Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PAN WELAIS MR. LLOYD GEORGE "Mewn cyfarfod etholiad yn 1897 a'r gweiddi •'r gorfoledd yn anniraadwy i'r sawl nai gwelodd." Can y Parch. E. Tegla Davies WRTH ddarllen, yn y papurau, hanes Mr. Lloyd George ynglŷn â'i ben blwydd, cofiais y tro cyntaf erioed imi ei weld. Y flwyddyn 1897 ydoedd, a minnau ar y pryd gartref ym Mwlch Gwyn, Sir Fdinbych, yn biwpul titsiar." Yr oedd Osborne Morgan newydd farw ac etholiad lleol ar droed, a Sam Moss yn ymgeisydd y Rhyddfrydwyr. Rhyddfrydw penboeth oedd pob glaslanc yn y dyddiau hynny, ac yr oedd eu Rhyddfrydiaeth yn gyfystyr â Chomiwnistiaeth, Bolshefiaeth, Anarchaeth, a phob aeth araU mwy chwyldroaidd na'i gilydd wedi eu cymysgu'n un. Munudau Gwyllt. Perygl bywyd ydoedd i Geidwadwr ddangos ei wyneb. Mentrodd ymgeisydd y Ceidwadwyr-Henry St. John Raikes- i Fwlch Gwyn, a llu wedi tyngu y mynnent ei waed. Pan ddaeth allan o gyfarfod yn yr ysgol wedi ymdrech ofer i siarad, rhuthrodd prif ymladdwr y fro i'w wddf, a gwddf-yng-ngwddf fu hi am rai munudau gorwyllt, a ninnau oll yn hysio'n dyn, ond ymgeisydd y Ceidwadwyr, druan, heb neb i feiddio'i hysio ef. Dihangodd o'r diwedd, eithr heb ei goler a'i dei, a rhannwyd hwy rhwng mintai ddewr Rhyddfrydiaeth fel bathodau gwr- hydri ar faes y gwaed. Daeth ymgeisydd y Rhyddfrydwyr, Sam Moss, yno yn ei dro, a phrin y caffai yntau siarad gair gan faint y brwdfrydedd. Petai ef yn llwyddo, oni fyddai'n filflwyddiant cyn pen pythefnos ? Pan aeth i'w gerbyd wedi'r cyfarfod, i fynd i gyfarfod arall yng Nghoedpoeth, tynasom ei geffylau o'i gerbyd gan rwymo rhaff wrth y cerbyd yn èu lle, a'i lusgo, ryw ugain ohonom, ffyliaid hyfryd, yn chwŷs ac yn faw, yr holl ffordd i Goedpoeth. Thomas Gee. Eithr cyfarfod Lloyd George yno oedd y cyfarfod mawr, ac yn Neuadd Blwyf Coedpoeth yr oedd hwnnw. Yr oedd y ffordd yn ddu o bobl, oriau cyn yr amser, a minnau ac eraill wedi mynd yno'n syth o'r ysgol, heb ddim ond llyncu tamaid cyn cychwyn. Dechreuodd y cyfarfod yn dra brwdfrydig, ond nid oedd Lloyd George yno, ac âi'r gynulleidfa'n fwyfwy anesmwyth o hyd. Wedi i'r mân ddoniau lleol fwrw'u mwg, cododd henwr bonheddig yr olwg i siarad, a'i ên wedi ei chuddio mewn coler Gladstone fawr, a'i dwy big yn estyn allan fel dwy hwyl Uong. Siaradai'n ddirmygus a gwat- warus am yr wrthblaid, heb gael rhyw lawer o ddylanwad, canys am Lloyd George y disgwyliai'r bobl. Y Parch. E. Tegla Davies. Buasai cryn helynt yng Nghoedpoeth y noson cynt. Yr oedd rhywun wedi lluchio carreg gymaint â phen trwy ffenestr cerbyd ymgeisydd y Ceidwadwyr pan oedd ar gychwyn oddi yno, gan wneud cryn ddifrod. Siaradai'r henwr yn gellweirus am y peth, gan ddweud mai ymresymiad caregog felly oedd yr unig un a ddeallai'r Ceidwadwyr. Er mor llawn fy mrwdfrydedd, cofiaf imi oeri at yr henwr ar y foment. Ni wyddwn pam ar y pryd, ac eto nid oedd cymeradwyo peth felly rywfodd yn gweddu i henwr, pa mor briodol bynnag ydoedd i ni'r glashogiau. Thomas Gee oedd yr henwr, a bu'r digwyddiad hwnnw'n gwmwl rhyngof ag ef hyd heddiw. Y Gwr ieuanc gosgeiddig. Pa mor ddiddorol bynnag y siaradai, gweiddi