Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pwy laddodd Thomas Mathews? Fe synnwyd pawb yn y cwest pan fynegodd Baxter Ellis, un or rheithwyr, ei farn nad ei grogi ei hun a wnaeth Thomas Mathews, ond mai "llofruddiaeth— Y CWLWM AR ól bod yn edrych ar y corff. cerddodd y rheithwyr allan o'r ystafell yn araf, ac yn ôl i'r gegin fawr. Ar amnaid gan ein llywydd. eisteddodd pob un ohonom yn ei Ie gan wneud math o hanner cylch. Mi welaf y cwmni yn awr yn glir o flaen fy meddwl. Yr oedd y Uywydd yn un pen i'r hanner cylch, mewn He manteisiol i weld y rheithwyr oll gyda'i gilydd, ac yn agos at y crwner. Gyferbyn yn union â'r llywydd eisteddai dyn bychan annhrwsiadus o'r enw Baxter EUis. Mi sylwaswii arno ef yn edrych y corff yn yr ystafell arall. Ef oedd yr unig un ohonom a ddangosodd unrhyw ddiddor- deb ynddo. Yn wir, yr oedd wedi cymryd y drafferth o gydio yn y pen a'r dwylo a chraffu ar y marciau oedd ar y gwddf. Yn y cwêst, symudai ei lygaid yn Uech- wraidd oddi wrth y crwner at y llywydd, a chwaraeai â sbectol pince-nez aur-ei roi o'r naill law i'r llall ac yn ôl i'w boced, ac yua ei ddodi ar flaen ei drwyn. Ond fe anerchai bawb yn dra moesgar. Fe alwyd pedwar tyst y weddw, gwas ar y fferm, meddyg, ,a chigydd o'r enw Watkins. Amlwg ydoedd ar unwaith mai achos trist o ddyn wedi ei ladd ei hun oedd gennym. Tystiodd y weddw yn ei dagrau mai corff oi gŵr, Thomas Mathews, a welsem ac mai'r tro olaf y gwelodd hi ei phriod yn fyw oedd am chwarter wedi chwech y noson cynt. Torrodd i lawr yn ei theimladau'n ebrwydd, ac ymhen ysbaid fe'i hadfeddiannodd ei hun a dweud bod ei gŵr wedi bod yn hynod o ddigalon ers llawer o amser. Yr oeddynt wedi prynu'r fferm ar ôl y Rhyfel am groc- bris, heb hanner digon i dalu amdani, ac wedi bod dan faich trwm o ddyled byth wedyn. Tosturiodd y crwner wrthi, gan dybio nad oedd neb ohonom yn dymuno'i chlywed yn adrodd manylion eu hamgylchiadau, bron heb yn wybod iddi ei hun. Felly, dyma'r crwner yn diolch iddi yn garedig a dweud ei fod wedi clywed y cwbl oedd eisiau ganddi. FEL-y digwyddodd pethau yn nes ymlaen, fe drodd tystiolaeth y gwas i fod yn un o bwys mawr, er nad oedd yr un ohonom yn amau hynny ar y pryd. Aethai ef i'r ty (yn hwyrach nag arfer oherwydd prysurdeb) i gael ei swper am hanner awr wedi saith ac am wyth o'r gloch yr oedd allan drachefn ar y buarth, a chofiodd fod arno eisiau gweld ei feistr cyn mynd i lawr i'r pentref i brynu baco. Edrychodd ym mhobman am Mr. Mathews, ond methodd ei weld yn unman. Yna, ar antur, aeth i'r ysgubor fawr ac er ei fraw, STORl GAN Stephen Owen Tudor yr ocdd ei feistr yn crogi wrth un o'r trawst- iau. Torrodd y gwas y rhaff mewn eiliad, ond yn rhy hwyr. Yr oedd Thomas Mathews wedi marw. Yn nesaf fe alwyd y meddyg. Byr a chry no oedd ei dystiolaeth ef. Galwodd ein sylw at ddatgymaliad y gwddf. Dywedodd fod Mathews wedi cymryd ysgol a'i gosod yn erbyn y daflod ym mhen uchaf yr ysgubor. (Yr oedd ochr y daflod yn agored i gorff yr ysgubor.) Dringasai Mathews yr ysgol, rhwymo'r rhaff yn y trawst uchaf o'r daflod, sefyll ar lawr y daflod gan osod y rhaff am ei wddf, ac yna ei daflu ei hun dros yr ymyl gan ddisgyn ar y rhaff. Yn ôl barn y meddyg, pan ofynnodd y crwner iddo egluro'r datgymaliad, yr oedd Mathews wedi camgymryd hyd y rhaff. Tybiodd ei bod yn fyrrach nag ydoedd, a phan ddaeth ei bwysau arni yn sydyn, yr oedd y cwymp yn fwy nag a feddyliodd, a hynny oedd yn cyfrif am y datgymaliad. Cytunodd y meddyg