Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ceiriog, bardd heb ei debyg (0 dudalen 94.) Sylwer fel y mae Uytlirennau'r enw hwn yn gysur ac yn hedd i'r bardd hiraethlawn Nant y mynydd groyw loyw. Dywedais gynnau na cheisiai Ceiriog odlau dwbwl mwy na rhyw odlau eraill. Digwydd- odd iddo wneud un yn llinell gyntaf ei gân fwyaf Xant y mynydd groyw loyw, Yn ymdroelli tua'r pant, Rhwng y brwyn yn sisial ganu,- O na bawn i fel y nant Grug y mynydd yn eu blodau, Edrych arnynt hiraeth ddug Am gael aros ar y bryniau Yn yr awel efo*r grug. Adar man y mynydd uchel Godant yn yr awel iach, O'r naill drum i'r llall yn hedeg,- O na bawn fel deryn bach Mab y mynydd ydwyf innau Oddi cartref jn gwneud can Ond mae nghalon yn y mynydd Efo'r grug a'r adar man. Y delyneg berffeithiaf. Dyna delyneg berffeithiaf Ceiriog. Dyna hefyd delyneg berffeithiaf barddoniaeth Gym- raeg. Yn nesaf ati daw cân yr un bardd ar yr un testun-" Aros mae'r mynyddau mawr." Ond un o gyfres yw honno, a gwelir anfantais hynny yn ei phennill olaf. Yn nesaf at y ddwy daw Cwyn y Gwynt Syr John Morris-Jones, mae'n debyg. Ond canai Ceiriog cyn dyfod dylanwad Heine a Housman ar delynegwyr Cymru. IV DYNA geisio dangos camp a rhemp Ceiriog. Beth amdano bellach ? Beth fydd y farn derfynol arno ? Edrycher ar wyneb y dyn yn y lluniau sydd ohono. Y mae mor grwn ag afal yr oedd mor writ- goch hefyd, mae'n ddiau. Ac onid afal yw ei waith-afal melys, aeddfed, wedi pydru yma ac acw ? Na. 'thâl y gymhariaeth yna ddim. Dyweder yn hytrach mai ystordy afalau ydyw. yn llawn aroglau pêr rhai ohonynt yn bwdr drwodd. rhai'n ddrwg mewn mannau, rhai'n dda i bawb eu bwyta, a rhai'n ddigon da i'r duwiau. Ym Mhowys Baradwysaidd (0 dudalen 75). Nid oes achos Ymneilltuol yn y dreflan ei hun, ond y mae gan yr Annibynwyr gapel yn ymyl, lle y mae gwasanaethau Cymraeg a Saesneg bob yn ail. Rhed ffin y ddwy iaith drwy'r dreflan Cymraeg a siaredir un ochr a Saesneg yr ochr arall. Ar ôl yr Eglwys, y peth mwyaf nodedig yw bedd Ceiriog, a daw nifer i'w weld bob blwyddyn—rhai ohonynt o eithafoedd y ddaear. Bu'r bardd farw yn 55 mlwydd oed. Y mae'r beddargraff, o'i waith ei hun, yn adnabyddus i filoedd Carodd eiriau cerddorol-carodd feirdd, Carodd fyw'n naturiol Carodd gerdd yn angerddol, Dyma'i lwch,—a dim lol. Y PAPUR NEWYDD A'I RYM (0 dudalen 81.) Y tywyllwch o'n hamgylch. Ac os ydym am ddal yn agored i'r llif estronol sydd yn dod i'n cartrefi heb unrhyw nerth i'w wrthsefyll, pa beth sydd i ddod ohonom ? Dyma gyfle i'r newyddiaduron helpu eu chwaer wan. Nid yn unig disgwyliwn am radio Gymreig i roddi inni adloniant, ond y mae'n rhaid er mwyn cadw yn fyw ddiwyll- iant ein cenedl ac er mwyn rhoddi i bob cartref ffrwyth meddyliau effro ein dydd. Yr ydym yn byw yn oes y chwilio ac yn oes y darganfod, a chredaf fod y tywyllwch yn dewach o'n cwmpas am ein bod yn ymyl gwawr. Os felly, rhaid i bob cenedl gadw ei chlust a'i llygaid yn agored i wrando ar eiriau ei phroffwydi ac i weled yn eglur bob pelydryn a dyr drwy'r cwmwl. Pam yr ydym ar ol ? Yr ydym ar ôl yng Nghymru heddiw am fod y tadau Piwritanaidd wedi magu cenhedl- aeth o bobl hunanfoddhaol ac anobeithiol o ddiog eu meddyliau. Dyma'r bobl mewn oed heddiw. Gydag ychydig iawn o eithr- iadau, ni allwn edrych atynt am ddim. Yr oedd yr hen bobl yn llawer mwy effro eu meddyliau ac yn chwilio'n ddyfalach am Pobl Ryfelgar ydyw'r Cymry—(o dudalen 77.) Yn bersonol, y mae'n well gennyf delfryd sifalrïaidd paganaidd na'r hunan-ymwadu a'r hunan-ddarostwng Cristnogol. Ond nid yn unig hynny, ni allai'r hunan-ymwadiad hwn fod yn bosibl i'r rhan fwyaf o ddynion. I'r