Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HANES "JAC" UN rhyfedd oedd Jac. Trigai ei hunan mewn bwthyn bach gwyn ar ben yr allt yn ymyl y pentref. Nid oedd ond dwy ystafell yn y bwthyn ond cedwid hwy yn weddol lân a destlus gan Jac. Nid oedd neb yn rhyw sicr iawn o'i oed: wrth edrych ar ei gorff gallasech gymryd ei fod tua deg ar hugain oed, ond o ran meddwl nid oedd wedi datblygu nemor ddim er pan oedd yn ddeuddeg oed, neu dyna oedd syn- iad ei gymdogion amdano. Y prif ddirgelwch ynglyn â Jac oedd pa fodd yr oedd yn gallu byw heb wneud dim gwaith oddieithr bwydo yr ychydig ieir a gadwai yn yr ardd y tu ôl i'r ty. "Jac," ebe rhyw fachgen ieuanc wrtho, pa fodd yr wyt ti yn gallu byw fel hyn heb weithio? Dyma fi wrthi hi yn galed o fore tan hwyr ac nid wyf ddim gwell allan na thi y.T v diwedd." Wel," meddai Jac yn drist, yr wyt ti wedi dechrau gweithio, onid ydwyt? Felly mae hi'n rhy hwyr i 'nghyngor i fod o un- rhyw help iti. Dechrau gweithio ydi'r drwg. Un ydoedd Jac na ddechreuodd fawr erioed; gorffen pethau y gwelid ef fel arfer. Ysmygai bron yn ddi-baid drwy'r dydd, ond stwmps yn unig a ysmygai, a thebyg yw na bu sigarét gyfan rhwng ei wefusau erioed. Jac, fel arfer, fyddai'n gorffen y cyw iàr a ddechreuai y person i ginio'r Sul. CYN iddo ddechrau cadw ieir ei hunan dywedid iddo fyned i un o siopau'r pentre i geisio hanner dwsin 0 wyau. A gaf i hanner dwsin o wyau duon, os gwelwch yn dda?" meddai, yn ddigon parchus. Cei, neno'r annwyl," meddai'r siopwr, gan wenu ar ei gwsmeriaid eraill. "Os wyt ti'n meddwl dy fod yn adnabod wyau ieir duon, dewis hanner dwsin ohonynt o'r bocs yna." Adnabod wyau ieir duon? Wel ydwyf. yn siwr," meddai Jac, gan ddewis yr llan- ner dwsin wyau mwyaf oedd yn y bocs. Efallai mai ar bertrwydd fel yna yr oedd Jac yn gallu byw mor ddi-ymdrech. UN wythnos bu cwyno mawr yn yr ardal- oedd o gwrnpas fod rhywun yn dwyn ieir liw nos. Dywedid fod y lleidr, pwy bynnag oedd, yn awdurdod ar ieir, oblegid dim ond yr ieir gorau y trafferthai â hwy. Ymhen wythnos wedyn, sylwid bod Jac wedi dechrau cadw ieir ar raddfa eang yn ei ardd gefn. Ymhen rhyw wythnos wedyn yr oedd wyau yn dylifo i fewn i holl siopau 'r pentref. Jac oedd yn eu cadw i gyd mewn wyau. Nid oedd bosibl cael allan pa sawl iâr oedd ganddo, ond rhifai'r wyau ddwsin- au bob dydd. Sylwid fod mwy ohonynt wedi noson sych. Cadw Ieir Aetli yntau i edryoh arno ei hun fel ihyw Awdurdod ar Ieir, a lledaenai'i gynghor- ion gwych ar ffermio ieir i bawb a wran- dawai arno. Ymwelwyd ag ef gan un o wyr y pentref. Pan oedd y ddau yn sefyll yn yr ardd, daeth iâr fawr wen heibio iddynt; tynnodd Jac ei gap iddi gydag arwydd o barcli mawr. Beth ydyw'r mater arnat, ddyn? ebe'r ymwelydd mewn braw, tynnu dy gap i iâr. 'Thynnaist-ti erioed dy gap i mi." Naddo, a rheswm da paham," meddai Jac yn sobr iawn. 'fedrwch chwi ddim dodwy wy. CEISIAI pawb gael allan pa fodd yr oedd yn cael cymaint o wyau canys dechreu- odd yrru bocseidiau ohonynt i ffwrdd i Lerpwl gyda'r trên. Aeth i fyny yn syniad yr holl ardal, ond yn ei syniad ei hun yr aeth uchaf. Traethai wrth bawb, hen ac ieuanc, ar y modd gorau i gadw ieir er mwyn iddyriTdalu. Un peth a'i poenai'n fawr oedd fod gwastraff lie mewn bocs wyau. Fe ddylai'r bocs yma ddal dwywaith cym- aint," meddai'n sarrug wrth y porter yn y stesion, ond fod yr hen wyau yma yn gwrthod ffitio i'w gilydd." Dywedai hefyd os am gael ieir i ddodwy fel ei ieir ef, fod rhaid eu diddori. Nid oedd gobaith, meddai, o gael wyau oddi wrth ieir digalon. Ac er mwyn diddori ei