am Lloyd George yr oedd y bobl o hyd. Codai'r cadeirydd, y Parchedig Enoch Anwyl, bob hyn a hyn i ddweud,- TeUgram newydd gyrraedd i ddweud bod Lloyd George wrth Giât Brymbo," neu Tehgram newydd gyrraedd i ddweud bod Lloyd George wrth y Smelt." Ac ymhen tipyn Teligram arall wedi dyfod i ddweud bod Lloyd George wrth y Terris." Chwerthin mawr, a thawelwch yn dilyn am ennyd, ar ôl pob teligram, a phawb yn credu, oni ddeuai Lloyd George, y darfyddai amdanom oil. Cododd gŵr ieuanc tal, syth, gosgeiddig, i siarad. Ymhyfrydais ynddo ar unwaith, canys unlliw oedd ei wallt â'm gwallt innau. Ni feiddiai neb edliw fy lliw imi mwy, canys ni allai na byddai ei liw ef yn anrhydedd i unrhyw un. Siaradai'n dawel a hamddenol ond nid oedd yn cydio, a'r gynulleidfa'n gweiddi yn awr ac eilwaith am Lloyd George, GYNTAF ac Enoch Anwyl yn eu hysbysu bod teligram newydd gyrraedd bod Lloyd George wrth y Five Crosses. Swn olwynion ar y gro. Lloyd George oedd y dyn ac nid neb arall, ac Enoch Anwyl yn dal i godi i ddweud bod teligram newydd gyrraedd o rywle neu'i gilydd yng nghylch Lloyd George o hyd ac o hyd, ac yn rhyfeddol 0 lwydd- iannus at ei gilydd i gadw'r gynulleidfa gynhyrfus mewn trefn. Daliai'r gŵr ieuanc i siarad a'r gynulleidfa'n gwrando rhwng bodd ac anfodd, a gweiddi am Lloyd George bob yn ail. Tom Ellis oedd y gŵr ieuanc, ac amlwg nad ef oedd ffefryn y noson. Ar hyn dyna sŵn olwynion cerbyd ar y gro o'r tu allan, a'r He'n mynd yn fedlam ar unwaith, ac un fonllef a sgrech byddarol, a'r awyr yn ddu gan hetiau a chapiau yn ehedeg tel brain. A phobl ar y meinciau yn chwyfio'r peth agosaf i law a neidio a bloeddio a sgrechian fel petai holl wall- gofiaid y byd wedi ymgynnull yno. Y llipryn main." Dyna lipryn main 0 wr ieuanc chwim yn neidio ar y llwyfan, a Thom EUis yn cilio ac eistedd. Safai'r gŴT ieuanc o flaen y gynulleidfa mor llonydd ag y gall arian byw sefyll, a gwên braf ar ei wyneb, a'r dyrfa'n dal i weiddi a chwyfio popeth o fewn cyrraedd, a lluchio hetiau a chapiau i'r awyr. Pan ddaeth lled lonyddwch, gwaeddodd rhywun, Cymraeg Atebodd yntau dan hanner chwerthin,- Cymraeg gewch chi, a Chymraeg godre'r Wyddfa hefyd." Os drwg cynt, gwaeth wedyn. Y mae'r gweiddi a'r gorfoledd yn annirnadwy i'r sawl nas gwelodd, ac yntau'n sefyll o'n blaenau yn wên o glust i glust. A thra fu'n siarad, ymgollai'r dyrfa fyth a hefyd mewn gweiddi a chwyfio'r pethau agosaf i law, a lluchio hetiau a chapiau i'r awyr. Dim nos fel honno. Oedd, yr oedd y milflwyddiant wrth y drws, os âi Sam Moss i mewn. Cerddwn adref y nos honno fel petwn yn troedio'r awyr. Aeth Sam Moss i mewn â mwyafrif mawr, a dywedai rhyw lencyn mwy gwy- bodus na'i gilydd o'n mysg fod Lloyd George wedi ffeintio o falchder yn Llundain pan glybu fawredd y mwyafrif. Daeth y milflwyddiant,-i Sam Moss. Ni bu'n hir wedyn cyn bod yn un o farnwyr y goron. Pedair ar ddeg ar hugain oed oedd Mr. Lloyd George ar y pryd. A oes rhywun yn yr oed hwnnw heddiw rywle'n agos i fod o fewn cyrraedd i'r fath boblogrwydd a dylanwad ym mysg ei bobl ? Clywais Mr. Lloyd George lawer gwaith wedyn, ond i mi, ni bu nos yn ei hanes fel y nos honno.