Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMRY SELOG AWSTRALIA. Gan BALDWYN M. DAYIES^ YR ydym yn dal i chwifìo baner Cymru er gwaethaf popeth. Bu Sosial a Dawns yn Chwaraedy Alpha, Booval, yn ddiweddar, i helaethu trysorfa'r Eisteddfod, a throsglwyddwyd pum gini i'r Drysorfa. Telir 60 gini i'r beirniad cerdd, a deuddeg gini i'r beirniad adrodd. Ychydig flynyddoedd yn ôl, telid can gini yr un am yr un gwaith. Ond nid yw'r Eisteddfod yn ym- heangu yn ffordd Eisteddfod Gen- edlaethol Cymru. Cerddoriaeth ac areithyddiaeth sy'n ysgubo popeth arall o'r neilltu. Nid ydyw'r gerdd- orfa'n cael y sylw a ddylai gael nac ychwaith gelfyddyd. Dathlu dau ben blwydd. Nid yn aml y ceir llywydd cym- deithas a'i hysgrifennydd yn dathlu eu genedigaeth yr un dydd. Ond felly y bu gyda Llywydd Cym- deithas Dewi Sant yn Blackstone, sef Mr. R. H. Lewis a'r Ysgrifen- nydd sy'n anfon y llith hon. Cyfarfu Uu o'r aelodau a chyf- eillion Mr. Lewis yn ei dy. Cyf- lwynwyd anrheg o hugan trafeilio wedi ei wneud mewn ffactri leol ac amlen yn cynnwys arian i Mr. Lewis gan y Parch. James Davies, gweinidog yr Eglwys Gymraeg. Y Radio'n Llongyfarch. Dymunwyd hir oes ac iechyd i'r Ysgrifennydd, sydd wedi bod gyda'r Gymdeithas er pan sefydlwyd hi Ddygwyl Dewi, 1914. Anfonwyd llongyfarchion i'r Llywydd a'r Ysgrifennydd ar y di- wifr o orsaf 4 B.C. Brisbane, a gwrandawyd arnynt yn y cyfarfod. Bu cyfarfod i groesawu ymwel- wyr, sef Mr. a Mrs. W. Davies a Mrs. R. E. McInnes, aelodau o Gymdeithas Gymreig Melbourne, a Mr. H. Puleston Jones o Lanidloes. Dywedodd y Llywydd, Mr. R. H. Lewis, fod y plant oedd yn chwarae yn ystrydoedd Blaekstone 20 mlyn- edd yn ôl yn siarad Cymraeg, ond nid felly y mae heddiw. Y mae tô wedi codi sy'n siarad Saesneg, er bod eu rhieni'n Gymry. Mr. E. A. Rawson. Daethpwyd â'r ymwelwyr o Brisbane i Blackstone gan Mr. E. A. Rawson, Llywydd cyntaf Undeb y Cymdeithasau Cymreig yn Awstralia. Yn ei anerchiad ar Gënedl- garwch y Cymry, dywedodd Mr. Rawson ei fod yn credu y dylai Cymru gael Ymreolaeth. Y peth mwyaf cethin o bopeth yw gweld Cymro'n treio bod yn Sais. Credai pe bai Llywodraeth yng Nghymru heddiw, fel a welir yn Awstralia, y buasai'r tlodi a welir yno'n diflannu. Buasai gweithfeydd car- tref yn cael symbyliad a gwaith i bob un. oedd ei eisiau. Beth y mae'r aelodau Cymreig yn ei wneud dros hyn Y Canmolodd Mr. R. H. Owen, Melbourne, am weithio i ddwyn Cymdeithasau Cymreig Awstralia yn un cörfîi Un enghraifft o hyn oedd y cròeso hwn. TRIN EIN CERDDORION YN WAEL. YN y dyddiau diwethaf hyn, ymddengys fod pob ymdrech at sefydlu Cymdeithas Gôr Gym- reig yma yn aflwyddiant. Gwir bod Cymdeithas mewn bod, a gwyr brwdfrydig wrth y llyw; ond digon