Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

P entref tirion y Gerddi CYMRU,XVII Un o erddi'r pentref. Llyn Uech Owain. Doedd dim yn digwydd yno Ond haul, a glaw a gwynt TEBYG i hyn ydyw profiad amryw o drigolion pentref Cefn Eithin. Er hynny fe ddigwydd ambell briodas. ac etholiad lleol neu sir. neu apwyntio mishtir newydd ar ysgol y pentref i beri tipyn o gyffro, ac fe sylweddola hyd yn oed y trigolion mwyaf anllythrennog fod rhywbeth wedi'r cyfan yn digwydd yma. Yn nwyrain Sir Gaerfyrddin, rhwng Llan- dilo a Llanelli ac Abertawe a Chaerfyrddhi, ceir y drindod o bentrefi Cross-Hands, Gors- las a Chefn Eithin. Saif y ddau bentref cyntaf ar y briffordd a arwain i'r trefi a enwyd, ond saif Cetn Eithin, pentref o ryw wyth cant o drigolion, ychydig o'r neilltu, ar godiad tir, darn o'r Mynydd Mawr. Y mae enw'r pentref yn ei egluro'i hun—cefn, sef darn o'r mynydd ers llawer dydd, wedi ei guddio ag eithin. Er nad yw'r pentref ar y briffordd, ac nad oes chwaith ffordd haearn yn agos iddo, fe'i cysylltir yn hwylus â cherbydau bws, sy'n rhedeg droeon y dydd rhwng Llandilo, Rhydaman, Llanelli, Abertawe a Chaer- fyrddin. Pedwar ty to gwellt. Pe bai rhywun yn edrych i lawr o long awyr ar Gefn Eithin, dywedai ar unwaith na ddilynwyd yr un cynllun trefnus pan ^deiladwyd y tai. Canolbwynt y pentref yw'r ysgol a'r siopau sydd yn ymyl. Daw tyrfa o blant i'r ysgol, rhwng dau a thri chant. Yn syth o fiaen yr ysgol y mae'r Llythyrdy. Fe all y pentref ymffrostio mewn bron pob math o siop, ag eithrio tafarn-os gellir gsdw hwnnw yn siop ceir yma siopau dUlad, crydd, barbwr, haearn, a groser. Rhyw gan llath i'r dde o'r ysgol y mae capel yr Annibynwyr-yr unig gapel yn y pentref-adeilad hardd, â bron chwe chant o aelodau. Y mae'r Tabernacl yn enwog am ei ganu da, ac mae côr yr eglwys yn ddau gant o rif. Yn agos i'r ysgol y mae cae chwarae plant y pentref. Gun y Parch. I Ifonwy Hughes Thomas, Hirwaun, Morgannwg. Newydd yw'r rhan fwyaf o'r tai, ac ni cheir ond rhyw bedwar iý tô gwellt yma. Goleuir amryw o'r tai gan drydan, ond nid oes olau eto ar y ffyrdd. Y mae'r rhan fwyaf o'r trigolion yn berchen tŷ eu hunain. Gerddi Mehefin. Y mae enwau doniol ar rai o'r heolydd. Gelwir un ffordd yn Heol y Baw. Nid rhyfedd ei galw felly, oherwydd, ers llawer dydd, mi fuasai'n wyrth i unrhyw un gerdded trwyddi a chadw'i esgidiau'n lân. Enw doniol arall ar y ffordd sy'n arwain o'r ysgol i Ljn-Uech-Owain ydyw Heol y "Popples." Fe'i llys-enwyd hi felly am ei bod yn ffordd arw i'w cherdded-vn llawn cerrig mawr. Ond nid felly y mae'r heol heddiw. A chyda llaw, yn perthyn i dai'r heol hon y ceir gerddi gorau'r ardal. Ysbryd- iaeth i gorff a meddwl ydyw ymweld â'r gerddi tua Mehefin a Gorffennaf. Y glowyr llengar. Ennill y rhan fwyaf o'r pentrefwyr eu bywoliaeth drwy weithio yn y gwaith glo. Y mae dau waith yn ymyl-Cross Hands a Blaenhirwaun-ac v mae'r ddau yn nosbarth y glo carreg. Ceir gwaith cyson yn y pyllau uchod, a nifer fach iawn o bobl di-waith sydd yn y pentref. Cymer y glowyr-ac yma ceir teip o'r hen lowr Cymreig--ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth. Y mae baner SosipJaeth yn chwifio'n uchel yn yr ardal. Hoff gan amryw o'r glowyr lên, barddoniaeth a musig. Darllenir hefyd gan lawer rai o'r cylchgronau Cymraeg fel yr Efrydydd a'r "Llenor." Ac fe gafodd Y Ford GRON dderbyniad gwresog yma. Yn ddiweddar, ffurfiwyd clwb pêl droed ymysg y glowyr ifainc, ac fe ddisgwylir pethau mawr oddi wrtho. PENTREFI Y mae'r ardal yn hollol Gymreig ei hysbryd. Gwneir popeth yn Gymraeg yma —chwarae, caru, priodi a byw! Y mae'n debyg, pe bai rhywun yn siarad Saesneg â'i gymydog, na fuasai'n dda arno. Ni ddaeth y meddwl taeog i'r ardal fod siarad yn Saesneg yn dangos mwy o addysg a diwylliant na siarad yn Gymraeg. Ffurfiwyd yn ddiweddar gangen o Urdd Gobaith Cymru yma, ac ugeiniau o'r plant wedi ymuno'n barod. Yr wyf am i'r darllenydd ddyfod gyda mi am dro at Lyn-Llech-Owain. Cychwynnwn o ymyl yr ysgol ac awn i fyny ar hyd Heol y Popples," ac i mewn drwy hen gât i'r [I dudalen_120. Heol sy'n arwain at y Llyn.