Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

v" GWYDDONYDD A'R GYMRAEG POBL CYMRU YN IWERDDON WYRGYLCH eisteddfod yng nghanol y wlad oedd yn Eisteddfod Myfyrwyr Prifysgol Lerpwl yn ystod y mis a aeth heibio. Yr oedd iaith ddiled- iaith cefn gwlad ar dafodan'r rhan fwyaf o'r efrydwyr a gymerai ran. ac yr oedd rhai o'r cystadleu- wyr wedi dyfod yno o siroedd Fflint a Dinbych. Fe rannwyd y wobr am y prif adroddiad rhwng merch o"r Wyddgrug a merch o Gaerwys. ac fe aeth mab a merch o Rhosllanerchrugog. ger Wrecsam. à gwobrau am ganu. Yr oedd defod cadeirio'r bardd yn ddigrif iawn. Dwy gasgen oedd y gadair." ac yr oedd gan y beirdd enwau a gwisgoedd tra gogoneddus. Geiriau Cymraeg wedi eu gosod yn ddigon medrus ar ryw dôn jazz oedd cân y cadeirio. Y mae'n amlwg bod nifer da 0 Gymry o bob rhan o'r Gogledd yn y Brifysgol. Efrydwyr meddygol ydyw'r rhan fwyaf ohonynt. gydag efrydwyr peirianwaith a phensaerniaeth yn nesaf. Dr. Gwilym Owen. UN o hen efrydwyr Prifysgol Lerpwl ydyw Dr. Gwilym Owen. athro anianeg yng Ngholeg y Brifysgol. Aber- ystwyth, sy newydd gyhoeddi ei lyfr poblog- aidd, Rhyfeddodau'r Cread." Y mae ef wedi gwneud, ac wrthi'n gwneud, mwy na neb i esmwythau'r llwybr i ddysgu gwyddoniaeth yn Gymraeg. (Rhyfedd fel y mae'n rhaid i wŷr fel yr Athro Gwilym Owen lafurio i ddad-wneud y drwg a wnaeth- pwyd gan sefydlwyr ein cyfundrefn addysg ni, — y bohl p, dybiai mai'r Saesneg oedd yr iaith y dylai Cymro ddysgu trwyddi!) Fe all Dr. Owen ysgrifennu'n wyddonol am ryfeddodau'r cread mewn Cymraeg llithrig a deniadol. Er mai mewn prif- ysgolion Seisnig y dysgodd Dr. Owen ei wyddoniaeth, ae y disgleiriodd yn ei wybod- aeth o anianeg, yn Gymraeg y meddyliai amdanynt. ц New Zealand. YN Ninbych y ganed yr Athro Gwilym Owen, yn 1880. yn fab i'r Parchedig William Owen, a fu'n ddiweddarach yn weinidog yn Henllan, yn Webster-road, Lerpwl, ac yng Nghonwy. Aeth i Ysgol Ramadeg Rhuthin, ac oddi vno i Brifysgol Lerpwl, lle y graddiodd yn 1901. O'r flwyddyn honno hyd 1904 yr oedd yng Nghaergrawnt yn astudio ac yn chwilio ym myd anianeg dan y gwyddonydd enwog Syr J. J. Thomson. 0 1904 hyd 1913 yr oedd Dr. Owen yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Lerpwl. Yna fe'i penodwyd i Gadair Anianeg ym Mhrif- ysgol Auckland, New Zealand. Bu yno hyd 1919. ar wahân i ysbaid yn Ffrainc yn ystod v rhyfel. Dr. Gwilym Owen. Maes Anghynefin. FE'I penodwyd yn Athro Anianeg yng Ngholeg Aberystwyth yn 1920. ac y mae'n ŵr hoff iawn gan bawb tua'r coleg a'r dref. Bydd yn darlithio llawer yma. ac acw o amgylch y wlad ar faterion gwyddonol, yn Gymraeg. Fe gyhoeddodd lyfr gwyddonol yn Gym- raeg yn 1907, sef Gwyddoniaeth Pethau Cyffredin," ac yn 1914 fe gyhoeddodd Cwrr y Llen." Rhyíeddodau'r Cread," a gyhoeddwyd y mis diwethaf, ydyw ei lyfr diweddaraf, ac y mae'n argoeli bod yn un o'r llyfrau mwyaf poblogaidd. Teimlaf i fod arnom ddyled fawr i Dr. Gwilym Owen am lafur llenyddol fel hyn mewn maes sydd, ysywaeth, mor anghynefin yn Gymraeg. John Lewis Dublin." GWELAF fod y Parchedig John Lewis (gŴT o Langoed, Ynys Môn) yn dechrau ar ei 38 flwyddyn yn weinidog y capel Cymraeg yn Talbot-street, Dulyn (Dublin) — yr unig eglwys Gymraeg yn Iwerddon. Diadell fach ddiddorol sydd yno. Mi fûm yno unwaith, gan rannu llyfr emynau gyda'r Athro J. Lloyd Jones, athro Cymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Dulyn. Y mae llawer oV Gwyddyl yn ymddiddori yn y Cymry a'r Gymraeg, a bu'r Parchedig John Lewis ei hun am dair blynedd yn dysgu Cymraeg i Mr. Ernest Blythe, y Gweinidog Arian yn Llywodraeth Mr. Cosgrave. Fe ysgrifennodd y Parch. John Lewis hefyd hanes bywyd William Grimth, Carrog, hen weinidog enwog gyda'r Annibynwyr, a thad Syr John Purser Griffith, y civiì engin- eer, o Gastell Rathmines, Dublin. Syr Purser Griffith. YNG Nghaergybi y clywais i gyntaf am Syr John Purser Griffith. pan ddywedodd rhywun wrthyf am ei haelioni at achos yr Annibynwyr yno. Y mae Syr John o dro i dro wedi bod yn bur garedig wrth eglwysi'r Annibynwyr ym Môn, er ei fod yn trigo yn Iwerddon ers dros hanner can mlynedd bellach. Ei dad oedd bugail cyntaf eglwys y Tabernacl (A.), Caer- gybi. Llywydd Peirianwyr. CAFODD Syr John yrfa ddiddorol. Aeth i Ysgol Dr. Biggs, Devizes, i Ysgol Fulneck. Leeds, ac wedi hynny i Goleg y Drindod, Dulyn. Ei nôd oedd mynd yn beiriannydd gwlad. Cafodd ei benodi'n Ail-fesurydd yn Swydd Antrim yn 1870, a rhyw flwyddyn wedyn fe'i gwnaethpwyd yn Ail-beiriannydd i'r Dublin Port and Dock Board. Fe'i penodwyd yn Brif Beiriannydd i'r Bwrdd hwnnw yn 1898, a bu yn y swydd honno nes ymddiswyddo yn 1913. Bu'n aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Gamlesi a Ffyrdd Dŵr, ac ef oedd Llywydd Sefydliad y Peirianyddion Gwlad yn 1919-1920. Eisiau mynd i'r Mor. MI glywais mai mynd i'r môr oedd ar Syr John eisiau pan oedd yn fachgen bach. Yr oedd hynny yn ddigon naturiol, gan iddo gael ei fagu wrth ei lannau. Mewn anerchiad draddododd mewn cinio a roddwyd iddo gan Swyddogion Cymdeithas y Peirianwyr Gwlad, rai blynyddoedd yn ôl, dywedodd