Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

trwy ddywedyd i Lyn Dwr godi gan mlynedd yn rhy fore Metha Shakespeare benderfynu, a rhydd ddau gymeriad i Lyn Dwr. Yna anghofiwyd ef tan ddiwedd y ddeu- nawfed ganrif. Yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth mudiad Young Wales a Rhydd- frydiaeth genedlaethol i ysgubo tros Gymru tan arweiniad Tom Ellis ac eraill. Digwydd- odd fy nhad fod yn hanesydd y mudiad hwn. Yr oedd ganddynt eisiau arwr. Ni wnai Dewi Sant mo'r tro nid oedd bosibl gweithio i'w gymeriad ef eu delfrydau hwy. Eithr disgynnodd dychymyg byw fy nhad ar Lyn Dŵr. Dyma union yr un, dyma arwr eu delfrydau hwy, sef annibyniaeth Cymru, dadsefydliad yr Eglwys, a phrifysgol i Gymru. Crewyd anachronism mwyaf hanes Cymru-rhoi delfrydau'r ugeinfed ganrif i farwn hunanol dechrau'r bymthegfed Aeth y peth i waed yr Young Wales," a disgyn- nodd hanesydd mor ofalus a galluog â'r Athro J. E. Lloyd o tan ei gyfaredd, nes iddo gyhoeddi llyfr yn ddiweddar ar y pwnc, gan adael allan y llawysgrifau a wrth-ddywedai'r gosodiad, sef gosodiadau Elis Gruffydd. Glyn Dwr-Q. M. Edwards ydyw. Creadigaeth drychfeddwl fy nhad yw'r Glyn Dwr presennol. Disgybl iddo ef oedd y Bradley a ysgrifennodd ei hanes ar gais ac ar ysbrydoliaeth fy nhad ac, efallai, gyda help nodiadau ei ddarlithiau yn Rhydychen. Fy nhad yw'r Glyn Dwr y cred Mr. Jarman ynddo. Yn naturiol, llawenhaf bod Mr. Jarman yn credu yn y Glyn Dŵr hwn, eithr peidied â disgwyl i mi gredu bod barwn hunanol yn y bedwaredd ganrif ar ddeg yn dal delfrydau Young Wales bum can mlynedd yn ddiweddarach. Yn ddi-os, nid rebel na bandit na lleidr pen- ffordd y barwn a faged yn llys Lloegr nid dyna'r addysg orau ychwaith i greu arwr cenedlaethol; eithr dyna'r union hyffordd- iant a greai farwn hunanol yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Eithr y Glyn Dŵt y gwyddom ni amdano, enw arall, a mwy cyffredin arno, ydyw 0. M. Edwards Ai traddodiad heddwch, hanes Cymru? Daliaf mai heddwch yw cyweirnod hanes Cymru er cyfnod y Tuduriaid. Ni ddywedaf na bu rhyfel ar y tollffyrdd. ynglỳn â Siartiaeth ac mewn Crefydd, eithr ni bu rhyfel yn ystyr arferol y gair. A hynny oherwydd i Loegr sefyll rhwng Cymru a'r cyfandir, a'i gorfodi i fyw iddi ei hun. Aeth Lloegr ati i greu Ymerodraeth, a gwnaeth gwledydd eraill y byd bopeth a allent i ddilyn ei hesiampl. Effaith hyn fu rhyfeloedd di-ddiwedd. Cyfododd yn Lloegr arwyr cenedlaethol, megis Drake a Raleigh, Nelson, Marlborough a Wellington. Hwy ydoedd arwyr y Sais, a'r arwriaeth hwn sy'n ateb am lawer o gymeriad John Bull heddiw. Fe faddeua Mr. Jarman imi, yr wyf yn siwr, am osod fy syniadau heb gyfeirio at lawsgrifau. ac am beidio â manylu ar wallau Ilyfr yr Athro J. E. Lloyd. Gweddai hynny'n fwy i erthygl yn Y Cymrodor neu'r cyffelyb. Pe bai Cymru wedi cael chwarae ei rhan yn rhyfeloedd ymerodraeth, diau y buasai mor rhyfelgar ag unrhyw wlad yn y byd. Ond pe bai ydyw hynny. Gwrthododd Lloegr iddi ran, a chyfyng- wyd Cymru i'w thiriogaeth bell o bob man. Nid ymosododd neb arni i gadw'r nwyd ryfel yn fyw, ac ni allai hithau ymosod ar neb. Aeth ei hen dywysogion i Loegr a daethant i bob