Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymru ár Nwyd Ryfel Un o farwniaid hunanol ei ddydd oedd Owain Glyn T)wr Syr Owen M. Edwards a greodd yr Owain Glyn T)wr arall i fod yn arwr i fudiad Toung Wales Dyna rai o'r pethau a ddywed Mr. Edwards yn yr erthygl rymus hon, sy'n ateb i ddadl Mr. A. 0. H. Jarman yn Y Ford Gron ddiwethaf. gan IFAN AB OWEN EDWARDS DARLLENAIS erthygl Mr. Jarman yn Y Ford GRON am y mis di- wethaf, ac fe'm gwnaeth yn brudd iawn. Ni frawychodd y teitl fi o gwbl- Pobl Ryfelgar ydyw'r Cymry "-eithr brawychwyd fi lawer mwy gan y safbwynt a gymerai'r awdur. Ei ymresymiad oedd,-Nwyd dyn ydyw rhyfela. Nid yw'r Cymro yn eithriad, a phraw llenyddiaeth cyfnod y tywysogion hynny. Gan hynny, nid hanes gwerin Cymru'r pedair canrif ddiwethaf a ddylsid ei ddysgu i ieuenctid Cymru, eithr hanes rhyfeloedd y tywysogion, fel y deuent i ymhyfrydu yn eu gwlad. Yna, i gloi'r ddadl, dywed nad Henry Richard a ddylai fod yn arwr i Gymru, eithr Owain Glyn Dŵr. Hen Destament" Cymru. Tybiaf oddi wrth ei erthygl mai maes astudiaeth Mr. Jarman yw cyfnod y Mabinog- ion, cyfnod Hen Destament Cymru, ac nad astudiodd yn fanwl hanes y Gymru ddiweddar. Yn wir, ni allaf lai na chyffelybu safbwynt yr erthygl i safbwynt Iddew yn ceisio ysbrydiaeth o'r Hen Destament a gwrthod ystyried y datblygiad yn y Newydd. Dymuna Mr. Jarman, gan hynny, dynnu ei arwyr o Gymru gynnar, ac ymesyd arnaf i am wrthod derbyn Glyn Dŵt yn arwr cenedl- aethol, ac am geisio ysbrydoli ieuenctid ein gwlad â delfrydau heddwch a brawdgarwch trwy ddywedyd wrthynt hanes gwerin Cymru yn ystod y pedair canrif ddiwethaf. Saif Mr. Jarman i fyny, yn ysbryd yr Hen Destament, dros wneud tywysogion rhyfel- gar y cyfnod cynnar yn arwyr Cymru Fydd. Gofynnaf innau yn ysbryd y Testament Newydd am ddewis arwyr o fysg arweinwyr gwerin Cymru ddiweddar,-arwyr crefydd a heddwch ac addysg. Beth oedd Glyn Dwr? Cyhudda Mr. Jarman fi o gredu mai bandit oedd Glyn DWr." Ni wn o ba Ie y cafodd Mr. Jarman y syniad y credaf i hyn. Nid ysgrifennais ac ni ddywedais y fath beth o fewn cof i mi. Y mae gennyf wybodaeth elfennol o gyfnod Glyn Dŵr, ac y mae hynny'n ddigon i wrth- brofi'r daliad hwn. Fe wyddys yn gyffredinol fod tair barn am Lyn Dŵr i. Mai rebel, bandit neu leidr pen ffordd ydoedd ii. Mai gwir arwr cenedlaethol Cymru ydyw iii. Mai barwn cyffredin, cyffelyb i farwniaid eraill ei oes, ydoedd. Yn blentyn, aeth i lys Lloegr, lle bu'n was bach a phan dyfodd i fyny, arhosodd yn aelod o'r llys gan ddyfod yn ffrind mynwes i'r brenin ac yn gydymaith iddo yn ei ryfel- oedd. Yn anffodus i Lyn Dŵr, diorseddwyd y