Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Pibydd o Lydaw I arfor Llydaw gyda'r gwynt Anelodd yno'i long yn syth Yn Frython aeth o Brydain gynt, A Brython ydyw byth. PERTHYN trigolion Llydaw a Chymru i'r cenhedloedd bychain Celtaidd hynny sydd heddiw'n gorfod ymladd dros eu hunaniaeth yn erbyn cenhedloedd cryfach a mwy dylanwadol. Yr un yw anawsterau a delfrydau'r Llydawr a'r Cymry i raddau mawr, ac nid yw'n rhyfedd eu bod felly yn eu diddori eu hunain trwy ddarllen traddodiadau a hanes ei gilydd. Fel y dywaid yr awdur yn ei Ragair, y mae cannoedd o hanesion i'w cael ar dafod leferydd yn Llydaw. Gwaith y llenor yw eu trysori, a dyma yw'r llyfr hwn sydd ger ein bron, sef casgliad o chwedlau a gafwyd ymhlith llên gwerin Llydaw. (HELYNT Y Pibydd, a CHWEDLAU Eraill O'r Llydaweg, gan Geraint Dyfnallt Owen, Gwasg Aberys- ystwyth, 2s.) Pawl Gorniog. Cynnwys y llyfr wyth o straeon diddorol, a mentrwn broffwydo y bydd yn ffefryn gan blant ein hysgolion dydd a hyd yn oed gan rai hýn. Deffry teitl y chwedl gyntaf, sef Helynt y Pibydd a aeth i Uffern ac a fedrodd ddy- chwelyd oddi yno yn ôl," gywreinrwydd pob un, ac ni siomir y neb a'i darlleno. Y mae'r Pajs oeddwn ieuanc, meddwais, a chyn sobri o'r meddwdod hwn syrthiais i rwydau serch. Yn y cyflwr hwnnw, ail-feddwais; yn wir, euthum yn ddifrifol o feddw, yn "sobr" ofeddw. Ni fu rhiain decach yn rhodio daear erioed wyneb fel y lloer, trem fel y wawr, dwyfron fel ewyn y don, dau droed fel dwy lili. Pa ryfedd i mi, lanc o lethr y mynydd, fynd o'i herwydd i ystad o benwendid anobeithiol ? Gweled ei gwrid. Yn yr ysgol ramadeg, Ue'r oeddwn yn ceisio casglu tipyn o wybodaeth, amdani hi y breuddwydiwn yn ystod gwersi'r dydd; a chyn gynted ag y deuai'r hwyr, diflannwn o olwg fy nghyd-ysgolheigion i ben y creigiau, neu i rannau anhygyrch o'r traeth; ac yno yr ymgwmnîwn â hi, ac yr ymddigrifwn yn ei geiriau swyn-hudol. Ar fy ngwyliau rhwng bryniau Ceredigion, clywn ei llais yng nghân pob hedydd, ac yn sŵn pob cornant gwelwn ei gwrid ar ros gwylltion y cloddiau, a chlywn beraroglau ei hanadl ar y rhosydd grug. -Ceiriog. i Gan i H. HUGHES ROBERTS, i Ysgol Ramadeg, Llangollen. i darn a ganlyn yn ein hatgoffa o Weledigaeth Uffern y Bardd Cwsg Y funud honno yr oedd y diawl bach yn chwilio oddi amgylch am enaid i'w gludo i Uffern. Dan redeg, cipiodd enaid y pib- ydd oedd newydd farw, a'i gymryd i Gaer Satan, dan ymfalchïo. Cyrhaeddwyd yno pan oedd y diawliaid yn dod gartref. Safai Pawl Gorniog wrth ymyl y Porth, ac wrth fynd heibio iddo, taflai ei wasanaeth- wyr ger ei fron a ddaliwyd ganddynt,- barnwyr, Hadron, marsíandïwyr, gwyr mawr, a hyd yn oed un neu ddau fynach, pawb wedi ei daro gan Angau, heb ei ddisgwyl. Syllodd brenin Uffern ar y trueiniaid, a gorchymyn eu taflu i grochan mawr, llawn o ddŵr berw. Ieir a dannedd iddynt. Yn yr hanesion yn dilyn, edrydd yr awdur chwedlau hud mewn gwledydd yr oedd llewych lleuad yn llawer gloywach ynddynt nag ar y ddaear, pan oedd anifeil- iaid yn siarad ac ieir â dannedd iddynt Sonnir ynddynt am ddraig a daflodd dân o'i llygaid am bedair milltir o bellter; am briodas ac ynddi bum can barel o win a