Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mwy sydd rhwng y ddau Geiriog-mor ddifesur yw Fel cynganeddwr. A gadael y telynegwjT am ennyd, beth am Ie Ceiriog ymhlith beirdd y Gynghanedd Nid oes iddo le. O'i gymharu ag awdlwyr grymus ein hoes ni, gwyr y mae eu myfyrdod cyn amlyced â'u hysgolheictod­Gwynn Jones, Lloyd Jones, Gwenallt Jones, Tom Parry-y mae Ceiriog yn dlawd a di- ogoniant. Y mae'n wir fod i'w awdlau fywyd—ni allai lai na bod-ond bywyd bas ydyw. Hyd yn oed yn ôl safonau ei oes ei hun, ni ffynnai Ceiriog yn yr awdl. Fel Twm o'r Nant a Thalhaiarn, ni fedrai yn ei fyw ennill cadair yr eisteddfod. Ar ddamwain y trawai'r hoel yn y mesurau caethion. A'i ddamwain hapusaf oedd ei engljii i'r deljrci. Y mae'n naturiol cymharu hwn ag englynion adna- byddus Gwallter Mechain a Robert ap Gwilym Ddu iddi. Dyma englyn yr offeiriad rhadlon Plethiadau tannau tynion—у delyn I'r dilesg feddylion Odlau saint yw adlais hon, Llais neu fawl llys nefolion. Nid oes yn hwn fywyd, bas na dwfn. Beth am gais yr hen ffarmwr ?- Peiriant i gerddor parawd,—areithfa Yr wythfys a'r ddwyfawd Tery eithaf tri wythawd Eurllaes gorff i arllwys gwawd. Englyn cywrain cywrain a marw, fel bwlb trydan oer yn aros y fflam ni ddaw. Ond yng Ngheiriog y mae gwres gwastadol. Ar achlysur, goleuni a gwres. A'r pryd hwnnw nid oes hafal iddo Rhwng tair cornel y delyn­-mae oesol Fôr miwsig diderfyn. Sylwer ar ffigur y paladr o fôr i'w nofio. Pa long ledrithiol a'i nawf ? Rhwng tair cornel y delyn—mae oesol Fôr miwsig diderfyn Tonnau heirdd yw'r tannau hyn I dristwch nofio drostyn'. Dyma un ateb, 0 leiaf, i'r cwestiwn, Beth a rydd gyfrif am ei fri hen a newydd ? Dau fath o feirdd sydd Ceiriog, ac eraill. II DIDDOROL fai gwybod a adwaenai Ceiriog y rhagor rhwng ei deilyngdod a'i annheilyngdod, rhwng ei wych a'i wael. Mwy buddiol i ni bellach fai gofyn, A edwyn ei ddarllenwyr Ni wnâi darllenwyr ei oes ef canys mwynhaent yn anfeirniadol bopeth a ddeuai o'i law. Mwynhaent y chwerthin a barai ei ganeuon llon iddynt: mwynhaent y dagrau a barai ei ganeuon lleddf y crechwen a barai ei ganeuon ffôl. Bellach, gwyddom y gwahaniaeth rhwng arian ac aur y beirdd. Pe gofynnid inni beth sydd fwyaf ym marddoniaeth Ann Griffiths, er enghraifft, nid atebem fel yr atebid ugain mlynedd yn ôl. Ni ddywedem mai Rhoi Awdwr bywyd i farwolaeth, A chladdu'r Atgyfodiad mawr. Strôc feiddgar ddi-angof, y mae'n wir strôc, er hynny; cans gwyddom y gallasai'r Dr. Charles Williams, na honnai fod yn fardd, gyfleu'r un syniad yn yr un geiriau bron ar un o'i bregethau gorffenedig. Ond gwyddom nad hwn yw'r gogoniant noeth, di-addurn, y bûm yn sôn amdano y cledd o'r wain. A gwyddai Ann Griffiths, oherwydd ym mhennill olaf yr emyn y mae'n rhoi ail- gynnig arni. Ac onid yw'n Uwyddo'n ysgubol? Y greadigaeth ynddo'n symud, Yntau'n farw yn y bedd. Pe gofynnid inni ddyfynnu rhai o linellau ysbrydoledig Islwyn yntau, nid enwem y rhain Noa yw y dydd sy'n cadw'r sêr o'r golwg, A dydd yw'r nos sy gwneud y nef yn amlwg. Ond y llinell ddifesur honnc-y ddau hanner llinell yn hytrach-v daeth y Dr. Parry- Wilhams o hyd iddynt ar ei sgawt drwy Islwyn ystalwm Ynom y mae'r sêr A phob barddoniaeth. Mi hoffwn, yn null Euclid, gynnig diffiniad newydd yma. Beth yw Barddoniaeth ? Llinellau di-ben-draw. Ni restrwn bethau tarawiadol Eifion Wyn ychwaith ymhlith ei bethau gorau, fel y Am nad yw Ceiriog yn ceisio'n twyllo ni, madd- euwn iddo am ei dwyllo 'i hunpan feddyliai eifodyn barddoni pryd nad oedd." cwestiwn huawdl hwnnw y mae pawb yn ei ofyn ar ei ôl Pam, Arglwydd, y gwnaethost Gwm Pennant mor dlws, A bywyd hen fugail mor fyr ? Gwell gennym Eifion Wyn mewn cywair îs, fel yn ei gân i Fedi Pan fo'r mwyar ar y llwyni, Pan fo'r cnau'n meljnu'r