Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Athro Edward Edwards yn dweud hanes Disgyblu /fan Parri'r Crydd YR oedd pawb, yn hen ac ieuanc, yn adnabod Ifan Parri'n dda 0 fewn yr holl blwyf-a hwnnw'n blwyf mawr iawn-yn ymestyn o lannau Llyn Tegid i fyny i'r Garneddwen, ac o Flaen Lliw i odre'r Berwyn. A'r unig dro y byddai'n gadael ei blwyf oedd ar ddydd Sadwrn i wneud negesau dros yr ardalwyr yn nhre'r Bala. Yr oedd ei dŷ ar fin y ffordd yn y Pandy, ar ben rhes o dri, a'i gymdogion yn y ddau arall oedd Catrin y Go a Siân Siôn Dafydd. A rhan bwysig o fywyd Ifan Parri oedd cadw'r heddwch rhwng y ddwy a'i wraig ei hun, Mari Parri, gwraig anystywallt a pharod a miniog ei thafod. O flaen y ty, rhuai afon Twrch, a sisialai ffos y felin o'r tu cefn iddo. Yn ei ymyl yr oedd dwy odyn,—odyn Owen Tomos ac odyn Siôn Rhobert ­ond anaml yr âi Ifan Parri i'r un o'r ddwy, ond pan fyddai ei dân ef ei hun wedi diffodd. Ofn Ysbrydion. Nid gwaith hawdd yw rhoi darlun byw ohono. Pan safai'n syth, edrychai'n bur dal,-tua dwy lath ­ond pan gychwynnai o'r ty, yr oedd yn ei gwlwm, rywbeth yn debyg i S," — yn ei gwman," fel y dywedem eithr erbyn cyrraedd y Llan, yr oedd wedi sythu fel pren onnen. Yr oedd yn llawn o drydan gwyllt,—ei chwerthin uchel, iach, ei ateb parod, ei droed ysgafn, ei gerdded chwim, ei ofn o'r twllwch ac ysbrydion.­dywedai fyth a hefyd iddo redeg adref yn y gwyll a chatrodau o'r tylwyth teg bron a'i ddal gerfydd ei war. Yr oedd hud a lledrith" yn wlad sylweddol iawn iddo, a chredai'n gadarn y clywai ei thrigolion yn siarad â'i gilydd yn ei gwsg. Deffrôdd yn aml i fyd materol iawn, ­penelin esgyrnog Mari yn ei ochr, a'i llais ininiog yn ei glust Be haru ti, yr hen ffwlcyn mawr ? Cobler heb ei fath. Wrth ei waith, eisteddai ar fainc isel, yn union o flaen ffenestr y gegin, a'i arfau o'i gwmpas,-lledr, cwyr, llinynau, morthwyl pren go fawr, a llawer o rai haearn bychain, carreg i guro'r lledr arni, cwpan â dŵr ynddi, acfpUy ymlaen. Ac o sbïo arnynt, hawdd i chwi feddwl na fu'r fath grydd yng Nghymru erioed. Y gwir noeth yw nad crydd mohono o gwbl, ond cobler syml a thrwsgl. Rhoddodd ffarmwr newydd ddyfod i fyw i'r ardal ordor iddo am bâr o esgidiau. Bu Ifan yn bur hir yn mesur traed mawr y ffarmwr tew, a hoffai yntau weld y crydd mor fanwl yn ei grefft. Ar ôl galw lawer gwaith, yr oedd y pâr yn barod ymhen tri mis. Ond p'run ydi'r esgid chwith ? ebe'r prynwr. Yr Athro Edward Edwards ydyw Is- brifathro Coleg y Brifysgol, Aber- ystwyth, ac y mae'n frawd i'r di- weddar Syr Owen M. Edwards. 'Dydi-o ddim gwahaniaeth," ebe'r crydd, mae'r ddwy yn union yr un fath." Sut gebyst y gwneuthoch chi nhw felly ? meddai'r ffarmwr, yn Uawn tymer ac yn dechrau dirnad beth oedd gallu'r crydd. "Wel, wel," ebe Ifan, a'i law yn cosi ei ben hanner-moel ac yn gadael cwyr arno, ydech-chi'n gweld, pan mae'r ddwy'n hollol yr un fath, fedrwch chi yn eich byw wneud mistêc rhwng y ddwy." I mewn ati. Wrth goblo'r esgidiau, fe welai'r crydd bawb oedd yn pasio o flaen y tv, ac yr oedd Mari ac yntau yn dyfalu i b'le'r oeddynt yn mynd. Ac wrth gwrs, edrychai pawb ar y crydd, a cheid nod y pen a chodi llaw i ddweud fod popeth yn iawn. Aem ninnau, blant, i mewn ato os gwyddem fod Mari ei wraig allan,—yr oeddym yn siwr o gael mincen ganddo o un o'r poteli ile y cadwai Mari ei danteithion a werthai i blant y plwyf. Yr oedd Dafydd y Go yn sicr yn ei feddwl ei hun fod Mari'n ennill mwy lawer at gadw'r tŷ wrth werthu y