Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFROL m. RHIF 5. Y FORD GRON GWAsG Y DYWYSOGAETH, WRECSAM. TüiffSn: Wrecsam 622. London Agency: Thanet Hoose, 231-2 Strand. YR ATEB FE ddywedir ac fe wneir llawer o bethau rhyfedd yr wythnos hon yn enw Dewi Sant. Dyna'r arfer er pan ddechreuwyd dathlu ei ŵyl. Fel cenedl foesgar, fe fyddwn ninnau'n goddef y cwbl, hyd yn oed foli'r iaith Gymraeg yn Saesneg. Pan dyf plant yr Urdd i oedran gŵr, efallai y bydd y Cymry'n llai goddefgar. Fe glywir eisoes fwy o wrthdystio nag a fu yn erbyn gormod o Saesneg yng nghyrddau blynyddol yr ysgolion sir a'r cyffelyb. Fe allem wneud hynny'n amlach, a bod yn foesgar yr un pryd. Onid yw'n bryd i'r teimlad sydd y tu ôl i'r gwrthdystio a'r goddef gael ei fynegi'n onest ac wyneb-agored mewn polisi cenedlaethol ? Un ai o anwybod neu o haerllugrwydd gwirfodd, fe ddelir ati i roi'r lle blaenaf i'r Saesneg ar achlysuron hollol Gymreig, yn enwedig yng nghylchoedd addysg. Un ai y mae hyn i'w gyfiawnhau, neu nid yw. Os lleiafrif y genedl yn unig sy'n gwrthdystio ac yn goddef, dyna ben. Ond os yw mwyafrif mawr y bobl, fel y credwn ni, yn rhincian dannedd yn ddistaw o ofn bod yn anfoesgar, yna gorau po gyntaf yr ymysgwyd pawb o'i oddefgarwch a mynnu cael ei lIe priodol i'r Gymraeg er gwaethaf pawb. Fe all moesgarwch fynd yn wendid ac yn was- eidd-dra. I'r neb a ofynnai mewn braw, Beth am y Saeson yn ein mysg ? gellid ateb, Dysgent Gymraeg." Codi Cenedl PERYGL Urdd Gobaith Cymru, fel popeth da arall. yw iddi gyrraedd y nod yn rhy fuan lle y bydd pawb yn dweud yn dda amdani. Eisoes fe ymwreiddiodd yr Urdd yn ddwfn yn serch y genedl oherwydd ei hamcan. Ni chyfododd dim ers canrifoedd a gyfleodd y syniad o un wlad. un genedl, mor fyw i ymwybyddiaeth Cymry De a Gogledd. Fe ddaeth â Chaerffili i Wynedd a Chaer- narfon i Went: fe ddangosodd Fachynlleth i Faelor a Thegeingl, a Dyied a Phenfro i'w gilydd am y tro cyntaf. Bron nad ar- gyhoeddodd hi Fôn ei bod hithau'n perthyn i Gymru. Ganrif ymlaen fe fydd haneswyr yn sôn am yr Adeni yng Nghymru ac yn nodi blwyddyn sefydlu'r Urdd fel dydd i'w gofio. Yn ei rhawd, v mae'r Urdd yn cyfarfod a beirniadaeth, a hyd yn oed wrthwynebiad, ac yn rhoddi croeso iddynt. Y mae'n cydnabod bod mwy nag un agwedd ar gymeriad, a bod mwy nag un moddion i'w gryfhau. Dichon y gwêl fod rhywbeth yn nulliau a delfrydau'r Sgowtiaid, er enghraifft, sy'n swyno'r bechgyn hynny o Gymry sy'n ymhyfrydu mewn arwriaeth ac yn moli gwTvr Harlech a dewrion feibion Gwalia." Gorau po fwyaf o feirniadu ac o awgrymu a geir, am y bo yn yr amlwg, ac yn codi o gariad at Gymru, — fe dry'r Urdd y cwbl yn gryfder ac yn faeth i Gymry yfory. Gwersyll y Gelyn FE ddaw'r Urdd i'r afael â'i gorchwyl caletaf yn nhrefi'r glannau, ac ar hyd y goror, lle mae