Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BYD Y MERCHED. Llwyd a Fioled i'r Gwanwyn Gan MEGAN ELLIS. Y MAE lliwiau Gwanwyn 1933 yn dlysach nag erioed. a chyfoeth 0 amrywiaeth yn y defnyddiau. Ni welir merched yn gwisgo mor undonog ag y buont. ac y mae llawer mwy o gyfleusterau i ferched weld. dewis a llunio'u gwisgoedd, nag a fu erioed o'r blaen. 1852! Tuedd i efelychu ffasiwn 1852 sydd yn у gwisgoedd gan mwyaf. Y mae ffrogiau'r dull princess yn ffitio heb rych weith- iau, gyda rhes o fotymau i'w cau ar y cefn, y mae'r ffrogiau hyn yn llaes iawn, a llewys llawn iddynt. Gwelir eraill â llewys epaul- ette," fel hanner mantell arnynt. F FROG DDAWNS o sidan gwyn, yr addurniadau yn sidan du. Y mae du a gwyn bob amser yn dal eu tir, ac fe'u gwelir yn aml eleni eto. Ond ceir lliwiau newydd swynol, ac, yn wir, y mae eu henwau'n dlws hefyd dyna lwyd cymylau, croen angel, lliw perl, lliw wystrys, fioled, etc. Gwelais ffrog georgette fioled â'r rhan uchaf o'r llewys wedi eu gwneud o lasiau yr un lliw; un arall i wraig dipyn hyn, mewn em- bossed georgette o liw gwin, gyda ffwr gul ar ymylon y llewys mawr, llac, a'r gwddf un arall o wlân llwyd, ysgafn, â choler cowl" satin, lliw perl. COTIAU 0 FRETHYN CYMRU. Y mae'r cotiau bach, neu zouaves fel y'u gelwir, yn dal mewn bri. Yr oedd un felfed brown â sgert o'r un defnydd ac yr oedd tu blaen y gôt bach wedi ei dorri i ddangos blows felfed lliw hufen. Bydd siwtiau brethyn ysgafn a thwîd yn cael eu gwisgo gymaint ag erioed, a chlyw- ais bod mwy o holi am frethyn Cymru nag erioed. Y mae llawer o ferched wedi pen- derfynu cael un, os nad dwy, siwt o'r twîd Cymreig. Y mae i'w gael mewn lliwiau a phetrymau prydferth iawn, ond nid pob dilledydd yng Nghymru wyr amdano. Mynner ei gael. HETIAU GWELLT. Y mae cotiau uchaf i'w gweld o dwîd golau gwelais un lliw beige, a'r goler a'r llewys wedi eu trimio ag astrakhân brown. Y mae hwn yn ysgafnach na ffwr, at gotiau gwanwyn. Bydd hetiau i'w gweld o wellt ysgafn. Ni wisgir hwy yn gymaint ar ochr y pen, ond dipyn yn fwy dros yr wyneb. Byddant mewn lliwiau prydferth-pinc a glas yn enwedig, a bydd y corun yn uwch nag y bu. Dywedir y bydd llawer iawn o wisgo ar siwtiau wedi eu gwneud o liain. Y mae'n bosibl cael lliain i'r pwrpas mewn lliwiau hardd, sy'n gwisgo ac yn golchi yn dda. F FROG WLANEN LWYD YSGAFN, gyda mantell felfed i weddu â'r het. LLENNI A CHLUSTOGAU NEWYDD. Pan ddaw'r gwanwyn, fe fydd pob un ohonom sydd â gofal tý arni, yn hiraethu am rywbeth newydd, ffres, i edrych arno. Dyma ichwi syniad newydd sbon i wneud i lenni (sef cyrtens y ffenestr) a chlustogau weddu i'w gilydd. S IW MP ER wedi ei wau o edafedd glaa rheiol. Y mae'r rhan uchaf a'r llewya pwff yn edafedd gwyn.