Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ein Sant Ni Gwrandewch ar Syr Owen M. Edwards yn adrodd hanes y grefydd newydd yn blodeuo ymysg y Cymry ac yn magu Dewi a'r saint eraill. GAN I Syr OWEN M. f 1 EDWARDS TUA 200, dywed Tertullian yn eglur fod Cristnogion mewn lleoedd ym Mhrydain nad oedd y Rhufeiniaid wedi eu cyrraedd. Ac o'r fiwyddyn 200 y mae hanes eglwys y Cymry'n dechrau. Er mwyn eglurder, geUir rhannu hanes yr eglwys fel hyn 200-300. Cyfnod y tyfu. 300-400. Cyfnod y trefnu. 400-500. Cyfnod yr heresiau. 500-600. Cyfnod y saint. Cyfnod annibyniaeth. Ni wyddom ryw lawer am gyfnod y twf, nid oes fawr o fanylion am y dull yr ymledodd yr efengyl dros ein hynys gyntaf. Aneglur a chymylog, ond prydferth iawn, er hynny, ydyw bore pell ein crefydd ni. Ni fedr yr hanesydd ysgrifennu dyddiadau na darlunio cymeriad y pregethwr cyntaf,-y mae y rhai hyn wedi cilio i ddistawrwydd bythol. Ond medr y bardd weld eglwys Brydeinig yn graddol ymffurfio, fel teml Solomon yn codi heb sŵn morthwylion, neu fel cedr- wydden yn cynyddu yn Libanus. Croesi'r mor. Gwelai'r tadau Cristnogol Brydain yn derbyn yr efengyl, ac y mae aml un ohonynt yn ymlawenhau wrth ddarlunio'r efengyl wedi cyrraedd eithafion byd, ie, wedi cyr- raedd Prydain. A phan erUdiodd Diocletian y Cristnogion yn 304, cafwyd rhai ym Mhrydain i roddi eu bywyd i lawr dros y ffydd. Gwyddom beth mwy am gyfnod y trefnu, oherwydd fod Cristnogion o Brydain wedi croesi'r môr i gydymgynghori â'u brodyr ynghylch materion eu ffydd. Ceir eu hanes mewn cyngor ar ôl cyngor, a phob amser ar ochr yr union-gred. Yr oedd tri esgob Prydeinig yng Nghyngor Arles yn 315. A phan gododd yr ymryson chwerw ynghylch natur y Drindod, cawn Brydeiniwr bron ym mhob Cyngor o bwys. Yr oedd Esgobion Prydeinig yn Nicea yn 325, pan oedd Athanasius yn amddiffyn y ffydd yn erbyn heresîau newyddion a chawn hwynt yn unfryd â'u brodyr ar y cyfandir, ac yn trefnu eu heglwys a'u ffydd yn yr un modd. Temlau rhyfedd. Erbyn 400 yr oedd Prydain yn un o wled- ydd cred. Yr oedd eglwysi yma ac acw ynddi, yr oedd allorau Duw ymysg allorau drylliedig yr hen dduwiau. Yr oedd sôn am demlau rhyfedd dywed Ierom yn 388 fodllawer yn sôn am deml Duw, a gofyn iddynt gofio geiriau'r apostol Oni wyddoch chwi mai teml Duw ydych, a bod ysbryd Duw yn trigo ynoch ? Ac yna, meddyliodd fod yr hanes wedi mynd i bob man, fod yr efengyl yn allu yng Nghaersalem, lIe y dioddefodd yr Iesu, ac ym Mhrydain, y lk pellaf oddi wrth Gaersalem 0 Gaersalem ac o Brydain y mae'r wlad nefol yr un mor agored y mae teyrnas Dduw ynoch chwi." A thra mae Ioan Aurenau, tua 400, yn llawenhau fod Prydeiniaid fu'n bwyta cnawd dynol yn awr yn meithrin eu heneidiau trwy ympryd, dywed lerom Un Crist a addolir gan Brydain a Gallia, ac Affrig a Phersia, a'r Dwyrain ac India, ac un rheol y gwirionedd sydd iddynt." Llawenydd ieuenctid. Yr oedd y cymundeb agosaf rhwng eglwysi Prydain ac eglwysi'r Cyfandir, ac yr oedd pererinion Prydeinig yn cyfarfod pererinion o eithafoedd Persia yng ngwlad Canan. Cyfnod dedwydd i'r eglwys cedd hwn, cyfnod llawenydd llwyddiant ac ieu- enctid, cyfnod gobaith fedrai weld gwaith mil o flynyddoedd yn cael ei wneud mewn un dydd, cyfnod ffydd a fedrai fwrw mynydd- oedd i'r môr. Yr oedd Llydaw hefyd yn derbyn yr efengyl a chyn 400 yr oedd y Gwyddelod wedi cymryd bachgen yn garcharor yn Ystrad Clwyd. A'r bachgen hwnnw oedd Padrig, apostol yr Iwerddon. Dadleuon Pelagius. Yna daeth cyfnod o ofidiau i'r eglwys ieuanc. Rhwng 400 a 500 daeth heresïau i'w rhannu, a daeth y Saeson paganaidd i ymosod arni o'r tu allan. Cyn 415, yr oedd yr eglwys yn gwybod am ddysgawdwr o Brydain, oedd wedi teithio trwy Rufain ac Affrig i Gaersalem, gydag efengyl newydd. Pelagius oedd ei enw; a chan mai Prydein- iwr oedd o genedl, mae rhai, gyda mwy o wladgarwch nag o wybodaeth, wedi tybied mai cyfieithiad o'r enw Morgan yw'r enw Pelagius. Dewi Sant. [Cerüun Syr Concnmhc Jobn. R.A. Dysgai Pelagius ryddid yr ewyllys, a chondemniwyd ef yn ddi-arbed gan Ierom o'i gell ym Methlehem, a chan Awstin, y mynach sydd wedi goniwchlywodraethu cyhyd ar feddwl dyn. Y mae dwy ochr i'r gwirionedd, — annibyniaeth ac ufudd-dod, rhyddid ewyllys ac etholedigaeth. rhyddid cydwybod a chyfundrefn. Pregcthai Pelagius y naiil, pregethai Awstin y llall. Dyhead y Prydeiniwr. Rhyddid crefydd yw dyhead y Prydeiniwr erioed am drefn anhyblyg, am un ffydd uniongrcd, am un Eglwys, y dyheai Rhufain. Yr oedd ysbryd ei oes yn erbyn Pelagius, medrodd Awstin gondemnio'i ddysgeidiaeth, nid fel hanner gwirionedd, ond fel heresi groes i'r gwirionedd a medrodd ddefnyddio grym y gallu gwladol i erlid disgyblion y Prydeiniwr. Ymosodwyd ar ei heresi yn ei wlad enedigol. Yn 429 daeth Germanus a Lupus, -Garmon a Bleiddian,-esgobion Auxerre a Troyes, i bregethu yn erbyn Pelagiaeth ym Mhrydain. Daeth cvnhulliad enfawr i'w cyfarfod i Verulanium, a dywed eu brodyr yn y ffydd i'w huotledd orchfygu eu gwrth- wynebwyr yn llwyr. Dywed traddodiad iddynt fod yng Nghymru, ac y mae yn ddi- amau fod iddo sylfaen o wirionedd. O'r {Trosodd.