plant wedi cael eu llygatynnu ers mwy nag un oes bellach gan swyn a rhamant y byd Seisnig, ac yn ddi- weddar, drwy'r lluniau siarad, gan y byd Americanaidd hefyd. Dyma lecynnau na threiddiodd ysbryd O.M." iddynt, lle y darfu'r sôn o'r bron am lyfrau a chofnodolion Cymraeg, a lle ni chedwir y traddodiad Cymreig ond ar ambell aelwyd ac mewn ambell gapel. Bydd angen cefnogi a chalonogi arweinwyr yr adrannau a'r cylchoedd yn yr ardaloedd hyn a dorrwyd ymaith oddi wrth eu cefndir. Y mae ganddynt glawdd i'w amddiffyn sydd, nid ar y goror mwyach, ond yng nghanol gwersyll y gelyn. Y mae parthau helaeth o siroedd Fflint a Dinbych, er enghraifft, heb sôn am y De, He ni chlywir gair o Gymraeg gan y plant yn eu chwarae. Byddai'n amheuthun iddynt glywed plant Arfon a Meirion yn parablu eu Cymraeg croyw a phersain, nid yn unig mewn adrodd a drama, ond yn eu hym- ddiddan beunyddiol a'u chwarae. Eisteddfodau, gwersylloedd, y bêl droed, a chyffelyb gyfleusterau i blant gorllewin a dwyrain ymgymysgu'n amlach-dyna un ffordd effeithiol i ail-lefeinio ardaloedd y goror a'r glannau, a magu penderfyniad ac arferiad newydd yn y plant Cymreig sydd yn gorfod byw mewn awyrgylch Seisnig. Rhaid pontio'r gagendor sydd rhyngddynt a'u cymrodyr a phlant yr Urdd, gyda'u cân a'u mabolgampau, a all wneud hynny. Cymru'n Un ? MUNUDAU prin yn hanes Cymru yw'r rheini y gellid dywedyd ynddynt, Y mae Cymru'n un." Dyna destun llyfr i ryw hanesydd pennod i bob un o'r munudau prinion hynny a'u rhamant, a llathen fesur ar eu pwysigrwydd, yn null beirniadaeth ddiweddar. A fu ymdeimlad dyfnach o genedl ym munudau prinion Llywelyn Fawr a'r Llyw Olaf nag a geir yn awr ? Cyn eu hamser hwy, fe gafodd Hywel Dda weld Cymry'n un, a'i chyfreithiau a hyd yn oed ei harian ei hun ganddi. Yn ein hamser ni, fe gafwyd unfrydedd gwleidyddol am eiliad tua 1905, o dan arwein- iad Mr. Lloyd George, pan heriodd tair sir ar ddeg Cymru Mr. Balfour a'i ddeddf addysg. Pennod ddiddorol fyddai honno o'i hail-adrodd. Eiliw gwan o'r teimlad a ysgubodd dros y wlad y pryd hwnnw yw'r gwrthdystiad a wnaed yn erbyn Papur 1421 y Bwrdd Addysg yn ddiweddar. Bu Cymru, yn Dde a Gogledd, yn dair talaith.-Gwynedd, Powys a Deheubarth,- ac yn dair sir ar ddeg yn hwy o lawer nag y bu'n unwlad unfarn erioed. Efallai mai dyna'i thynged. Efallai fod mwy na hwyl- ustod yn y ffaith, er enghraifft, fod tri choleg i'r Brifysgol. Yn yr ystyr economig, ychydig undod neu gysylltiadau masnach sydd rhwng De a Gogledd. Eisoes y mae Cyngor Datblygu Diwydiant y De yn gwneud rhanbarth ar ei ben ei hun o dair sir y Deheudir. Y mae dylanwadau tebyg yn ceisio trefnu'r un fath yn y Gogledd. Fe ddichon y bydd llywodr- aeth leol y dyfodol yn dilyn y datblygiadau newydd hyn. Bydd angen gwylio nad anwybyddir y traddodiad Cymreig.