llond can trol o bob math o gig. Daliwn ein hanadl wrth ddarllen am y Sant Bach Du," a bron na wylwn mewn Fy Nghariad Gan SARNICOL Ac yr oedd, heblaw ei thegwch, yn meddu ar etifeddiaeth fawr. Ffarwel Euclid, Algebra, Groeg a Lladin 'Doedd dim eisiau'r rhain ar ddyn ieuanc oedd yn mynd i briodi meinir gyfoethog ac o uchel dras Bywyd o fwyniant mwyach, Uawn o gan a chynghanedd. Yn anffodus, fodd bynnag, fe wnai rai troeon pur atgas a ddarganfûm ymhen hir, hir amser. Anwadal. Pan drefnwn gyfarfod â hi, anaml, neu'n ddiweddar iawn y cywirai'r oed. O'I ochr arall, efallai y galwai'n ddisymwth yn fy llety. Bu gwreigdda'r ty ymron a'i danfon dros y trothwy lawer gwaith oherwydd yr ymweliadau hyn. Ac wrth gwrs, arnaf i yr oedd y bai, nid ar fy ymwelydd. Erioed ni fu bun fwy anwadal na'r feinir a ddenasai fy mryd. Peth arall, arosai'n fud am oriau yn fy ymyl ambell ochenaid wan, brudd-felys, a dim rhagor. Yna'n ddi- cydymdeimlad â Loranz, y llanc pymtheg oed, pan gaeodd Mynydd Trevezel arno rhyfeddwn at fedr Alanig yn saethu'r hen gath yn ei hunig lygad ac at ei wrhydri yn lladd pennau'r ddau gawr. Adroddwyd chwedl yr Hen Fenyw wrth yr Abbé Perrot, un o wlatgarwyr mwyaf diwylliedig Llydaw heddiw," ac iddo ef a'r Athro T. Gwynn Jones y cyflwynir y llvfr. Yr Arddull. Hoffwn yn fawr arddull yr awdur. Da yw cyfarfod ag ambell gystrawen fel Ac yntau wedi yfed gormod o sidr" (td. 1) ymborthai ar a saethai â'i fwa a chysgu'r nos (td. 28) Y Fodrwy Goll (td. 41) byr ei anadl (td. 3) Yr wyt yn dy roi dy hun (td. 14). Er hynny, sylwais ar wallau a lithrodd i'r gwaith sy'n ei anurddo. Er enghraifft: gartref yn Ue adref (td. 12, 26) perigl yn lle perygl (td. 14, 53) oblegyd yn lle oblegid (td. 20) yn ddeilchion yn lle yn deilchion (td. 23) feallai yn Ue efallai (td. 33) cynygiodd yn lle cynigiodd (td. 52). Y mae rhwymiad ac argraffiad y llyfr yn ganmoladwy. Yr γm dan rwymau mawr i'r awdur am gasglu'r chwedlau hyn. Nid gwaith hawdd oedd eu trosi i ddull y Cymro o feddwl, a hynny mor llwyddiannus. Nid oes raid iddo bryderu na feithrin y llyfr yr hen gyf- athrach rhwng Cymru a Llydaw. symwth, wele argaeau ei mudandod yn rhoi ffordd a thyna'r llifeiriant mwyaf aflywodr- aethus o huodledd ar a glywsoch â'ch clustiau erioed y geiriau'n taro yn erbyn ei gilydd ac yn clecian fel coedwig dew dan ffiengyll tymestl aeaf a minnau'n aml yn gwneud fy ngorau i osod ei geiriau i lawr ar bapur, i'w trysori'n ddiogel ar gyfer rhyw ddyfodol pell. Hudo eraill. Peth arall eto er ieuenged ei gwedd, deellais bob yn dipyn bach, bach, ei bod yn hen yn hŷn o lawer, na myfi. Nid dyma'r tro cyntaf i'r faeden gyfrwys lithio glaslanc dibrofiad i'w maglau deniadol. Darganfûm, yn nhreigl amser, ei bod wedi hudo eraill ac nad oedd braidd lanc yn y fro na fuasai ryw- faint yn ei chymdeithas. Daeth y ffaith i olau dydd yn raddol mai hi oedd yr hoeden fwyaf a fuasai yn y pentref erioed bod llaweroedd yn glaf o'i chariad bod un neu ddau wedi mynd yn wallgof o'i hachos a sibrydid gyda'i sobrwydd mwyaf pen-sigledig ei bod wedi achosi tranc annhymig un a fuasai yn ei chwmni ar hirnos oer o Ionawr hyd oriau mân y bore [I dudalen 96.