Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DRAMA FACH I YSGOL RAMA yw hon wedi ei seilio D ar chwedlau am Chwyldro Ffrainc. Fe'i perfformiwyd yn llwydd- iannus heb olygfeydd drwy roi papur lliw cyfaddas i awyrgylch y gwahanol olygfeydd, ar ddwy lamp gudd—un o boptu'r llwyfan—a diffodd pob golau arall rhoddwyd oraen i'r gwesty, glas i'r heol, llwyd i'r ystafell arlunio, a choch i'r ystafell fwyta. Cymeriadau SYR IEUAN Hen ŵr bonheddig. ELEN Hen ferch, chwaer Syr Ieuan. GWILYM Gŵr ieuanc o bendefig tua 30 oed. MAIR Geneth fach tua 12. Mabi Gwraig ifanc, meistres gwesty. RHEINALLT Hen filwr, tad Mari. MORWYN a PHEDWAR o FILWYR. Golygfa L [Ystafell mewn gwesty gyda bwrdd mawr, cadair freichiau, ac ychydig gadeiriau eraill.) GWILYM (yn dyfod i mewn, mewn gwisg garpiog) P'nawn da, Madam MARI (heb edrych arno, ond anwesu'r bachgen teir-oed yn ei breichiau) P'nawn da, syr. (Yn codi ei phen a syllu arno a gweiddi mewn braw) O Y Forwyn Be sydd, meistres ? MARI (yn cuddio'i braw) O, dim byd, dim byd. Y corgi bach 'ma rodd binsaid iawn i'm clust-i. (Yn taro boch y bachgen yn ysgafn â'i deufys.) Ffei ohonot-ti, Siôn, yn brjwo dy fam fel yna! (Yn ei gusanu rhag iddo wylo.) Beth a gymerwch-chwi, syr ? GWILYM A fedrwn-i gael tamaid o fara a chig, a llymaid ? MARI Mi af-i i'w cyrraedd yn awr, syr. Ond 'rych-chwi'n edrych yn flinedig. Eisteddwch yr ochr yma, bydd yn gynhesach ichwi. Gwilym Diolch. Yr wyf yn oer iawn, ac mae hon yn edrych yn gongl gynnes. MArI (wrth y forwyn) Dos i lanw'r crochan a'i roi ar dân y gegin, a chymer Siôn i'w grud. (A'r FORWYN allan â'r plentyn gan gau'r drws. Yna ymdafla MARI ar ei gliniau o flaen GWILYM a dweud yn gyffrous) Er mwyn y nefoedd, syr, ffowch, ffowch oddi yma GWILYM Mj-fi yn syr ? Beth ych-chwi'n feddwl ? Ha-ha 'rych-chwi'n camgymryd. MARI O, nag wyf-i, syr. Pwy allai gam- gymryd Gwilym, mab y Sieur de Montmorency, gŵr boneddicaf Paris gynt ? GWILYM (yn gyffrous) Pa fodd yr adnabuoch chwi fi ? MARI O, mi'ch gwelais chwi bob dydd pan oeddych-chwi'n byw ym Mharis. Ond 'rwyf- i'n erfyn arnoch-chwi, syr, ffowch Gedwch y 11e yma. 'D'ych-chwi ddim yn ddiogel un funud yma. Fe allai ysbiwyr y Llywodraeth eich adnabod, fel y gwneuthum i, ac fe gaech eich bwrw i garchar a'ch lladd. Y mae pawb yn elyn ichwi yma-pe doi fy nhad adref, byddai ar ben arnoch. Gwilym Beth, eich tad ? Mari A, syr, hen filwr yw ef, y mae-ef wedi tyngu bod yn ffyddlon i'r Llywodraeth (Clywir cam trwm a thrwst sbardunau'r hen filwr ar fuarth y tŷ.) Yr