Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FFASIYNAU. BRIar SIWTIAU y Gwanwyn hwn Gan MEGAN ELLIS. YR ydym ni'r Cymry wedi dewis blodau hardd i ddathlu gŵyl Ddewi, sef cennin Pedr (neu glochau babi," neu "ddaffodili "). Y mae edrych arnynt, gyda'u melyn haul a gwyrdd y ddaear, yn peri i bob merch hiraethu am wisg newydd ei hun, a dyna un rheswm pam y mae sôn am ddillad yn fwy pleserus nag arfer yn y gwanwyn. Dyma luniau rhai o wisgoedd y gwanwyn hwn. Dwy gôt, un o frethyn gwyrdd, â mantell fach ar yr ysgwydd, i'w gwisgo gyda het welit o wyrdd tywyUach, a'r llall 0 felfed lliw eirin, a chadach dolen llwyd, gyda menyg, esgidiau a pochette i gydweddu. PtROC DDEL O DDAU DDEUNYDD: Satin plaen, du, a llewys o grêp du a choch. SIWT FACH DDEL. Dyna siwt fach ddel hefyd o wlân lliw rhwd, â choler a chyffiau beige." Y mae'r ddwy ffroc mewn crêpe a phat- rwm arno, un gyda choler lydan, a'r llall gyda'r hvn a elwir iau llaes. Y mae'r ffroc swynol a syml arall wedi ei gwneud o satin (pali) du, a'r darn uchaf a'r llewys o crêpe o batrwm du a choch. Y mae siwtiau côt- a-sgert yn boblog- aidd y gwanwyn hwn. Y maent mewn pob math o ddefnydd, ond rhaid eu torri gan deiUwT medrus. Defnyddir gwlân o weuad llyfn a bras tebyg i stoc- inet, lliain trwm wedi ei weu'n debyg i frethyn, sidan heb ei GWELL CHWAETH. COT 0 CREPE GWLAN GWYRDD, y top ar ddull mantell fe'i gwisgir gyda het wellt wyrdd tywyllach a chôt o felfed dulas, gyda dolen llwyd-wyn a menig, esgidiau, 'sanau a bag i gyd-weddu. uwio a chotwm crych. GODRE LLYDAN. Bydd y sgert yn cael ei gwneud yn hollol blaen, bron yn syth a braidd yn gul, ond yn lledu mymryn at y godre. Gwneir y gôt i gau gyda thri neu bedwar o fotymau, a choler gul yn sefyll i fyny. Melyn dwl, glas rheiol, lliw rhwd, ac amryw fathau o lwyd, fydd y lliwiau ffasiynol i'r siwtiau hyn. Bydd cymaint o wisgo ar gotiau a ffrociau heb goler, fel y bydd yn rhaid cael rhyw fath o sgarff. Un wedi ei chrosio ag edafedd fain a welir fwyaf, ond y mae rhai sidan hefyd, mewn lliw i gyd-weddu â'r wisg. Y gôt uchaf fwyaf ffasiynol at bob dydd ydyw un braidd yn llac ond yn fntio'r ysgwyddau yn berffaith. Tipyn mwy o led yn y godre a digon helaeth i gau dros- odd yn gyfforddus mewn câr neu drên. Defnydd lliw hufen, Uiw memrwn, Ilwyd a gwyrdd a ddewisir. Gwisgir ffrociau brithliain gyda'r gôt, mewn lliw i gyd-weddu â hi, ac wedi eu gwneud o sidan, gwlân ysgafn, neu gotwm. Bydd yr het o liw prydferth i fynd gyda'r gôt mewn ffelt ysgafn, llyfn, i ffitio am y pen yn glos. Y mae gan y ferch ifanc heddiw syniad newydd ynglŷn â gwisgo. Y mae hi wedi canfod nad yn yr arian a werir y mae'r gyfrinach, ond yn y dewis a'r cynUunio. Dyma'r rheswm fod safon gwisgo gymaint yn uwch nag y bu, er bod arian yn brinnach." Pennaeth adran wisgoedd un o'r siopau mawr a ddywedodd hyn wrthyf y dydd o'r blaen. Meddai hi wedyn Unwaith yr oedd gwahaniaeth rhwng y gwisgoedd oedd yn fy nenu i a'r gwisgoedd a tyddai'n debyg o werthu. Yr oedd y gown a hoffwn i yn fwy syml a lluniaidd na'r gown y gwyddwn a gymerai ffansi fy nghwsmer- iaid. Nid felly y mae heddiw. Y dillad sydd yn swyno rhai fel ni, sydd wedi astudio celfyddyd llunio gwisgoedd, yw'r rhai a brynir hefyd. Gellir dywedyd bod dwy ferch aUan o bob tair wedi graddio yn y gelfyddyd bellach." Y mae'n gysur meddwl bod prinder arian wedi cael un effaith dda,-gwella ein chwaeth. Unwaith, os byddai gan ferch bres yn ei phwrs, a gweld het neu flows drawiadol, i mewn â hi a'i phrynu heb ystyried a weddai iddi ai peidio. Y dyddiau hyn y mae'n cynUunio ymlaen