melysion nag oedd ei gŵr wrth drwsio esgidiau'r ardal. "Nen'Tad." Yr oedd Ifan yn syml a diniwed. Ei air llanw cyffredin oedd n'en tad,talfyriad o'r frawddeg yn enw'r tad,"­brawddeg hollol ddifeddwl a diystyr iddo ef,—ond arferai hi'n gyson lle bynnag y caffai gyfle. Megis Sut yr ydech chi heddiw, Ifan Parri ? "Diolch yn fawr ichi, n'en tad, 'dwi'n dda iawn, a sut y mae hi hefo chithe ? Fe chwaraeai plant yr ysgol lawer tric arno trwy wneud iddo'i wrthddweud ei hun. Mae-hi'n oer iawn, Ifan Parri." Ydi'n wir, n'en tad, gwyliwch gael yr annwyd, y mhlant i." A'r twr arall o blant, yn ymyl y lleill "Mae-hi'n braf iawn heno, Ifan Parri." Ydi'n wir, n'ën tad, bwriwch iddi hi, y mhlant i." Cristion plaen. Ni wnaeth erioed gam â neb, a thystiaf na wnaeth neb gani ag yntau. er mor hawdd fuasai ei dwyllo' yn ei fasnach ac yn ei negeseuau. Mi soniaf am ei gysylltiad â'i gapel heb freuddwydio taflu dim sarhâd arno, ond i ddangos i'r oes hon y fath gymeriadau difyr a dymunol y'n magwyd ni yn eu plith. Anaml y gofynnid ei brofiad yn y seiat, canys ni wyddid yn y byd mawr beth a ddywedai. Ond yr oedd yn ddiogel gofyn iddo ddweud adnod—yr oedd ganddo ddwy bob amser yn barod ar ei fin, Cofiwch wraig Lot a Gwyn eu byd y tlodion." Nid oedd Mari hanner mor reolaidd gyda'r capel, ac ysgafn oedd pwys ei chrefydd'ar ei meddwl. Fe wnai dipyn o hwyl o ymgais Ifan hefyd i fyw'n dduwiol, gan awgrymu ei bod yn llawer gwell iddo fwrw iddi i orffen trwsio'r esgid na meddwl cymaint am ei ddiwedd." Ac un waith, addefodd mewn seiat ei fod yn ofni tafod Mari, n'en tad." "Mi tries hi unwaith." Pwnc y seiat honno oedd pwysigrwydd weddi ddirgel mewn crefydd. Cofiaf yn glir hyd heddiw i'r gweinidog—Rhobert Williams y Wern Ddu-siarad yn ddwys a difrifol ar y mater. Ategwyd ef gan un neu ddau o'r blaenor- iaid, ac am ryw reswm neu'i gilydd, gofyn- nodd yr Hen Barch "-teitl o anwyldeb ar ein gweinidog-i Ifan Parri a fyddai ef yn arfer y weddi ddirgel gartref. A dyma ninnau blant yn glust i gyd. Byddaf, n'en tad,—mi tries hi unwaith, n'en tad,—mi es i'r 'stafell fach ar ben staer a cheues y drws, n'en tad,—ond mi ddoth Mari i fewn pan own i ar ei chanol hi, — fu arna i erioed y fath gywilydd yn 'y mywyd,- naddo'n wir, Robert William bach,— abyth er hynny, mae arna i ofn ei thrio-hi, — oes, yn wir, n'en tad mawr, ac felly y base hi hefo chithe, Robert William annwyl, tasech clii'n ŵr i Mari ni,—mae'i thafod hi, n'en tad, mor fain â blaen fy myniawyd i,—ydi'n wir, n'en tad." Rhaid oedd cael terfyn swta i'r cwrdd i guddio gwên bleserus a siriol pawb. Zecharia Jones, ewch air yn fyr i weddi i'n gollwng ni," meddai'r hen Batriarch, â'i napcyn poced llwyd yn cuddio mwy na hanner ei wyneb ef ei hun. Rhoi'r ddisgyblaeth arno. Ni welsom ni, blant, erioed mo'r Hen Barch yn chwerthin, mwy nag y clywsom ef yn dweud gair cas neu amheus. Yr oedd yr un mor ddifrifol wrth fedyddio plentyn ar brynhawn Sul ag oedd pan bregethai ar ddydd y farn. A chredaf yn hawdd na fu neb yn gymaint o dramgwydd i ddifrifwch ei fywyd nac yn fwy o broblem i'w synnwyr cyffredin cryf sut i ddelio â fo nag a fu Ifan Parri ddiniwed, ar ambell i dro. Ao eto, daeth yr amser pan oedd rhaid gosod y ddisgyblaeth eglwysig gyhoeddus arno. Acfelhynybu. Y Bwch. Ai Ifan Parri'n gyson bob pnawn Sadwrn i'r Bala gyda'r trên i wneud negesau dros y cymdogion. Yn eu plith, deuai â'r Faner Fach i'm tad, a'r neges hon ac arall i hwn a hwn, heb un nodyn ar bapur. Ein [I dudalen 120.