ALLTUD MARI Dyma fe'n dyfod 'Does dim amser bellach Ymguddiwch fan yna, fan yna. (Dengys MARI le i GWILYM o dan y bwrdd, a chropia yntau yno. Teifl liain hir ar y bwrdd nes mae'r plygion yn cuddio'r dieithryn yn hollol. Daw'r hen filwr i mewn.) RHEINALLT Wel, Mari fach Yr wyf-i'n ddigon blinedig i syrthio, wyddost-ti. Oes gyda thi ddim tamaid o rywbeth, da ti ? MARI O, ’r ych-chwi'n edrych yn oer, 'nhad. RHEINALLT 'Rwyf-i yn oer hefyd. Ar draws gwlad drwy'r dydd. Yr wyf-i wedi glân flino arno. 'Fedraf-i wneud dim rhagor. (Yn suddo i'r gadair freichiau.) Mari I beth yr ych-chwi'n peryglu'ch hoedl yn eich oed chwi, 'nhad ? RHEINALLT Am mai dyna 'nyletswydd-i. Maen'-hw wedi gweld brenhinwr-Gwilym de Montmorency neu rywbeth maen'-hw'n ei alw-fe—mewn degau o leoedd heddiw, ond mae'r corgi wedi rhedeg drwy'n dwylo. MAIR Edrychwch, 'nhad, dyma a ddaw â chwi atoch eich hun. (Yn gosod llestr o win a gwydr ar y bwrdd.) RHEINALLT O, mae fy syched-i bron llosgi 'nghorn gwddf. (Yn ei yfed a chlecian ei wefusau.) Oho, beth yw hwn ? MARI Tipyn o win. (Yn ail lenwi`r gwydr.) RHEINALLT Ond mae hwnnw'n enbyd am godi i'r pen, onid yw-ef ? MARI Y peth gorau yn y byd at wendid, ac mae arnoch-chwi angen cryfhad. Yfwch, 'nhad, fe wna les ichwi. (Yf yntau'r naill wydraid ar 61 y llall nes gwagu'r llestr ynfuan. Ymhen ychydig eiliadau y mae'n chwyrnu'n hapus.) MARI (â llais isel, gan godi congl o'r lliain) Mae-e'n cysgu. Codwch a dowch ar f'ôl i. (GWILYM yn ymlusgo'n ddistaw at y drws. Rhydd ei law iddi yn arwydd o ddiolch, cwyd hithau hi i'w gwefusau.) Diolch, syr, diolch ond er mwyn daioni, ewch, a Duw a'ch cadwo Gwilym Madam Diolched y nef ichwi drosof Nos da. MARI Nos da. (Â GWILYM allan, a pharatoa hithau at y pryd bwyd. Deffry'r hen ŵr gan ei thrwst.) RHEINALLT Tyrd, Mari, mae gen i eisiau cwsg yn fawr. Mae'r gwin yna wedi fy syfr- danu-i braidd. Mi hoffwn fynd i'r gwely. Nos da, Mari. Mabi Nos da, 'nhad. (LLEN.) Golygfa II. ( O flaen drws mewn heol tua 10 o'r gloch y nos. Egyr y drws yn araf a daw MAIR allan yn betrus a phryderus. Wrth iddi edrych i'w hochr hi i'r stryd, rhed GWILYM yn sydyn o'r ochr arall. Pletha'i ddwylo ac erfyn â llais dyehrynedig.) Gwilym Cuddiwch fi, cuddiwch fi, neu mi fydd ar ben arnaf-i. MALR Yr andros fawr (Yn meddwl am ennyd.) Canlynwch fi. (Yn rhoi ei llaw iddo a chychwyn i mewn.) GWILYM (yn clywed camre) Y mae rhywun yn dyfod MAIR Fy nhaid, mae'n debyg, yn dyfod adref. GWILYM (yn sefyU) Fy ngeneth fach-i—yr wyf-i'n credu oddi wrth eich llais