cyll. Mewn gair, gwell gennym aur y beirdd na'u perlau (yn enwedig yn y byd sydd ohoni). Sofren a swllt. Yr un modd, gwyddom bellach y gwahan- iaeth rhwng sofren a swllt Ceiriog. Nid ces ganddo ef berlau. Nid yw Ceiriog yn glyfar, yn bert (yn ystyr y Gogledd i'r gair), yn darawiadol, yn smart, yn gywrain ac o ganlyniad fe bery'n ddarllenadwy i'r neb y blinir ei ysbryd gan y teithi hyn-ym mhawb ond ef ei hun Y mae'n falm i nerfau rhacs- iog deimlo llyfnder tirion Ceiriog oddi allan, er iddynt beidio â derbyn dim maeth oddi mewn. Ac am nad yw Ceiriog na chlyfar na chastiog, maddeuwn iddo aflerwch ei iaith. Nid oes iddo nemor gelfyddyd ond ni chais ein perswadio fcd. Ac am nad yw'n ceisio'n twyllo ni, maddeuwn iddo am ei dwyllo'i hun lawer tro pan feddyliai ei fod yn barddoni pryd nad oedd. Hwyl ar wylo. Ond y mae un trosedd yn ei waith na ellir yn hawdd ei faddau iddo. Dywedwyd gynnau mai ei galon a yrrodd Geiriog bellaf ar gyfeiliom oddi wrth gelfyddyd, nid ei orgraff a'i gystrawen. Ac y mae'n senti- mental. Y mae'n cael hwyl ar wylo, ar fwynhau ei riddfannau a'i ddagrau. Y mae mewn cariad â bod mewn cariad. Y mae'n barod iawn i glywed corn y gad hefyd; corn anfeidrol ei ddolef o'i saernïaeth ef ei hun. Felly, gwyddom mai ychydig iawn o aur barddoniaeth sydd mewn cerddi fel Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," Wyt ti'n cofio'r lloer yn codi ? "I Blas Gogerddan." Ni byddai waeth gan olygydd blodeugerdd heddiw gynnwys Nedi Jones ac Evan Benwan na chynnwys y tair hyn. III YPETH diwethaf, a phwysicaf, a gyhoedd- wyd ar Geiriog yw astudiaeth o'i fywyd a'i waith gan Mr. Saunders Lewis drwy Wasg Aberystwyth ac yr wyf am ryfygu anghyd- weld, ar bwynt neu ddau, â beirniad llen- yddol mwyaf yr oes yng Nghymru,-pob oes yn wir. Nid yn unig oherwydd bod i bawb groeso i wneud hynny gan y cyfaill hynaws, ond hefyd oherwydd bcd bron bopeth a honnais hyd yma am Geiriog­-ei iechyd oddi wrth chwiwiau llenyddol, apêl genedlaethol ei ganu, ei lyfnder greddfol- yn groes i lawer o ddyfarniadau Mr. Lewis arno. I'm tyb i, rhydd ef bwys gormodol ar ddylanwadau. (Dylanwadau, Mudiadau, CysyIltiadau,-fendigedig eiriau beirniad- aeth !) Dylanwad Creuddynfab ar ei fuchedd farddol dylanwad dosbarth canol Cymry Manceinion ar ei eirfa farddol dylanwad damcaniaeth farddol Ceiriog ei hun ar ei waith. Nid oedd raid wrth ddysg newydd Creuddynfab am fodd a mater barddon- iaeth i ddiddyfnu Ceiriog oddi wrth y Gynghanedd, nac i gymell ei enaid cynnes, cyffredin, i ganu ysbryd ei oes canys dyna a wnaethai wrth reddf. Ac onid yw'n annuwiol awgrymu, fel y gwna Mr. Lewis, mai i borthi hiraeth a chyfarfod chwaeth lenyddol gwragedd siopwyr Manceinion y canwyd Nant y Mynydd, telyneg y telynegion ? Daear atgof. Bid siwr i Geiriog ganu ambell gân ddir- westol, ambell emyn yr Ysgol Sul, ar gais cyfeillion, fel y gwnaeth Pedr Fardd o'i flaen. Ond chwith fai meddwl mai Lerpwl. ac nid Eifionnydd, a roes i Gymru ei thrydydd emynydd. Am ddysg Ceiriog am gynnwys ac iaith prydyddiaeth yn Y Bardd a'r .Cerddcr," onid troi gorfcd yn gysur a wnâi pan roddai fwy o sylw i felusedd swn nag i ddrych- feddyliau mawreddus," fel y gweddai i fardd cedd yn fwy na hanner cerddor ? Yn hanes datblygiad y bardd Ceiricg, rhcdder i Fan- ceinion ]e ychydig uwch nag a rcddid i Gaer- dydd ac Aberystwyth yn hanes twf yr Athrawon Gruffydd a Parry-Williams-pryd- yddion daear atgof fel yntau. Nid oes neb a ddarllencdd Geiriog na thystia i afael ddi-ollwng mynyddcedd ei faboed arno yr afael sicraf o bob un a brofodd. Darllener Nant y Mynydd, y gân honno sy'n wynfyd ac anobaith beirdd. Darllener hi yng ngolau ei thestun am dro. Nid ei theitl yw hwnnw nid nant y mynydd, ond y Mynydd-dihysbydd destun Ceiriog. [I dudalen 96.