brenin y bu ef cymaint cynffonnwr iddo, a daeth brenin arall i'r orsedd yn ei le nad oedd Glyn Dwr, yn naturiol, yn ffefryn iddo. Ymgyrch Hunanol. Yn y cyfnewid hwn, gwysiwyd Glyn Dŵr i Lundain gan Arglwydd Grey, a gwnaed anghyfiawnder dybryd ag ef. Aeth pethau o ddrwg i waeth ac alltudiwyd ef. Ni allai ond rhyfela i achub ei groen. Trodd yn ôl i Gymru, a defnyddiodd y drwg-deimlad a fu yn y cyfnod hwnnw rhwng Cymro a Sais i hyrwyddo'i ymgyrch hunanol ef ei hun. A llwyddodd yn rhyfeddol, er iddo ef, yn llwfr, gadw o bob brwydr gan ffoi o ogof i ogof i ymguddio, ac o'r diwedd diflannu o wyddfod dynion. Creu Tywysogaeth. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf, a phob arwydd bod ei lwyddiant i barhau, daeth i'w feddwl ddilyn esiampl llu eraill o farwniaid yn Lloegr, Ffrainc a Sbaen, i greu tywysog- aeth iddo'i hun. Y cyfnod yn dilyn cwymp Ymerodraeth Sanctaidd Rhufain ydoedd. a chodai barwniaid dywysogaeth fel tai unos cyfnod diweddarach. Cytunodd Glyn Dŵr â barwniaid eraill i rannu Cymru a Lloegr rhyngddynt. Nid oedd hyn namyn hunanoldeb a hunan-les barwniaid y cyfnod, ysbryd Rhyfel y Rhos- ynnau. Pam dewis un o'u plitb, a'i wneud yn arwr cenedlaethol," methaf ddeall. Eithr gallaf ddychmygu Mr. Jarman yn dyheu am ofyn cwestiwn pellach imi,— Beth am ddelfrydau Glyn Dŵr? Delfrydau Glyn Dwr. Delfrydau Owain Glyn Dŵr ydoedd cael annibyniaeth i Gymru Eglwys annibynol i Gymru, a phrifysgol i Gymru. Mr. Ifan ab Owen Edwards. Esboniais beth a feddyliaf o annibyn- iaeth Glyn Dŵr eisoes. Ni allai ddal vr annibyniaeth hon a'r eglwys yn y diriogaeth tan ei afael wedi ei darostwng i eglwys Lloegr; yn enwedig a hithau'n hawdd iawn iddo gael eglwys iddo'i hun oherwydd y rhwyg yn y Babaeth. Ac nid oedd bosibl annibyniaeth eglwys, oni chaffai ef Brifysgol i hyfforddi ei glerigwyr ei hun. Wrth gwrs. nid ces yma ddim syniad am brifysgol i ddiwyllio gwerin." Nid oedd syniadau felly yn y bymthegfed ganrif. Colegau i hyfforddi clerigwyr a feddylid wrth brifysgolion y cyfnod hwnnw bron yn ddi-eithriad. Felly. coleg diwinyddol i hyfforddi offeir- iaid, i gadw annibyniaeth eglwys \-ng Nghymru a'r rhan o Loegr o dan Lyn Dŵr, er mwyn sicrhau ei annibyniaeth hunanol ei hun. ydoedd y ddelfryd." Yn fyr, na ddarllener i gyfnod Glyn Dwr ddelfrydau hunan-lywodraeth diwedd y bed- waredd ganrif ar bymtheg. sef dadsetydliad a phrifysgol i werin Sut y cododd y Glyn Dwr presennol. Anghofiwyd Glyn Dŵr am ganrifoedd. Dywed Elis Gruffydd, y milwr o Galais, bethau heilltion amdano, a'r stori honno am yr abad yn ei gwrdd yn fore yn dangos nad Glyn Dŵr mo'r arwr, eithr Harri Tudur,