dilewych ydyw, a'r aelodau yn ychydig a'r mwyafrif yn an- ffyddlon. Y mae pethau'n fain ar ein cerddorion proffesedig. Daw am- ryw o fechgyn a merched ieuainc i Lundain i'r colegau cerdd ac y mae gair da iddynt fel cantorion ac ofEerj-nwjr ond ofer iddynt obeithio am gynhaliaeth oddi wrth eu cydwladwyr yng Nghymru na Lloegr.. Plant yr Eisteddfod. Plant yr Eisteddfod yw'r bechgyn a'r merched hyn, ac ar gais beirn- iaid ac eraill o arweinwyr cerdd yr hen wlad, aberthasant bopeth er mwyn eu perffeithio'n hunain a chyflwyno'u talentau i wasanaeth eu cenedl. Ein braint a'n dyletswydd felly yw eu cefnogi; ond Saeson a thramorwyr a wahoddir i'r cyng- herddau a gadael i'n plant ein hunain ddioddef eisiau. Penderfynwyd sefydlu cangon o Gymdeithas Caredigion Cerdd. Bu cyfarfod yn Neuadd y Cymry Ieu- ainc, a llond llwyfan o siaradwyr, yn cynnwys Syr Walford Davies, Mr. E. T. Davies, Bangor Dr. David Evans, Caerdydd; Dr. Maurice Jones, Llanbedr Dr. D. de Lloyd, Aberystwyth, a'r Dr. J. Lloyd Williams. Datgenid gan Miss Dilys Jones ac Owen Bryngwyn â Mr. Hywel Hughes wrth y piano. Gwlad Forgan. Ceir brwdfrydedd mawr ym myd chwarae. Yr oeddym bron wedi anobeithio ennill ym mrwydr fawr y Rygbi yn Twickenham, ond aeth- pwyd â'r maen i'r wal o'r diwedd. Mawr y gweiddi a fu ar ôl yr ornest, a heolydd Llundain yn llawn o fechgyn a merched ag acen gwlad Forgan a gwlad Fyrddin yn amlwg ac yn bersain i'r glust. Yn ddiweddarach, daeth dwy fil neu ragor o Gymry i'r Olympia i weld Jack Petersen yn rhoddi'r Sais Pettifer trwy ei bethau mewn gornest dyrnau. Gan LLUDD. Dywedir i mi mai Cymraes yw mam Jack. At Ddygwyl Ddewi. Fel arfer, paratowyd i ddathlu Gwyl Dewi Sant yr Eglwyswyr yn cael Cymanfa yn Eglwys Gadeiriol Paul Sant, a'r Parch. Ben Jones, Llanfairisgaer, yn pregethu dwy bregeth gan yr YmneUltuwyr yn y City Temple (y Parchn. Joseph James, Narberth, a D. Tecwyn Evans, Bangor) cinio mawr yn y Trocadero, Mr. Dan Thomas yn Ilywyddu a'r Arglwyddes Astor, A.S., yn un o'r gwahoddedigion dawns o dan nawdd Cymdeithas y Cymry leuainc, a dathlu Heol gan y gwahanol Gymdeithasau Llên. Trueni na cheid dathlu gan y plant, .ond gobeithir y daw hynny pan fydd rhif aelodau ac adrannau'r Urdd wedi cynhyddu yn y ddinas. Nid yw'r Welsh National Theatre Movement" wedi cydio rywsut, ac ychydig oedd nifer y Cymry yn perfformio comedi Mr. Richard Hughes. Efallai mai'r rheswm nad apelia yw, mai cyflead Saesneg a roddir o'r bywyd Cymreig. Eisiau hwb sydd arnom i'r ddrama Gymraeg, ac am hyn rhaid parhau i ddibynu ar yr Undeb a'i chymdeithasau. Gwyr Arfon yn swperu. Yn swper blynyddol Cymdeithas Arfon yn Whiteley's, o dan lyw- yddiaeth Mr. Huw Watkin, y gŵr gwâdd oedd