Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trefnu Undeb. GWELODD Rhys Davies nad oedd neb o wasanaethyddion y siopau a'r swyddfeydd o'i amgylch yn perthyn i undeb llafur. Aeth ati ar unwaith i'w trefnu, ac mor llwyddiannus fu nes iddo gael Ue sefydlog ar staff Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Dos- barthu a'u Cymheiriaid ym Manceinion. Cyn hir fe'i hetholwyd yn aelod o Gyngor Dinas Manceinion, a bu ar awdurdod addysg y ddinas am ddeng mlynedd. I drwbwl. PAN ddaeth y rhyfel, fe'i gwrthwyneb- odd ar lwyfan a thrwy'r wasg, a daeth i drwbwl ymhlith ei gyfeillion ac ymhlith yr awdurdodau. Yr oedd gwleidyddiaeth yn ei waed, ac yn 1918 ceisiodd fynd i'r Senedd fel aelod dros West Salford. Fe'i trechwyd, oherwydd ei syniadau am y rhyfel. Ond daeth ei gyfle yn Westhoughton yn 1921. Enillodd, ac y mae wedi cadw ei sedd mewn chwe etholiad ar ôl ei gilydd. Ar hyn o bryd, ef ydyw'r unig A.S. Llafur o fewn 20 milltir i Fanceinion. Yn y Llywodraeth. YN y Llywodraeth Lafur gyntaf yn 1924 fe wnaethpwyd Mr. Rhys Davies yn Ts-Ysgrifennydd y Swyddfa Gartrefol, ac y mae'n hysbys, oni bai am waeledd a ddaeth arno pan wnaethpwyd yr ail Lywodraeth Lafur yn 1929, y buasai wedi cael swydd yn y Llywodraeth honno. Y mae ef yn un o Reng Flaen ei blaid yn y Senedd heddiw. Canu'n Hwyliog. TEITHIODD Mr. Rhys Davies yn helaeth ar hyd a lled y byd. Bu mewn llawer cynhadledd rhwng gwledydd. Cynrychiolai Senedd Prydain yn y mU- flwyddiant yn Iceland yn 1930. Clywais ef lawer gwaith yn canu ac yn arwain cynulleidfa mewn canu hwyliog, gan gyfeilio ar y piano ei hun. Y mae ganddo ef a Mrs. Davies dri mab- Emrys, Dalwyn, ac Alfor. Cymraeg, wrth gwrs, ydyw iaith y cartref. Pwy biau Fynwy? PWY biau ysbryd Sir Fynwy ? Yn swyddogol, ac o ran tir, i Loegr y mae'r sir yn perthyn, ond deil Cymru i deimlo bod y sir yn perthyn iddi hi o ran teimlad. Dywedodd John Owen, Y Fenni, wrthyf yn ddiweddar mai tipyn yn farwaidd yw'r mudiad Cymraeg yn y sir yn awr. Y mae Cymrodorion Pont-y-pŵl yn fyw- iog, modd bynnag," meddai, ac yn cynnal eu cyrddau yn rheolaidd, ac mae ganddynt raglen gampus am y tymor. Dioddefwn ni yma o ddiffyg ysgrifennydd. Bwriedir cael ymgomwest i ddathlu Gwyl Ddewi. Y mae pobl Nant-y-glo yn eiddgar iawn, a'r Parch. W. T. Huws yn pwnio arni yno. Bydd cyngerdd mawr yno bob blwyddyn, a bydd y capel mawr (Hermon) dan ei sang. Y mae'r plant yn eu gwisgoedd Cymreig yn swynol dros ben, ac Mr. Rhys Davies, A.S. nid oes blant yn imman a all ganu'n fwy soniarus na rhai bach Nant-y-glo, cartref Gwilym Gwent. Hyd y Gororau. "y MAE'R mudiad Eisteddfodol yn ffynnu hyd y gororau o'r Fenni hyd i Sir Amwythig." ebe Mr. Owen, ac er mai yn Saesneg y mae'r gweithrediadau yn cael eu dwyn ymlaen gan mwyaf, Cymreig yw'r ysbryd a'r awyrgylch ynddynt oll. Synnech," meddai, mor eiddgar yw'r Saeson sydd wedi eu dal gan hud yr Eistedd- fod, ac mae llawer ohonynt yn dysgu'r iaith Gymraeg drwy astudio llyfrau Caradar." Caradar. HWYRACH fod llawer yn dyfalu beth sydd wedi digwydd i Caradar, gan nad yw wedi bod yn yr Eisteddfod er 1926 (Abertawe). CYMRU MYNWY A'R GORORAU COLLI DAU FEDDYG MAWR Wel, y rheswm a gefais ganddo yn ddi- weddar yw ei fod yn brysur atgyfodi'r hen Gernyweg, sydd wedi marw ers 150 o flyn- yddoedd. Y mae'n cyhoeddi llyfrau i ddysgu'r hen iaith honno, ac yn sefydlu'r dos- barthiadau drwy'r sir i noddi'r mudiad, a deallaf ei fod yn cwrdd â llwyddiant mawr yn yr ymgyrch. Y mae ei lyfrau, Welsh Made Easy," wedi bod yn foddion i ddwyn y Gymraeg i lawer aelwyd drwy'r byd, gan mor ddeheuig y trinia ef y pwnc. Yn ôl Mr. John Owen, fe bwrcasodd Syr Henry Mather Jackson, gwr o ddylanwad ym Mynwy, dri o'r llyfrau hynny rai misoedd yn ôl ac y mae'n eu hastudio'n fanwl. Y mae Mr. R. G. C. Sandeman o Dan-y-parc, Crughywel (Cefnder Capt. Geoffrey Crawshay) hefyd wedi meistroli'r iaith ac yn siarad Cymraeg yn rhugl. Dau Feddyg o Gymry. BU dau lawfeddyg enwog o Lerpwl farw'r un diwrnod yr wythnos o'r blaen, sef Syr Robert Jones a Mr. Arthur J. Evans. Un o Ddeheudir Cymru ydoedd Mr. Evans. Dechreuodd ei yrfa yn yr America, a bu gydag expedition yn Affrica yn archwilio afiechydon y trofannau. Yr oedd ymysg y rhai cyntaf i fyned i Dde Affrica adeg y rhyfel yno. Enillodd glod fel llawfeddyg yno, ac ym Mesopotamia adeg y Rhyfel. Bu farw ar yr un dydd o'r flwyddyn ag y cyflawnodd un o'i orchestion mwyaf. Yr oedd yn feddyg ar long a gyrhaeddodd Kingston, Jamaica, yn union ar ôl y ddaear- gryn yno yn Ionawr, 1907. Trowyd y llong yn ysbyty, a bu Dr. Evans yn gweithredu fel llawfeddyg i'r rhai a anafwyd am dri niwrnod a thair noson heb orffwys, bron. Diolchwyd iddo'n bersonol gan y Brenin Edward am hyn. Ar Fore SuI. FE wyddai pawb am Syr Robert Jones, y meddyg esgyrn a ystyrrid yn fwyaf yn y byd. Yr oedd ganddo'r ddawn o wneud cyfeill- ion. Fe'i hoffid gan bawb o'r tlotaf a fu gydag ef hyd teuluoedd brenhinol Ewrop. He was a lovely and loveable man," meddai un a'i adwaenai yn dda wrthyf. Byddai Syr Robert yn hoff o adrodd am lythyr a dderbyniodd wedi ei gyfeirio i Mr. Jones, Bone-setter, Liverpool," oddi wrth un a arwyddodd y llythyr fel Mr. Bone-setter, Carlisle." Syr Beauyr.