Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI FER NOSON oer leuadlawn ydoedd pan eis- teddodd Wat Morris a Marged ei wraig wrth y tân yn eu ffermdy, Bryn- gweilchion. Testun eu hymddiddan ydoedd marw sydyn Siân Price o'r Gelli, ffermdy cyfagos. Nid oedd daw'ar Marged yn canmol rhin- weddau y chwaer ymadawedig; ac ymhlith rhai o'i sylwadau cyfeiriodd at y rhybudd- ion cudd ac annisgwyl a gafodd teulu'r Gelli cyn marw Siân. Rhyfedd," meddai, fel mae angau'n dilyn yr hen arwyddion yma." A thra'r oedd yr hen wraig yn sôn am yr arwyddion fe ddigwyddod i iddi hi a Wat ei gŵr glywed y ceiliog yn canu, ac yn y fan fe dawodd Marged â'i siarad, ac o sylwi'n fanwl fe welid ei gwedd yn newid ei liw yn welw ryfedd. Ac meddai wrth ei gŵr: Fe gei-di weld, Wat, mae rhywun yn siwr o farw, oher- wydd y mae'r hen geiliog yna wedi canu yn anamserol iawn." Twt, twt! meddai Wat, paid â chredu shwd lol." 'AUai ddim help, Wat bach," meddai hithau, y mae dyn yn gorfod credu pan fo angau yn dilyn pethe fel hyn." Wel, gad iddo ddywad; un waith y daw yn ein hanes ni'n dau," meddai Wat. Ymhen ychydig wedyn fe glywai'r ddau y ci yn udo, a bu hyn yn help i gadarnhau ffydd Marged yn y fath arwyddion; ond ni wnaeth yr un sylw o'r peth yng nghlyw Wat, ei gŵr. UE aeth misoedd lawer heibio wedi'r noson ryfedd hon, heb ddim yn taro ar glyw na llygaid y naill na'r llall o deulu Bryn- gweilchion. Ond tua hanner nos, ymhen blwyddyn i'r noson y clywsid y ceiliog yn canu, fe darawyd Marged yn glaf iawn, yn ddirybudd, bron. Gwelodd Wat fod yn rhaid cael y meddyg at ei wraig, ond ni aUai yn ei fyw ei gadael wrthi ei hun. Nid oedd na gwas na morwyn ganddo yn y tý; er hynny, yr oedd Twm Trefaen, y gwas crwydrol, yn cysgu yn y dowlod, a phenderfynodd fyned allan at hwnnw i ofyn iddo a âi i'r pentre i ymofyn y meddyg. Addawodd y truan hwnnw yr âi ar unwaith. Wedi ffrwyno a chyfrwyo ceffyl iddo, aeth Wat yn ôl dros y buarth i'r tŷ. Cyn iddo gyrraedd y trothwy digwyddodd edrych tua'r ydlan. Yno, er ei syndod, gwelodd olau bach disglair yn symud yn 31 a blacn, fel pe byddai yn amcanu nesu ato. Ofergoeliaeth Ond diflannodd y golau ar unwaith, ac o ganfod y fath weledigaeth fe aeth Wat i mewn i'w dý, wedi ei lwyr goncro gan ofn. Bu'n eistedd am ychydig yn ei gadair wrth y tân, yn ceisio adfeddiannu digon o nerth i ddringo'r grisiau i ystafell wely ei wraig. Wedi ymgryfhau ac ymwroli tipyn, dech- reuodd gerdded y grisiau, a chyn iddo gyr- raedd y drydedd ris fe ddaeth sŵn canu swynol i'w glyw. Yr oedd y canu hwn megis canu angladd, ac fe dybiodd glywed llais Morgan Huws, codwr canu Bethel, y capel yr âi iddo ar y Sul, yn arwain côr ar y buarth. Arhosodd ar y grisiau nes gorffen o'r canu, wedyn aeth yn ddistaw i fyny drostynt ac i mewn i ys- tafell wely Marged, ei wraig. Marged," meddai, ond ni chafodd yr un ateb. Marged," meddai eilwaith, ac eto ni chafodd yr un gair oddi wrthi. Nesaodd at y gwely. Yr oedd Marged wedi ateb galwad uwch, ac ym mhell o sŵn dwndwr a thra- fferthion byd. CLADDWYD Marged Morris ar y dydd Iau canlynol, ac wedi'r angladd gwa- hoddodd William Morris, y mab hynaf, ei dad i fwrw Sul gydag ef a'i deulu yn nhre Abertawe. Cydsyniodd y tad, ac addawodd ddyfod ymhen pythefnos. Dirwynodd yr amser i