Mr. R. Hopkin Morris. Canwyd gan Madame Laura Evans- Williams, a Mr. David Evans, Mr. Meirion Williams yn cyfeilio a Miss Dilys Morgan, fuddugol yn Eis- teddfod Genedlaethol Llanelli, yn canu'r delyn. LERPWL Y MIS HWN. \7N ystod Chwefror bydd un X o brif atyniadau'r tymor, sef Eisteddfod Prifysgol Lerpwl ar yr 11 o'r mis. Ar y trydydd o'r mis cawn Mr. Iorwerth Peate ar aelwyd y Gymdeithas Genedlaethol ei destun fydd Crefft a DiwyUiant." Ar y pedwerydd fe fydd Eis- teddfod Plant Bootle gyda'r gystad- leuaeth ddrama y nos Fercher cynt. LERPWL YN ERBYN MANCEINION. Gan HENRY ARTHUR JONES. CAFWYD darlith wych gan Mr. Rhys T. Davies, Tre- ffynnon, yn y Gymdeithas Genedl- aethol, ar Ieuan Gwynedd a'r diwyUiant cynhenid." Yr oedd Ieuan Gwynedd," meddai, yn bortread o hen ddi- wj'lhant Cymru yn ei ysblander." Ymwelodd cynrychiolaeth dda o Gymdeithas Genedlaethol Gymreig Lerpwl â Chymdeithas Genedl- aethol Cymry Manceinion, nos Wener, Ionawr 20, i ddadlau ar bwys yr Iaith yn addysg a bywyd Cymru. Amddiffynnid y Gymraeg gan Mr. J. H. Jones, Lerpwl, a Miss Gwiadys Owen, Manceinion. Y Parch. W. J. Jones, Manceinion, a Mrs. Iorwerth Hughes, Lerpwl, oedd yn gwrthwynebu. Cadeiriwyd gan Mr. J. Ceinion- ydd Roberts, a diolchwyd ar ran yr ymwelwyr gan Mr. H. Humphreys Jones. Y mae Mr. a Mrs. Iorwerth C. Peate wedi derbyn gwahoddiad Cymdeithas y Ford Gron i fod yn westeion yng nghinio'r Gym- deithas, nos Sadwrn nesaf, yn Café Exeter, Deansgate, Manceinion. Dr. John Thomas. Trist oedd clywed am farw'r Dr. John Thomas, Wilmslow, Man- ceinion, yn chwech a deugain oed. Ef oedd un o brif gyfarwyddwyr yr Imperial Chemical Industries, Ltd., ers deng mlynedd, a bu ganddo ran amlwg yn natblygiad y diwydiant ym Mhrydain. Ganed Dr. Thomas yn Harlech. Efrydodd yn Aberystwyth a Chaer- grawnt, a derbyniodd radd anrhyd- eddus y D.Sc. gan Brifysgol Cymru am ei ymchwil i ddefnyddiau ffrwydrol. Yr oedd yn Gymro trwyadl, a Chymraeg oedd iaith ei aelwyd yn Wilmslow. DARLITH MR. EAMES YN OLDHAM. Gan J. H. CAFODD y rhai a ddaeth ynghyd wledd o wrando ar Mr. W. Eames, Prestatyn, yn darlithio ar Gymry Yfory." Darlun go dywyll a dynnodd o gjrclwr Cymru. Y mae hithau, fel gwledydd eraill, yn cael ei rhan o'r dirwasgiad sy led-led y byd, ond bod Cymru dan anfantais oherwydd anamlder ei diwydiannau. Uechi a Phriddfeini.. Dywedai nad oedd lawer o alw ar lechi Ffestiniog a Bethesda, na phriddfeini läùwabon, er eu bod yn gyffredin yn cyrraedd parthau pella'r byd. Dylid manteisio ar olygfeydd digyffelyb Cymru, a'u troi'n gynhaliaeth. Maentumia'r darlithydd inni gyrraedd y garreg filltir, ac mai o Gymru y daw'r weledigaeth, drwy athrylith gynhenid y Cymro. Cadeiriwyd gan Mr. Emrys Hughes.