Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TjFROG GREP, glas môr, i'w gwisgo dros flows sidan las a gwyn. Y mae rhai del wedi eu gwneud â lliain, a brêd gwlân ac edafedd i'w gweld yn y darlun. Gellir prynu'r brêd hwn mewn lliwiau siriol hanner modfedd o led am geiniog y llath ac fe wna lliain, cynfas neu hessian y tro i wneud y Uenni. Yn fwy na'r cwbl, nid oes rhaid bod yn feistres ar frodwaith i fedru gwneud y gwaith hwn. I wneud y llenni, pwyther dwy rês o frêd glas royal ar liain lliw hufen, y rês gyntaf bedair modfedd o'r hem, a'r ail saith modfedd yn uwch. Gellir defnyddio un ai'r pwyth a elwir yn back stitch (" A yn y darlun) ai pwyth "twll botwm (" B yn y darlun) i bwytho'r brêd. Gwneir y blodau â brêd coch a melyn. Dengys A yn y darlun mor hàwdd yw eu gwneud torri darn tua chwe modfedd o'r brêd rhedeg edau gathering thread ar hyd un ochr ei dynnu'n dynn a gwneud math o gylch, a'i bwytho i lawr ar y lliain, â phwyth o edafedd liw yn y canol. Gwneud dail ag edafedd werdd o gwmpas y blodau â phwyth daisy loops." Gellir gwneud yr un peth â defnyddiau eraill. Er engraifft, cwrlidau gwely hardd o sidan gwneud (rayon), a brêd liw aur i wneud y sgwariau a'r blodau, yna llenni a chlust- o au o'r un defnydd. L LENNI A CHLUSTOG NEWYDD. Neu i ystafell wely geneth ifanc, y llenni a'r cwrlid wedi eu haddurno â blodau llygad- y-dydd o frêd gwyn, a dail gwyrdd, ar liain o Uw glas gwan. Y Ferch Serchog. Lle mae cartref dedwydd, cysurus, gellir bod yn siwr bod yno ferch sydd bob amser j-n barod i wneud cymwynas byth yn grwgnach yn rhoi amser i edrych ar ôl y plant heb gwyno yn gweinyddu ar y claf ag wyneb siriol a'r medr gorau sy ganddi. Bydd yn rhoi benthyg ei ffrog neu ei chôt i eraUl o'r teulu, heb awgrymu ei bod wedi bwriadu ei gwisgo ei hun, neu ei hanfon i'w glanhau. Y mae hi'n barod i roi ei phleser ei hun o'r neilltu i aros yn y tŷ yn gwmni i'w mamgu. Pan fo llawer o hosanau eisiau eu trwsio, hi yw'r un a gymer y fasged wnïo yn ddistaw i'w hystafell. Os bydd rhaid mynd i'r siop trwy'r tywydd, nid hi fydd yn cwyno bod ei gwddf yn dost. Ganddi hi y ceir y geiriau tyner a'r wên gariadus a esmwythâ'r galon, pan wêl ei mam yn edrych yn flinedig. Pan fydd ei thad yn isel ei ysbryd, y hi a wna'r ymdrech i'w sirioli. Pan fydd ei brawd bach mewn penbleth â'i wers, y hi sy'n egluro'r broblem iddo. A phan ddaw'r bechgyn i wybod amdani, hi yw'r ferch a brioda gyntaf a chychwyn cartref dedwydd newydd. Gwneud Bisgedi Blasus. BISGEDI LEMON. Meddalu pedair owns o ymenyn a phedair owns o siwgr a'u curo'n hylif. Ychwanegu wy wedi ei guro, a gratio croen lemon gyda phinsaid o halen gollwng wyth owns o flawd i mewn yn ysgafn, a chymysgu'r cwbl â'i gilydd yn dda. Taenu blawd ar y bwrdd pobi, ac wedi rholio'r toes arno yn denau, ei dorri'n ddarnau main fel bys a'u crasu mewn popty araf. BISGEDI GYDA CHOFFI. Cymysgu hanner pwys o flawd, hanner llond llwy dê o bowdr codi, dwy owns o siwgr castor, a chwarter pwys o ymenyn â'i gilydd â'r dwylo. Curo wy a'i roi am ben y cymysgedd gyda llond llwy dê o lefrith, a'i wneud yn does ysgafn. Rhoi'r toes ar y bwrdd pobi a'i dorri'n gacennau crynion. Eu crasu mewn popty poeth. Meddu gwallt hardd ydyw un o gaffaeliadau mwyaf ein hoes, ac y mae modd peri i unrhyw wallt edrych yn hardd. Ychydig ddiferynnau o Rowland's Macassar Oil a'i rwbio'n dda i groen y pen bob dydd-fe sicrha hyn fod y maeth angenrheidiol yno, y maeth sy mor fynych yng ngholl oherwydd golchi neu oherwydd cyflwr drwg. Ar gael gan bob cemist neu siop neu dorwyr gwallt, pris 3s. 6d., 7s., a 10s. 6d. Coch at wallt tywyll, aur at wallt golau neu wallt gwyn. A. ROWLAND & SONS, LTD. 22, Laystall St., Rosebery Avenue, London, E.C.1. J. H. & CO.