ben a chychwyn- nodd yn brydlon tua phedwar o'r gloch y prynhawn. Wedi cyrraedd yr heol fawr newidiodd yr hen ŵr ei feddwl, ac yn lle mynd gyda'r trên, fel yr addawsai wrth ei fab, fe aeth gyda'r bws. Cyrhaeddodd Abertawe o fewn ychydig funudau i saith o'r gloch, ac heb oedi llawer fe'i cafodd ei hun wrth drothwy tŷ ei fab. Nid atebodd neb ei guro ar y drws. Cododd yntau'r gliced a mynd i mewn. Gosododd ei fag a'i het ar y bwrdd, ac eistedd a chym- ryd mygyn yn hamddenol, a mwynhau'r cymylau a godai oddi wrth ei bibell. Wedi bod yno oddeutu chwarter awr, tybiodd yr hen ŵr glywed canu--canu megis canu angladd. Cododd ar ei draed ar unwaith, a mynd allan i gefn y tŷ i wrando a oedd canu yno, ond ni fedrai glywed dim. Aeth yn ôl i'r tŷ drachefn, ac wedi eis- tedd eilwaith wele'r un canu yn taro ar ei glyw eto. Heb oedi rhagor, gosododd ei bibell ar y bwrdd, cydiodd yn ei het a'i fag, a chan frysio trwy'r drws, dywedodd: "Os ydw'-i i farw yn rhywle, 'rwyn mynd i farw yn nhre." A ffwrdd yr aeth i ddal y bws adre. Gan DAYIpyA. LEWIS VN y cyfamser bu'r mab a'i deulu i lawr yn yr crsaf, yn gwylied yr hen ŵr oedd i ddyfod gyda'r trên saith. 0 hir ddisgwyl fe ddaeth y trên i mewn i'r orsaf, ond ni welodd yr un ohonynt yr hen ŵr o Fryn- gweilchion. Prysurodd y teulu adre, wedi eu siomi'n llwyr yn eu hymwelydd. 'Nôl cyrraedd yno deallodd y mab fod ei dad wedi bod yn y tŷ, oherwydd yr oedd y bibell ar y bwrdd yn ddigon o brawf o hynny. Credodd fod yr hen ŵr wedi myned allan i'r dre am dro, ac y dychwelai ymhen awr neu ddwy. Trawodd y cloc ddeg o'r gloch. Sylwodd William Morris fod yn rhaid i rywun edrych Ue'r oedd yr hen ŵr ei dad. Ni fu'n hir cyn penderfynu danfon ei fab ar ei fotor- beic i Fryngweilchion i edrych a oedd ei dad-cu yno. Taith go anesmwyth oedd taith Wat Morris adre y nos Sadwrn hwnnw, oher- wydd yr oedd y syniad o farw yn ei ymlid bob cam o'r daith. Methai'n lân ymysgwyd oddi wrth eir'-u a glywsai ei wraig druan yn eu dyweàyd droeon,- Alla'i ddim help credu yn yr arwydd- ion yma, oherwydd bod angau yn eu dilyn o hyd." Ac felly yntau, yr oedd yn gredwr cryf yn yr arwyddion erbyn hyn, ac ymresymai mai marwolaeth oedd yn ei aros yntau yn awr, gan iddo glywed yr hen ganu yna yn nhŷ ei fab. Wedi cyrraedd adre methodd swpera, ac aeth i'w wely tuag un ar ddeg o'r gloch. Bu'n daer wrthi yn ceisio cysgu, ond yn ofer. Clywodd y cloc yn taro deuddeg, ac wedyn yn taro'r hanner awr. Ond rhwng yr hanner awr a chwarter i un clywodd guro trwm ar ddrws ei dŷ. Bu'r curo ar ei ddrws megis curiad angau ar ddrws ei galon. Ofnai symud ymron. Ymhen tipyn tybiodd glywed rhywun yn gweiddi, Nhad-cu, ydych-chi ynu? Ar hyn cododd a chydiodd yn y golau a dyfod i lawr i'r gegin. Agorodd y drws a daeth ei wyr i mewn, a'r cwestiwn cyntaf a ofynnodd y crwt iddo ydoedd, 'Fuoch-chi yn tŷ ni heno, nhad-cu? Do, 'machgen i," meddai'r hen ŵr, "fe fûm i yno, ond 'allwn-i ddim aros yno am un arian. Wyt ti'n gweld, 'machgen i, ymhell cyn i dy fam-gu farw fe glywais i y ceiliog yn canu, a chi yn udo, a'r noson y bu hi farw fe welais gannwyll gorff ac hefyd fe glywais ganu-canu megis canu angladd; a heno, cyn i mi fod ddeng munud yn eicb tý chi, clywais yr hen ganu 'na eto. Ond, 'nhad-cu bach, y wireless oedd e'