ychydig y rhoed gyrfa mynach. Ac y mae'r ysbryd balch yn rhan hanfodol o ddyn, pa un a edrychir arno fel pechod ai peidio, ac y mae'n angenrheidiol i gymdeithas urddasol. Fy nghred i yw mai mwy o'r ysbryd hwn yw un o brif anghenion Cymru heddiw. Oblegid nis ceir, yn ei Ie ceir mân gecru ac vmrannu hunanol. Yn ôl rhamantau'r canol oesoedd, y mae i syberwj'd ochr gymdeithasol bendant. Perchir un marchog gan arall. Ni threwir dyn ar lawr. Os gorchfygir un gan arall, fe dderbyn ei orchfygiad heb amcanu at ddull- iau twyllodrus o ddial. Gwyr pawb nad y rhain yw delfrydau bywyd Cymru heddiw. Fy Nghariad­—(o dudahn 89.) Ha.erai rhai mai ar y bechgyn yr oedd y bai ac y dylid cadw'u trwyn ar y maen drwy'r dydd a'u gyrru i'w gwelyau'n brydlon yn yr hwyr a pheidio er dim â rhoddi can- hwyllau iddynt, i'w cadw rhag llythyron caru a phob ffwlbri sy gan dwymyn serch. Deellais cyn hir mai'r peth mwyaf ansicr o gwbl yn ei chylch oedd ei golud. Gofyn- nais gyngor ar y pwnc gan ŵr profiadol a phur gynhefin â'i theulu. Paid, er dim," ebe'r dyn doeth hwn, â gosod ffydd, na hyder na gobaith yn ei meddiannau bydol. Dichon bod ganddi olud yn rhywle ond y mae wedi ei glymu mor ddiogel fel nad yw'n debyg, hyd yn oed pes priodet hi, y ceffit ddimai goch yn waddol oleuni. una beth am eu piann í Onid oeddynt hwy yn byw yng ngwlad y breintiau mawr ? Onid oeddynt wedi gweled diwyg- iadau yn ysgubo y wlad ? Onid oeddynt wedi profi pethau mawrion, ac yn blant i bobl wedi profi pethau mwy ? Felly eisteddasant i lawr, a'u dwylaw ymhleth, i gynnal cymanfa o hunan-glod a hunan-ddigonedd ac i chwarae crythau bodlonrwydd tra'r ysid dinasoedd eu meddyliau gan dân difaterwch. Pe bai Paul yn fyw heddiw. Heddiw y mae'r wlad, mi gredaf, wedi sobri ac yn disgwyl am alwad ac arweiniad newydd. Efallai mai trwy'r newyddiaduron y mae yr alwad yma eto i ddod. Pe buasai'r ysgrifennwr llythyrau mawr hwnnw, Paul, yn fyw yn ein gwlad heddiw, tebygaf na allai yntau wrthsefyll y cyfle yma o ysgrifennu pwt o lythyr i genedl y Cymry ar ymddangosiad ein papur newydd, Y Cymro." Tybiaf hefyd mai swm a sylwedd ei lythyr fuasai yr un ag oedd swm a sylwedd ei lythyr at y Rhufeiniaid ganrifoedd yn ôl Y nos a gerddodd ymhell, a'r dydd a nesaodd; am hynny bwriwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau y goleuni." Y mae r Cymry n byw ym myd syniadau yn lle byd gweithrediadau. Hynny yw, etifeddiaeth canrif a hanner o bregethu cyson. Gan hynny, hoff gan Gymru sôn am han- iaethau fel heddwch ac ewyllys da, a thalu tanysgrifiadau ac arwyddo penderfyniadau. Y mae hanfod y syniad o Gynghrair y Cenhedloedd yn ardderchog, ac yn angen- rheidiol i'r byd, eithr nid y dull Cymreig presennol yw'r dull i'w hyrwyddo. Dywedaf eto, y mae'n rhaid cael mwy o egni yng Nghymru, mwy o fawredd a hel- aethrwydd mewn bywyd, mwy o weithredu a llai o ffurfio syniadau annelwig. Rhaid i ni feithrin rhinwedd syberwyd," balchder personol, a pharch at gyd-ddynion. Rhaid rhoi mwy o Ie i foesgarwch yn ein bywyd. Bydd hynny'n gam bras tuag at ddileu plwyfoldeb Cymru. ganddi. Os am help i wario dy dda, prioda'r chwaer Ceridwen i Aeth blynyddoedd heibio ac er cywilydd imi, rhaid yw cyfaddef na ddarfu imi byth ym- ddihatru yn llwyr oddi wrth ei hudoliaeth. Treuliais lawer hwyr yn ei chwmni'n ddirgel sisialai'r hen sibrydion yn fy nghlust ac er gwybod ohonof yn dda ei hanwadalwch a'i thwyll, bûm yn gaeth i'w swyn drwy gydol f'oes. Nid myfi yw'i unig un a lusgwyd i bawenau La Belle Dame Sans Merci,yr Awer swyn-hudol, oherwydd fy meddwi gan wobr a enillais mewn Eisteddfod fach pan oeddwn yn lasgrwt pedair ar ddeg oed