Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Beth mae hi am wneudf YR oedd yr hen bobl yn dysgu llawer o bethau drwy sylwi a gwylio. Yr oedd gwybod arwyddion y tywydd yn anhraethol bwysig iddynt. Y gŵr craff. sylwgar. a lwyddai ac âi'r anghraff. pŵl ei lygaid. yn dlawd. Gwelir olion o hyn yn ein hymddiddan ni heddiw. Y peth cyntaf yn ein sgwrs bob amser yw'r tywydd. Clywir dynion fel pregethwyr, sydd â'u pennau uwchlaw'r cymylau, a mwynwyr. sydd â'u gorchwyl i lawr yn nhywyll leoedd y ddaear, yn dal i sôn am y tywydd. er nad yw'n effeithio dim ar eu llwyddiant hwy. Clywir pawb hefyd yn cyfeirio at y tywydd yn barchus iawn bob amser yn hi "—" Beth mae hi am wneud? Darllenai'r hen bobl arwyddion y tywydd yn y nefoedd uchod, yn y ddaear isod, ac yn nyfroedd y môr. Syllai Siôn Phylip, yr hen fardd o Ardudwy yn wyneb y môr. gwyliai pob ystum ac amnaid o'i eiddo. a deallai ei holl funudau Man trist ym mhob munud draw Môr. duoer y mordwyaw. Deall yr adar. Gallai Siôn Phylip ragfynegi ystorm cyn sicred â'r rhai sydd yn bygwth depression ar y radio heddiw Dyddhau a wnaeth. ar draeth drain. Dydd oer o'r deau ddwyrain. Xithio gro a wnaeth hagr wynt. Xoethi cerrig nyth corwynt. Troi'r arwydd wnaeth trwy'r wawr ddydd, Twrch Trwyth yn trochi traethydd. Lliw ine fu gylch llyncfa gwynt, Lle anaill gorllewinwynt. Deallai Dafydd ap Gwilym genadwri'r adar A bronfraith ar ír brenfrig Cyn y glaw yn canu glau Ar lwys banc eurlais byneiau. Da y gwyddai bugeiliaid Edward Rhisiart o Ystrad Meurig, wrth sylwi ar yr adar a'r praidd, pa bryd i ddisgwyl yr ystorm Mae'r awel yn chwythu uwchben. a chwibanu Gwêl acw'r hwrdd tor-ddu, yn llechu'n y llwyn Mae'r adar hyfrydlais yn canu'n symudlais, Rhwng cangau (cais gydlais) cysgodlwyn. Nid hir bydd gan landdyn iaith hylwydd na thelyn. Byd drwg sy'n gyffredin yn dilyn y da Mae cainc yr aderyn yn arwydd o ddrycin Mwy cytun â'r henddyn yw'r hindda. Yr oedd bywyd rhai o'r creaduriaid byn. y credid eu bod yn rhagfynegi rhyw afiwydd, mewn perygl. Nid yw einioes y proffwyd, bid gath. bid bregethwr, yn ddiogel iawn. Clywch Wilym Hiraethog yn adrodd hanes ei nain a'r gath Parodd dylanwad yr hen goel bod cathod yn cripio'r dodrefn yn arwydd o wynt a drycin. ddigwyddiad lled ddigrif un tro. Eisteddai fy nain wrth y tân. a chanfu'r gath yn cripio'r dresel. Neidiodd ati, a'i gyrru ymaith, gan ei dwrdio'n chwerw. cyda'i bod wedi eistedd yn ei ehadair wellt, dyna'r gath wrthi yn cripio drachefn rhedodd ati eilwaith. ac ymaflodd yn ei gwar. ac aeth â hi allan i'r drws. a'i thaflu dros y wal ganol y buarth, lle'r edrychai titw yn synedig, yn methu deall beth a allai Gan Hwsmon yr Hendre ei throsedd fod. Pa fodd bynnag, dychwel- odd i'r tŷ yn fuan, a dechreuodd gripio eto. Pan welodd fy nain hynny, hi a roddodd ei chlog amdani. a phenderfynodd ddianc i'r Rhydloyw, lle'r oedd ei mab hynaf yn byw. oddi ar ffordd y gath. Byddai'r gath yn arfer ei dilyn hyd y buarth, a phan welodd ei meistres yn mynd allan, rhedodd ar ei hôl, ac aeth heibio iddi at y llidiart yr oedd i fynd drwyddi, ac yno dechreuodd gripio'r post â holl