pwrpas yn Saeson, ac felly yr arhosant hyd y dydd heddiw. Gadawyd gwerin Cymru i ymdaro trosti ei hun, a chreodd Griffith Jones, Thomas Charles, Gwilym Hiraethog, S.R., Robert Owen, Henry Richard,-ac arwriaeth y rhain sy'n ateb am gymeriad y Cymro heddiw. Nid moli'r Cymro yr wyf, na honni ei fod yn sant, eithr dywedyd bod ei hanes yn ystod y pedair canrif ddiwethaf, trwy hap neu drwy drefn rhagluniaeth, wedi creu gwerin yng Nghymru y rhwystrwyd iddi ryfela ac a orfodwyd, fwy neu lai, i droi ei holl feddwl at grefydd ac addysg a'r cyffelyb. Er mwyn y byd. Apeliaf,-a gwn, o'r ateb a gefais eisoes, nad wyf yn apelio yn ofer, am ddysgu traddodiadau Cymru'r pedair canrif ddi- wethaf i blant ein gwlad yn sylfaen i'w cymeriad ac yn ffynhonnell eu gwasanaeth i YMHELL ODDI WRTH Y DYRFA. Fis Mai diwethaf. teithiais ar hyd glannau Môr Aberteifi i chwilio am noddfa mewn He tawel at fis Awst. Dechreuais yn y Cei Newydd, a chefais fod y rhan fwyaf o'r tai yn y dref fechan wedi eu cymryd am yr haf. Yn wir, y mae llawer o'r tai wedi eu cymryd am flynyddoedd i ddyfod. Cynghorwyd fi yn Aberporth i chwilio am wely yn Nhre Saith, Ue bychan iawn, rhyw filltir a hanner o Aberporth. Ac felly y bu. Tua Thre Saith yr aethum, ac, er nad oes yn Nhre Saith ond ryw bump ar hugain o dai, cefais fod un ty heb ei gymryd. Daethom i delerau'n fuan fod chwech ohonom i aros yno ym mis Awst. Y mae llawer esboniad yn cael ei roddi i'r Ficer Llanyblodwel, Sir Amwythig. Gymru a'r byd a dysgu hanes Cymru'r cyfnodau cyn hynny iddynt megis y dysgir yr Hen Destament fel y dealler y Newydd. Dymunwn godi Cymru. Dymunwn ei hysbrydoli â'i mawredd hi ei hun. Dymunwn iddi arwain y byd yng ngolau traddodiadau ei gwerin ei hun. Yn anad dim, ni ddy- munwn i'r cyfle ardderchog hwn fynd heibio--y ni a wyr o brofiad beth yw rhyfel- i greu cenhedlaeth a wasanaetha Gymru nid er ei mwyn ei hun, eithr er mwyn i Gymru wasanaethu'r byd. Nid geiriau gwag. Nid geiriau gwag, uchelsain, mo'r rhai yna, eithr geiriau syml, diffuant, y rhai ohonom sydd wedi codi, yng ngrym traddod- iadau'n gwlad, yn uwch na'r nwydau rhyfel- gar y bu'r hen Gymry unwaith yn orlawn ohonynt. Codasom o Hen Destament Cymru'r tywysog i Destament Newydd ei gwerin. Yng ngrym ei thraddodiadau a thrwy gyf- rwng ei hieuenctid, deuwn â hi unwaith eto i gyfathrach â bywyd Ewrop. Bydd ein gwaith ni wedi ei gyflawni. Daw cenhedlaeth ar ein hôl ni i greu'r Gymru Newydd. Eithr diflannwn ni'n dawel ein meddwl inni osod y sylfaen yn iawn, ar graig traddodiadau Cymru Fu. enw Traeth Saith." Dywed Theophilus Evans, yn Drych y Prif Oesoedd," mai gair Gwyddeleg ydyw "saith," a'i ystyr "bas." Gelwir y lle heddiw yn Tre Saith," a saif mewn cilfach yn y mynydd, â chraig-fynydd ar y dde ac ar yr aswy. Cyfrifir y Traeth Saith y traeth gorau i ymdrochi o bob Ue yng Ngheredigion. Nid oes yn y gilfach fechan ond un Ue addoli-ystafell fechan yn perthyn i'r Methodistiaid Calfinaidd, ond y mae Eglwys, ac amryw gapeli, yn Aberporth. Tre Saith a roes ysbrydoliaeth i'r anfarwol Allen Raine, canys yn Nhre Saith y bu byw am amryw flynyddoedd, ac yno'r ysgrifen- nodd lawer o'i lyfrau enwog. J. ALLEN Jonbs.