Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYGAID y Llydawiaid AR Gan CYRIL P. CULE, I Parin. YMAE gwleidyddiaeth yn llawer mwy amlwg ym mywyd Llydaw nag yng Nghymru. Hawdd deall hynny ani fod gweriniaeth Ffrainc yn gyfundrefn llawer mwy haearnaidd na'n Teyrnas Unedig" ni. Yng Nghymru y mae gennym drefn addysg ar wahân, llyfrgell genedlaethol, amgueddfa genedlaethol, hawl i ddysgu'r iaith yn yr ysgolion a'r colegau a llawer o freintiau eraiU. Bydd rhaid wrth ymdrech ddewr cyn i Lydaw gael hanner y pethau hyn. Syndod. Y brifddinas yw popeth yn y wlad hon. 0 Baris y rheolir pob rhan o Lydaw, yn ogystal â phob cwm a phant a phentref o odre'r Pyreneau i'r Môr Udd. Bydd y Llydawiaid yn agor eu llygaid mewn syndod wrth glywed bod gennym ni bethau fel Y Ford GRON a'r Cymro. Meddai Llydawr wrthyf yn ddiweddar Yr wyf yn credu bod eich iaith chwi yn ddiogel erbyn hyn, ond y mae'r eiddom ni ymhell o fod felly." Ni ddysgir na iaith na llên na hanes Llydaw i'r plant yn yr ysgolion, a chosbir hwynt am siarad Llydaweg. Tafodiaith (Patois) ydyw yng ngolwg yr awdurdodau, a cheisir gwneud popeth i roi'r argraff na aU neb fod yn wybodus ac yn foneddigaidd oni "Oherwydd ei fod wedi ymgomio yn y Frythoneg." Cotbir y Llydawr bach yn yr ytgol am siarad ei iaith. (Cerdyn a werthir gan Lydawiaid brwd yn Llydaw a F/rainc) GYMRU bo'n siarad y Ffrangeg bob amser, ac os edrychir ar iaith fel tafodiaith, fe fydd yn dafodiaith cyn bo hir. Felly y bu'r Llydaweg yn dihoeni hyd nes daeth dynion fel Le Gonidec a Francois Vallée i weithio arni yn y ganrif ddiwethaf, ac yn awT, ar ôl eu hymdrech hwy, y mae llawer mwy o raen arni na chynt. Y mae digon o ffyrdd i ddatblygu iaith pan fo gwareiddiad gwych yr hen Frythoniaid yn gefndir iddi. Benthyca o'r Gymraeg. Diddorol yw sylwi mai Brythoneg (" Brezoneg ") yw'r enw a rydd y Llydaw- iaid ar eu hiaith. Y mae'n sicr bod dylanwad yr iaith Gymraeg yn bwysig yn Llydaw. Yn wir, y mae wedi mynd yn ffasiwn gan rai o lenorion y wlad honno ddefnyddio nifer o eiriau a fenthycwyd o'n hiaith ni. Ychydig ddyddiau'n ôl, clywais Lydawr yn achwyn bod y duedd hon wedi mynd yn rhy bell. Y mae'n anodd deall rhai o'n Uenorion, meddai ef, os nad ydych wedi dysgu Cymraeg." Ym myd cerddoriaeth hefyd, y mae dylanwad Cymru yn amlwg. Bro Goz ma Zadou," sef cyfaddasiad o Hen Wlad fy Nhadau," yw'r anthem genedlaethol a genir ar ddiwedd pob cyfarfod. Y mae un alaw, Rhyfelgyrch Capten Morgan," yn perthyn i'r ddwy wlad. Ni wyr neb o ba le y daeth yn y dechrau. Plant bach o Lydaw yng ngwiig eu gwUd. Er hynny, os dysg ein cefndryd lawer o bethau oddi wrthym ni ym myd llên a cherdd, gallwn ninnau ddysgu llawer ganddynt hwy hefyd. Peth pwysig yw pwnc yr iaith," ond i'r Llydawiaid y mae pethau eraill sy'n llawn mor bwysig. Y mae miliwn a hanner o bobl yn nhaleithiau dwyrain Llydaw, Breiz Uhel," na all siarad dim ond Ffrangeg. Ffrangeg a fu iaith eu cyndadau ac eto, am fod Ui'r bywyd Celtig mor gryf yn yr hen amser, y mae'r bobl hyn yn Llydawiaid gwlatgar dros ben, a Cheltiaid pur ydynt yn eu defodau a'u teithi meddwl ac ym mhopeth ond iaith. Trwy'r glust y gellir denu'r Cymro, ond y mae'r llygad yn bwysicach i'r Llydawr. Gwyr ef fwy na ni am brydferthwch Uiw a llun, ac y mae gwreiddiau celfyddyd Llydaw i'w cael ym mywyd y werin. Gwisgoedd a dodrefn. Gwisgoedd gwerinol, dodrefn arbennig a dawnsiau traddodiadol yw rhai o'r pethau hardd y ceisir eu cadw, yn ogystal â'r iaith. Y mae gan bob ardal yn Llydaw ei gwisg arbennig ei hun, ac onid yw'n ganmil gwell amrywiaeth hardd o'r fath honno na gweld pobl wâr," pob un yn gwisgo'n debyg i'w gilydd ? Ac onid yw gwneuthur y brethyn cartref hwn yn un o'r diwydiannau sy'n cadw'r bywyd gwledig yn iach ac yn ddi- drai ? Wrth gwrs, gall merched amrywio cryn dipyn ar eu gwisg ym mhob gwlad, ond yn Llydaw, y mae cyfle i'r dynion fod yn wreiddiol hefyd. Os crwydrwch drwy'r strydoedd o gwmpas y Gare de Montparnasse, fe welwch mai dyma'r orsaf Ue bydd y Llydawiaid yn cyrraedd Paris, a dyma'r fan Ue y byddant [1 dudalen 112.