yn ebrwydd mai marw trwy fygu a wnai pawb a'i lladdai ei hun trwy grogi. Ond marw trwy ddat- gymaliad, oherwydd iddo gamgymryd hyd y rhaff, a wnaeth Mathews. A dyma'r achos ei fod yn hollol farw pan aeth y gwas i'r ysgubor yn fuan ar ôl 'wyth o'r gloch. Credai'r meddyg mai newydd farw yr oedd y pryd hwnnw. Ni ofynnodd yr un ohonom ni, y rheithwyr, gwestiwn i'r meddyg. Y TYST olaf oedd y cigydd, William Watkins,—dyn llyfndew, siriol, heb arlliw dichell yn ei wyneb. Synnwyd ni braidd ymhen ychydig funudau pan glywsom Baxter Ellis yn dechrau hoh Watkins. Yr oedd y cigydd wedi prynu nifer o ŵyn gan Mathews am bump o'r gloch y noson cynt a thystiai fod Mathews yn iach ar y pryd, ac yn ei lawn synhwyrau. Bu tipyn o fargeinio cyn setlo'r pris, ond yn y diwedd cytunwyd. Dyma'r adeg y dechreuodd cwestiynau Baxter Ellis. Addefodd y cigydd nad oedd wedi talu i Mathews am y cwbl o'r stoc a gafodd fod arno tua chant a hanner o bunnau, ond nad oedd hynny ddim yn swm mawr ac ystyried yr holl fusnes a wnaent gyda'i gifydd mewn blwyddyn o amser. Tystiodd yn ddifrifol iddo adael y fferm, Cae Glas, am hanner awr wedi pump ac o hynny hyd hanner nwr wedi wyth, bu mewn fferm arall dair milltir oddi yno. Er ein dirfawr syndod, fe ofynnodd Baxter EUis gwestiwn arall a ddug guwch du ar aeliau'r crwner. Mr. Watkins," meddai EUis, a fuoch chwi erioed yn y Llynges ? Y Llynges ebe Watkins, Naddo, erioed." Yn llongwr, o ryw fath, ynteu ? Fûm i erioed â gwadnau fy nhraed ar long o gwbl, syr." A fuoch chwi, ar eich gwir, erioed yn Japan ? Naddo," meddai Watkins, gan edrych yn syn, erioed." Yr oedd y cwestiynau hyn mor ffôl a dieithr fel mai anodd oedd peidio â gwenu rywfodd, er dued wyneb y crwner, a thristed y lle. Wrth iddo holi Watkins, sylwais fod EUis yn cadw llygad ar y crwner, y llywydd, a'r tyst, megis gyda'i gilydd, heb edrych am foment yn llawn yn wyneb yr un ohonynt. Gwibiai ei drem o'r naill i'r llaU. Gorffen- nwyd y tystiolaethau ar hyn. WEDYN fe draethodd y crwner ar yr achos, gan ei bwyso a'i fesur yn ofalus, a phwyntio at y ddedfryd oedd eisoes ym meddwl pawb ohonom. Awgrymodd y llywydd hwyrach ý gallem benderfynu ein barn yn y man a'r lle, a nodiodd y crwner ei gydsyniad, canys nid oedd dim cysgod o amheuaeth beth fyddai'r farn. Eithr er ein syndod eto, mentrodd Baxter Ellis ddywedyd yn foneddigaidd y byddai'n well i ni ymneilltuo, a myned i'r ysgubor lle bu Mr. Mathews farw, i ystyried yr achos. Ac aethom, allan—braidd yn anfoddog, hwyrach—ac ar draws y buarth i'r ysgubor. Foneddigion," meddai'r llywydd, cyn gynted ag yr oeddym i gyd i mewn, ac wedi cau'r drws, beth yw eich barn am farw Thomas Mathews ? Ac edrychodd ar y nesaf ato—dyn bach sarrug o'r enw David Jenkins. Fy marn i," ebe Jenkins, yw, mai ei grogi ei hun a wnaeth o." Ei ladd ei hun," ebe'r ail a'r trydydd. Digwyddais innau fod y pedwerydd, ac atebais fy mod yn cytuno. Y nesaf ataf oedd Baxter Ellis, ac yr oedd yn awyddus am siarad. Fy marn i, Mr. Llywydd," meddai EUis, yw nad achos o hunan4addiad yw hwn, ond Uofruddiaeth' feUtigedig ac yna, fel pe bai lwmp ýn ei wddf, gwelais ei fod wedi methu mynd ymlaen, a bod ei wyneb yn goch, ond fe ymdawelodd yn ddi-atreg. Cyn ei fod ef wedi ymdawelu, yr oeddym ni i gyd yn ferw gwyllt o fraw a rhyfeddod. Pan sylwais wedyn ar Baxter EUis, ar ôl y daran- follt, edrychai'n hollol naturiol, wedi tynnu allan ei pince-nez, yn ei ddal rhwng ei fys a'i fawd, ac edrych arnom megis i gyd ar unwaith.'