eich bod- chwi'n bur ifanc-cyn imi fynd dim pellach, a Gan MEREDYDD J. ROBERTS fedrwch-chwi fy nghuddio-i heb i un o bobl y ty wybod bod dyn dieithr yma ? Mair O, mae 'nhad yn dda iawn, syr, 'wnai- ef byth GWILYM 'Dyw cyfrinach rhwng tri ddim yn gyfrinach. Unwaith eto, a eHwch-chwi fy nghuddio i a thewi ? MAIR GaUaf Canlynwch fi. (Ant i mewn yn ddistaw a brysiog. Ymhen ennyd daw hen ŵr urddasol at y drws a churo. Agorir gan ELEN.) ELEN A Ieuan, 'rych-chwi wedi cyrraedd yn ddiogel. Mae'r cinio'n barod ers meityn. (Ceuir y drws.) (LLEN.) Golygfa III. (Ystafell arlunio fechan. Y mae llenni ffenestr fawr yn ymestyn yn y canol i wynebu'r bobl. Y mae lamp fach ar y bwrdd. Ymbalfala Mair a GWILYM i fyny'r grisiau y tu allan ac i'r ystafell.) MAIR Dyma chwi yn fy ystafell i fy hun. Ydych-chwi'n ei hoffi ? (Clywir trawydd drws yr heol yn curo.) GWILYM Clywch. Pwy sy'n curo ? MAIR O, dyna 'nhaid yn dyfod adref. Gwilym 'Chaiff ef ddim gwybod fy mod i yma ? MAIR O, na chaiff. 'Fydd neb yn dyfod i'r ystafell hon heblaw fi fy hun yn y nos. Dyma lle 'rwyf-i'n peintio. Peidiwch â symud, achos mae'r 'stafell yn llawn o gerfluniau. (Yn troi golau llawnach o'r lamp.) Dyma batrwm yr ŵy a'r tafod dyma gerflun o'r Faune gan Michael Angelo, a dyma dipyn o'm gwaith fy hunan. (Yn dangos y gwrthrychau.) Onid yw'n wael GWILYM Nag ydyw'n wir, y mae'n dlws iawn (Yn ocheneidio gan boen.) MAIR A hoffech chwi eistedd ar fy nghadair i yma ? Gwell ichwi beidio â symud gallech dorri'r plastrau a buasai'r swn yn deffro'r forwyn sy'n cysgu am y pared. Gwell i mi fynd yn awr, neu bydd fy modryb yn chwilio amdanaf. (Yn cychwyn tua'r drws.) GWILYM Un funud cyn ichwi fy ngadael Yr wyf-i heb gael dim i'w fwyta ar hyd y dydd (Ei lais yn gwanhau.) MAIR Dim drwy'r dydd ? Wel GWILYM Allech-chwi ddim rhoi imi ddarn o fara ? MAIR O, medrwn, ond bydd yn rhaid aros nes bydd pawb yn cysgu. GWILYM (yn wannaidd): O'r gorau, mi arosaf MAIR Codwch eich calon, syr Codwch eich calon! (A allan gan gau'r drws. Yna, â llais isel) Ond cofiwch, peidiwch â symud (LLEN.) Golygfa IV. (Ystafell fwyta. Y mae hen ŵr yn swperu gyda hen ferch. Y mae ef yn haelionus ei wedd a hithau'n sur yr olwg. Neidia MAIR i mewn yn sydyn.) Elen (wrth ei nith): 'Dych-chwi byth yn brydlon wrth y bwrdd bwyd Lle buoch-chwi 'nawr ? MAIR 'Does gennyf i ddim eisiau bwyd, Modryb. ELEN Cedwch y Uestri, ynteu, Lis, achos mae 'mrawd a minnau wedi gorffen. MAIR Bydd gennyf-i eisiau bwyd ymhen awr, 'modryb, a gaf-i gymryd fy swper i'm hystafell ?