Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barn darllenwyr Y Ford Gron P'LE GANED ELIZABETH DAVIES? At Olygydd Y FORD GRON. SYLWAIS ar lythyr Mr. C. E. Roberts, y Bala, yn Y Ford Gron am fis Chwefror, yn dal i Elizabeth Davis gael ei geni yn Erw Dinmael, Cerrig-y-drudion, ac nid ym Mhen- rhiw, Bala. Dyma a ddywed Elizabeth Davis ei hun yn ei chofiant I was bom at Pen Rhiw, within sight of Aran Benllyn and Llyn Tegid, and in the midst of the fine scenery which tourists admire so mueh among the highest mountains and near the largest lake in the Principality. Fodd bynnag, dywed fod ei thaid, Cadwaladr Dafydd, yn byw yn "Erw Dymel, Cerrig-y-drudion, yn Sir Ddinbych bod ei deulu yno ers canrifoedd o'i flaen, a bod ei fab hynaf yn byw yno ar ei ôl. (Ei ail fab oedd Dafydd Cadwaladr, tad Elizabeth Davis.) Yr oedd cyfenwau y dyddiau hynny, medd Elizabeth, mor ansefydlog, fel yr oedd gan bum mab ei thaid bum enw gwahanol Felly, cymysgu teulu'r mab hynaf â rhai'r ail fab a wna Mr. Roberts, debygwn. Mynn Mr. Roberts, hefyd, i Elizabeth Davis ddianc o Brynaber, Cerrig-y-drudion, ac nid o'r Bala. Dyma ddywed Elizabeth ei hun yn ei chofiant I had been at Plas-yn-dref (Bala) for about five years, when I agreed with Mrs. Lloyd one Saturday to live there another twelve months. In the course of the following Sunday night, a sudden thought occurred to me that I was not to stay there any longer, and that I must see something more of the world. I instantly got up and tied a few clothes in a bundle. Before Monday morning dawned, I had thrown my bundle out of my bedroom window and jumped out after it. I immediately set off for Chester. Tybed iddi alw yng Ngherrig-y-drudion ar ei ffordd ? K. OLWEN REES. Bryn Dedwydd, Dolgellau. Cyff Jac Glan-y-gors. At Olygydd Y Ford Gron. GWELAF nodyn yn Y Ford GRON am Chwefror yn amau ai o'r Bala yr hannai Elizabeth Davies. Cefais fenthyg ei hunan-gofiant ychydig flynyddoedd yn ôl wedi ei olygu gan Gymraes enwog arall, sef Jane Williams, Ysgafell, awdur, ymysg ysgrifau eraill, A History of Wales," a'r Life of J. Price, Carn- huanawc." Darllenais yr hunangofiant, a dyfynnaf o ysgrif yn Y Gymraes am Ionawr, Chwefror a Mawrth, 1926. Yn ôl hwnnw, ganed Betsy mewn ffermdy o'r enw Penrhiw," yn agos i'r Bala, ar y 24 o Fai, 1788, merch i Ddafydd Cadwaladr, a gydoesai â'r Parch. Thomas Charles. Gallai Dafydd Cadwaladr olrhain ei achau i'r Tuduriaid, o'r un llinach a'r Frenhines Victoria; ond ni sonia Betsy unwaith am y ffaith, ond ymffrostio'i bod yn dyfod o'r un cyff â Jac Glanygors Yr oedd pedwar o blant Mr. Charles yn gyd-ysgolheigion â hi. Betsy Penrhiw y'i gelwid yn y Bala. Ond erbyn iddi adael cartref a mynd i Lerpwl, teimlai nad oedd yr enw yn gweddu i ferch Dafydd Cadwaladr, a galwodd ei hun yn Betsy Cadwaladr. Bu hyn yn faen tramgwydd i'r Saeson, gan y methent ei swnio yn hwylus. Wedyn cymerodd enw bedydd ei thad yn gyfenw- yn ôl arfer yr amser hwnnw-ac Elizabeth Davis y'i gelwid hi wedyn. Diwedda ei hunan-gofiant trwy ddweud Pan oeddwn yn blentyn yn y Bala, cefais Feibl gan Mr. Charles yn anrheg am ddysgu allan. Bu'r llyfr gyda mi yn fy holl grwydr- iadau. Mae ei hanes yn y Crimea-yn wir, ei holl fywyd-yn rhamant gwir. Caernarfon. ELSBETH. Diwedd ei hoes. At Olygydd Y FORD GRON. Y MAE Hunangofiant Elizabeth Davies- dwy gyfrol-a gyhoeddwyd gan Hurst a Blackett yn 1857 dan olygiaeth Jane Williams (Ysgafell), yn fy meddiant. Yn hwn, dywed iddi gael ei geni ym Mhenrhiw. Dyma'i geiriau I was born at Penrhiw, within sight of Aran Benllyn and Llyn Tegid. Diwedda'i hanes gydag ymgeleddu'r mil- wyr yn Balaclava. Y mae'n amlwg ei bod, yn niwedd ei hoes, mewn angen, gan yr ymddengys apêl am gyfraniadau at ei chysur a'i chvnhaliaeth yn yr ail gyfrol. Pwllheli. D. CARADOG EVANS. Sifalri neu Gristnogaeth ? At Olygydd Y FORD GRON. OS