stoc byddai'n rhoi ei gramoffôn i fynd yn yr ardd ben bore glas a'r peth diwethaf yn y nos. Ac os oedd yr unig record oedd ganddo yn diddori'r ieir yr oedd bron wedi gwallgofi y cymdogion. Pan ddaethant at Jac i gwyno sicrhawyd hwy fod effaith y miwsig ar yr ieir bron yn wyrthiol, a chydsyniai'r ardal ag ef ei bod yn beth gwyrthiol bron i bob iâr ddodwy dau ŵy bob dydd drwy'r flwyddyn. Cwyno yr oedd ei gymdogion na allent hwy gael yr un ẁy gan eu stoc hwy, ond efallai mai digwyddiad oedd hyn. WEDI rhai misoedd o lwyddiant eithriadoi ym rnyd y da pluog, canfu Jac, er mawr ofid iddo, fod rhai o'i ieir yn myned yn bur hen a bod dyddiau eu dodwy yn dirwyn i ben. Ofnai mai pris isel a gawsai am yr hen ieir trwy eu gwerthu i'w bwyta, ond ni fu Jac yn hir cyn cael hyd i ffordd allan o'r perygl. Penderfynodd droi'r hen ieir i'r ardd o flaen y ty; a thrwy hynny eu rhoddi yn nes i'r ffordd fawr, ac felly yn nes i olwynion moduron yr ardal. Nid oedd yn hoff o'r cynllun ar y dechrau ond gwelodd mai dyma'r unig ffordd i gael ymwared â'r hen standards a chael pris ieir ieuainc am danynt. Rhyfedd mai ieir ieuainc a leddir bron yn ddi-eithriad gan foduron. Er y Gan J. WILLIAMS HUGHES. cwbl, yr oedd nioduiwyr yr ardal yn boenus o ofalus, ac er i Jac weled ainl i ddihangfa gyfyng o ffenestr y ffrynt ni ddaeth damwain angeuol i un o'i stoc. Felly rhaid oedd cael cynllun arall, a'i gynllun nesaf oedd cuddio y tu ôl i wal bridd y cae ar draws y ffordd, a phan ddeuai modur heibio taflai yntau ychydig o geirch ar y ffordd a rhuthrai'r holl ieir am dano yn union fel y disgwylid iddynt, gan daflu pob gwyliadwriaeth i'r gwynt. V CYNTAF i ddod lleibio yn ei fodur wedi i Jac ddechrau y cynllun newydd oedd y person. Yn anffodus gallodd daro'r breciau yn ddigon sydyn i osgoi rhyw ddwsin o ieir. ond cafodd Jac y pleser o'i glywed yn rhoddi rheg gron iawn. Xi fu'r ysgolfeistr a ddaeth heibio ymhen hanner awr mor ffodus. Fe laddodd hwnnw yr hen iâr goch, y fwyaf a'r hynaf o'r stoc i gyd. Daeth Jac i'r amlwg pan welodd beth a ddigwyddodd, cyffrôdd ei deimladau, a dechreuodd ganu clod yr ymadawedig a mesur ei golled wrth y punnoedd. Ni phallodd ei ofid nes bod saith a chwech yn ei boced. Gweithiodd y cynllun yn ardderchog ac ymhen mis nid oedd yr un hen iâr yn aros. Yn wir ni chafodd Jac dâl am y ddiwethaf a laddwyd, canys daeth angau ar ffurf motor- beic dieithr a aeth ymlaen heb aros i'r cwest. Synnodd Jac at y fath greulondeb ac anonestrwydd. ERHYN hyn aeth Jac yn aelod o'r gangen Undeb y Ffermwyr yn y lIe, ac âi i'r cyfarfodydd yn gyson gyda chopi o'r Feathered World o dan ei fraich. Edrychid arno fel rhyw genius masnachol. Rhoddodd fraw i'r gangen un noson trwy ei hysbysu ei fod am symud nifer o'i ieir i fyny i ben y mynydd a fod am ddechrau rhyw fferm fach yno i fagu cywion ac ieir i'w bwyta. Pam yr ewch â hwy mor bell oddi wrth y tj ? ebe'r cadeirydd. Wel," meddai yntau, 'rwyf yn cofio bod pobl sy wedi cael eu magu ar y mynyddoedd yn magu mynwesau llydain a chryfion,—ac os dynion, felly hefyd ieir. Felly mi gaf frîd newydd o ieir fydd yn hawlio pris uchei yn y farchnad." SYLWID nad oedd Jac i'w weled o am- gylch fel ac yr arferai fod, a phan ddeuai i'r siop fe welid golwg trwm, meddyl- gar, ar ei wyneb. Dywedodd un bore wrth y siopwr ei fod ar fin darganfod rhywbeth fuasai'n syfrdanu'r byd ond nad oedd ar hynny o bryd yn medru gollwng allan y gyf- rinach. Y cwbl a ddywedai pan holid ef oedd: A gollasoch chwi erioed wy trwy iddo rowlio oddi ar y bwrdd ar lawr a thorri? í [I dudalen 120.