw sain an- hyfryd ganddi hi, yr un fath â phe buasai crac ynddi, ac yr oeddyn'-hw' wedi penderfynu bod eisiau cloch newydd ar bob cyfrif. Gwaetha'r modd, 'doedd neb o'r tu allan i'r hogiau yn meddwl dim o'r fath beth. Mi wyddost am dẁr yr hen eglwys yma; mi fedri weld y gloch o'r tu allan os na bydd yr eiddew yn drwchus iawn. Wrth gwrs, yr oedd yr un fath yr adeg honno. Wel i ti, yr oedd mater y gloch wedi pwyso mor drwm ar feddwl pwyllgor y bont nes iddyn'-hw' benderfynu gwneud rhywbeth eu hunain. A chyda llawer iawn o siarad distaw â'i gilydd, a gwneud llw i beidio â dweud gair wrth neb, trawsant ar gynllun a ddaeth â llawer iawn o helynt i Landdwynant. A R noson olau leuad ym mis Medi, berfedd y nos, dyna'r llanciau yn mynd tua'r fynwent â baich o raffau cryfion hefo nhw', ac arfau eraill cymwys i'r cynllun dirgel oedd ganddynt. Mi wyddost fel y medr y mwynwr ddringo â i fyny fel llongwr. Ond sut yr aeth y cnafon i fyny at dŵr yr eglwys sydd ddirgelwch. Ond mynd wnaethon'-hw', a'r rhaffau hefo nhw'. Y gorchwyl cyntaf fu rhwymo tafod yr hen gloch, rhag iddi ddweud eu hanes dros yr holl ardal. Yna sicrhau y rhaff yn rhywle, dadfachu'r hen gloch, a'i thynnu oddi ar ei gorsedd Ue bu'n galw pechaduriaid i addoli am lawer cenhedlaeth. Helynt y Gloch Y peth nesaf fu ei llithro yn Uadradaidd i lawr y rhaff, ac ymhen ychydig funudau, yr oedd wrth draed y rhai oedd yn arwain y rhaff yn y gwaelod. Dyna hi ar lawr, a'r lleuad wen yn dangos y llwch ar ei hysgwyddau-yn fudan am y tro cyntaf yn ei hoes, yr un fath a'r ugeiniau pechaduriaid yn y beddau o'i hamgylch, a alwyd ganddi i wrando'r efengyl am lawer blwyddyn, eu tafodau hwythau wedi tewi am byth." 'Wyt ti ddim yn meddwl, Tomos, y buasai yma Ie am benillion ardderchog ar hanes yr hen gloch, dywed ? Darn adrodd fuaswn i 'n feddwl," ebe Tomos Williams. Siort orau," ebe Edward Parri. Gan MRS. M. S. ROBERTS WEL, y peth nesaf oedd- beth i'w wneud â hi. Yr oedd hynny hefyd wedi ei wyntyllu ar y bont, a phopeth wrth law at y gwaith. Yr oedd yn rhaid claddu'r gloch yn rhywle heb adael dim olion. Dyma benderfynu ar wely'r afon. 'Doedd yno'r un wal yr adeg honno rhwng yr afon a'r fynwent. Yr oedd fy nhad yn un o'r rhai a gododd y wal sydd yno heddiw. Dyma gludo'r gloch i ochr isa'r fynwent, a thorri bedd iddi yng ngwely'r afon y fan honno. Erbyn bore Sul yr oedd tunelli o ddŵr wedi rhedeg heibio'r fan ac wedi golchi olion y gladdedigaeth ymaith yn lân, a'r hen afon yn llithro ymlaen heb ddweud dim am gyfrinach yr hogiau wrth neb. Dyna iti ran o'r stori. Oes gennyt-ti fatsen, dywed ? Rhaid ail-danio'r hen getyn yma er mwyn cael stêm i'w gorffen." Diar, diar ebe Tomos Williams. Yr oeddwn i 'n dychmygu'i gweld-nhw wrthi- hi, pan oeddet ti'n dweud yr hanes. Beth pe buasai rhywun yn dyfod i fyny'r llwybr, yr ochr arall i'r afon, a'u gweld- nhw' wrthi hi berfedd y nos felly ? Y braw fuasai-fo, yntê ? 'Wyt-ti wedi cael tân, dywed ? Iwsia'r matsis yna, ddyn. Sut y bu-hi wedyn, dywed ? FE ddaeth bore Sul," ebe Edward Parri. Fe ddaeth y person- feddyliwn mai dyn mewn oed oedd yr adeg honno—a'r clochydd yno mewn pryd, ac aeth y gŵr parchedig i r testn 1 roi ei wenwisg. Glyw- aist-ti sôn am yr hen Siân Llwyd, fyddai'n arfer byw yn y Pant Glas ? Mi glywais i 'mam yn sôn amdani," ebe Tomos Williams. Oeddyn'-hw' ddim yn dweud ei bod hi'n medru witsio, dywed ? Mae gennyf i gof y byddai 'mam, pan fyddem ni yn nacáu mynd i'n gwelyâu, yn dweud Tendia di dy hun, mi ddaw yr hen Siân Llwyd atat ti, ac mi troith di yn Uygoden,' fe'n rhôi hynny ni yn ein He yn bur fuan." Ie, dyna hi," ebe Edward Parri. Mae'n- hw'n dweud i mi mai taid iddi hi oedd yr hen glochydd yma. Eic y Clochydd fyddai [1 dudalen 91.