delfryd sifalri yw balchder a syber- wyd," fel y myn fy nghyd-efrydydd, Mr. A. 0. H. Jarman yn rhifyn Chwefror Y Ford GRON, pa fodd y gall ef, sy'n honni bod yn well ganddo ddelfryd sif alri na delfryd Cristnogaeth, haeru bod hanfod syniad Cyngrair y Cenhedloedd yn ardderchog ac yn angenrheidiol i'r byd ? Y mae balchder mewn dyn, ac felly. balch- der mewn cenedl, yn hollol groes i syniadau Cyngrair y Cenhedloedd ac i ddelfryd Cristnogaeth. Balchder mewn dyn, a balch- der mewn cenedl, yw prif achos rhyfel. Ni wyr balchder edifarhau am dro gwael. Ni ddeall faddeuant. Yn sicr, ni all hunan- ymwadu na gorchfygu. Ni wyr balchder derfynau. Canlyniadau iddo yw'r rhwyg sy 'rhwng cenhedloedd a'i gilydd yn y byd heddiw, a'u diffyg ffydd y naill yn y llall y rhwyg sy rhwng dosbarth a dosbarth, rhwng dynion a'i gilydd, ie, rhwng brawd a brawd. Yn egwyddorion sifalri'r oesoedd canol, ni welaf i ond hunanoldeb a chreulonder. Yn ôl y dull hwn o ymddwyn (sef dull sifalri), urddas dyn yw elfen bwysicaf ei gymeriad, ac ni dderbyn sarhâd heb daro'n ôl." Nage, nid sifalri sy'n rhoi urddas ar ddyn. Ein Harglwydd Iesu Grist a roes urddas ar ddyn, ac yng ngoleuni ei gymeriad Ef y gwelwn y gwir urddas sy'n bosibl. Wele gipolwg ar urddas ei gymeriad Ef ei lawenydd dilychwin mewn priodas-wledd ei fawrfrydigrwydd yn gwneud cyfeillion o bawb o bob dosbarth ei ddigofaint pan ddioddefo arall, a'i hiramynedd pan wawdir Ef ei Hun; ei ysbryd diflin a'i gariad anhraethadwy yn wyneb gelyniaeth agored a dichellgar. Dyna urddas cymeriad Balchder sifalri Na, gwell gennyf i Gariad" Cristnogaeth. Os rhyfel sy'n dilyn balchder ysbryd, y mae cariad yn hirymaros, yn gymwynasgar cariad nid yw yn cenfigennu nid yw yn ymffrostio nid yw yn ymchwyddo." I mi, nid taro'n ôl wedi derbyn sarhâd sy'n rhoi urddas a bri ar gymeriad, ond yn hytrach, gorchfygu trwy faddau. I'r ychydig y rhoed gyrfa mynach." Nid gyrfa mynach mo yrfa'r Cristion. Nid gŵr deoledig oddi wrth gymdeithas yw, yn dianc rhag fywyd a'i gyfrifoldeb. Dyn ydyw wrth ei fodd, yn byw â'i holl egni, yn llawn hoen ac asbri, ac yn ei anghofio'i hunan wrth fyw i wasanaethu eraill. A yw delfryd balchder yn ein harwain i'r fan hyn ? Nag ydyw, ond i'r eithaf arall. Nid rhinwedd syberwyd" sydd angen ei feithrin ar Gymru ac ar y byd heddiw, ond rhinwedd cariad fel y'i datguddir ym mywyd ac yng nghymeriad ein Hárglwydd. R. H. PRICHARD-JONES.. Coleg y Brifysgol, Bangor. Y Gystadleuaeth yn Deg ? At Olygydd Y FORD GRON. YN ei ysgrif ar Y Pulpud, y Coleg— a'r Lleill," gofyn Mr. Brinley Richards, Aberafan, a ydyw'r gystadleuaeth yn deg ? Ceisia ef amddiffyn hawl y rhai sydd dan anfantais i gystadlu yn erbyn y rhai sydd ganddynt gyfleusterau helaeth. Beth yw amcan yr Eisteddfod ? Hyn sydd i benderfynu pwy sydd i gystadlu. Nid pennaf amcan yr Eisteddfod yw rhoddi gwobr i'r rhai na chafodd wobr erioed. Ofnaf fod Mr. Richards yn y fan hon yn lled dosturio wrth teirdd a llenorion di-wobr ein gwlad. Nid yw'n deg gostwng safon yr Eisteddfod er mwyn y doctoriaid a'r cyfreithwyr." Os yw'r cyfryw yn ei theimlo'n werth ennill gwobr yr Eisteddfod, y mae'n werth llafurio i'w hennill. Onid un o amcanion yr Eisteddfod yw codi safon ein cynhyrchion llên, ac onid chwilio am y cyfansoddiad gorau yw priod waith beirniaid yr Eisteddfod ? Os felly, nid yw'n deg â llên a barddas y genedl, cau allan y gwŷr sydd ganddynt fanteision i gyfoethogi'r rhain. Os oes ar y Lleill awydd dyfod yn feirdd a llen- orion, rhaid iddynt wrteithio'u meddyliau a mynnu pob mantais nad yw i'w chael yn eu galwedigaeth. Sonia Mr. Richards hefyd am rwyddineb dewis testunau i ddoctoriaid yn unig. Onid gwell i'r bobl hyn geisio trefnu Eisteddfod i'w diben eu hunain, yna gallai'r wlad weld os â llwyddiant y coronid eu hymdrech, fod dichon i dda ddyfod o Nasareth o hyd. Y Gerlan, Bethesda. J. O. JONES.