nerth ei hewinedd. Trodd hithau yn ei hôl, gan gwbl gredu fod rhyw dymestl anghyffredin yn sicr gerllaw. a diamau pe cawsai afael ar ditw ar y funud honno. y buasai ei bywyd mewn perygl. "Aurora Borealis." Wedi arfer rhagfynegi trwy sylwi ar yr awyr a'r mynydd a'r môr, a'r rhagfynegi Llygaid y Llydawiaid ar Gymru (0 dudalen 103.) yn cymryd y trên i fynd adref. Ni ellwch fod yno'n hir cyn gweld un neu ddwy o fenywod â boneti gwynion ar eu pennau. Llydawesau ydynt. Dawnsio i'r Pibau. Gwn am neuadd ddawnsio yn yr ardal honno lle mae rhybudd ar y mur yn gofyn i chwi beidio â mentro ar y llawr os nad ydych yn gyfarwydd â'r dawnsiau Llydewig. Ac os nad yw dyn yn goegyn anobeithiol yr wyf yn siŵr na all beidio â hoffi sŵn cartrefol y pibau Celtig. Y niae'n rhaid bod gwaed Gwyddelig yn y dyn a ddyfeisiodd y rheini. Sut y gellir edrych ar y fath beth heb wenu ? Ni wn i sut i esbonio'r ffaith bod yr offeryn hwnnw'n boblogaidd ym mhob un o'r gwledydd Celtig ond Cymru. Iechyd i galon dyn yw clywed musig hen ffasiwn y pibau, a gweld y Llydawiaid yn cael cymaint o hwyl ar ddawnsio iddynt. Bydd fflach o hiwmor yn eu llygaid, chwerthin iach yn yr awyr, ac i fod yn siŵr bod pawb yn effro, bydd ambell ddawnsiwr yn stampio ar y llawr yn null y Sbaenwyr. I dorri ar ffurfioldeb y dawnsiau diweddar, a throi cwmni tawel a pharchus yn llawen, nid oes dim hafal i'r dawnsiau h\n. Drama Gymraeg. Rai misoedd yn ôl, bûm mewn cyfarfod o Gylch Celtaidd Paris, Kelc'h Keltiek Pariz yn gweld chwarae drama fer, Eun Nozveziad Reo Gwenn," sef cyfieithiad o Noson o Farrug (R. G. Berry). hwnnw yn rhan mor bwysig o'u bywyd, hawdd bellach oedd mynd ati i broffwydo tynged dyn, ac yr oedd yn ddigon naturiol i Rys Goch Eryri droi at Garnedd Llywelyn yn ei Gywydd Brut a gwneud i'r hen Garnedd broffwydo, fel y gwnaethai ragfynegi'r tywydd iddo lawer gwaith o'r blaen Taw, Garnedd, â'th ryfeddod, Tegloyw galeh, tŷ glaw ac ôd. Pawl oer obr, piler wybren, Pa bryd y daw y byd i ben ? Yn yr un man y caiff Pantycelyn ei arwyddion am bethau i ddyfod. Yn ei Aurora Borealis," dywaid fod Duw yn rhoddi arwyddion yn y nef a'r ddaear am bethau i ddyfod, rai prydiau yn arwyddion o farn ar bechaduriaid anedifeiriol ond yn fwy mynych fel arwydd o waredigaeth ac iechydwriaeth ei saint." Fel hyn y cân Fe grwydrodd fy meddyliau Am y golau sy'n y nen, Diau, meddwn, mae'n arwyddo Rhywbeth sydd i ddod ben Naill ai arwydd bydd ar fyrder Hyn o fyd yn danllwyth dân, Neu ynte caiff efengyl Iesu Rwydd-deb llawn fynd ymlaen. Canwyd cerddoriaeth Geltig wych gan y côr cymysg a elwir "'Kanerien Breiz" (Cantorion Llydaw). Ar ddiwedd y cyfarfod, ar ôl inni ganu Bro Goz ma Zadou," trodd dyn ataf, a dweud mewn Cymraeg gweddol gywir A ydych yn Gymro ? "Ydwyf," ebe fì, ai Cymio ydych chwi? Nage, Ffrancwr, ond yr wyf yn dysgu Cymraeg." Canmolais ei Gymraeg, a gofyn iddo a oedd wedi bod yng Nghymru. "Do," meddai, "am dridiau—bûm yng Ngwynedd." Deallais ei fod yn gyfarwydd â gwaith amryw o'n beirdd diweddar, ac yn c plith un mor anodd â Goronwy Owen. Yn wir, gall Cymro deimlo'n hollol gar- trefol ym Mharis weithiau.