Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gwydd Main YMHLITH y celfi amaethyddol hyd yn ] ddiweddar, yr enwocaf yn ei dymor fyddai'r gwŷdd main. Y gwanwyn cynnar oedd ei dymor ef, adeg troi y tir glas-y tyndir. Ac onid un o gwestiynau cyntaf y ceffylwr a gyflogid yn ffair Galangaeaf fyddai "A oes acw wydd main go dda ? Gwaith pwy ydi o ? 'Roedd i'r offeryn hwn bwysigrwydd neilltuol ymhlith y gwyddiau eraill, am fod mwy o grefftwaith llaw a llygad yn cael ei briodoli iddo ac i'r gwaith o'i ddal a'i osod nag i'r un math arall ar wŷdd. Yn naturiol fe'i gelwid yn wŷdd main am ei fod yn helaeth ei hyd, a'i 'styllen droeog yn hir ac yn weddol glos i'w gorff, yr hyn a barai iddo dorri cwys raenus galed, a honno wedi ei gosod ar ei chongl. Torrid ymyl y gwys gan olwyn feehan ag iddi gyllell a chantel. Gellid codi neu ostwng hon fel y dymunid, i benderfynu dyfn y gwys. Yn union o'i hôl byddai'r cwlltwr yn torri hyd at y 'styllen. Cymerai hyn y gwys megis ar ei gwar a'i throi o'r neilltu gan osod sglein ei gloywder arni o dalar i dalar. O'r golwg, yn rhyddhau gwaelod y gwys, byddai'r swch, ac yma y byddai'r gof yn dangos ei grefft. Er ei bod yn ofynnol cael profiad a diddordeb arddwr i fedru gosod y gwydd yn iawn, eto i gyd byddai blerwch neu anfedrus- rwydd y gof wrth drin y swch yn taflu'r cyfan i anhrefn. Ambell dro byddai'r gof yn clywed nad oedd gwydd y fan-a'r-fan ddim yn gweithio'n dda, ac er gwaethaf ei brysurdeb, byddai'n gadael ei dân a'i engan a mynd i'r maes hwnnw, er mwyn gweld drosto'i hun. A mynych fu'r tramwy o faes i efail i ostwng neu godi'r gyllell nes symud y bai a fynnai ddwyn anfri ar y morthwyliwr cyhyrrog. Bu gwerth ac enwogrwydd ar y gofaint gynt, ac onid yw enw Murcwymp yn hysbys mewn AR WYL DEWI SANT. Y gwreiddiol gan Mr. A. G. Prys-Jones, yn ei Poems of Wales." Barnwyd y cyfieithiad hwn yn orau yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1926. YN unol eto safwn ni Yn wvlaidd wrth Dy orsedd bur- Ni bobol Dy fynyddoedd Di, I ddiolch am ein didranc wŷr,— Llyw, Gwladwr, Bardd-a roes eu llaw I lunio'n hetifeddiaeth ddrud, A chodi â chledd, a cherdd a rhaw Y tir fu'n gartref Rhyddid cyd. AM hyn y brwydrai'n glewion gynt, A 'n beirdd freuddwydiai weld o bell Am hyn yr hwyliai'r saint ar hynt Yr enaid i'r gororau gwell; A chadw ym mhair storm a'i rhu A gwyll anhysbys amser dyn, Y llewyrch ddug i fywyd cu Y ffydd a orfu amau'i hun. O! GAD i ninnau geisio'n awr A gwrando'r llais ar fryniau'n tir; A thrwy Dy bresenoldeb mawr Gael tangnef yn D'Ewyllys bur; llawer sir heddiw oherwydd y erefftwr a drigai yno flynyddoedd yn ôl ? Ganddo 'roedd dirgelwch patrymu a llunio hyd berffeithrwydd y gwŷdd main. Synná rhai, hwyrach, glywed sôn am yr offeryn hwn fel un o gelfi y gorffennol. Mae'n wir y caiff ei ddefnyddio heddiw mewn llawer ardal, eto i gyd mae ei ddydd yn prysur ddarfod. Cymerir ei le gan rhyw ddyfais newydd. Ac onid y transplough yw eilun y rhan fwyaf o amaethwyr heddiw ? O'r braidd yr etyb y diben yn gystal â'r gwydd main, ond i'w ganlyn ef nid oes eisiau profiad arddwr na chrefftwaith y gof cartref. Lie bu eisiau'r llygadog a'r cadarn ei law ar y cyrn, mae heddiw olwynion yn gwarchod y gwys, a dyfais wedi rhoddi'r swch na phery na phoen na balchder mwy i'r gof yng ngefail y wlad. Trist i mi y dydd o'r blaen oedd gweled un o wýddiau Murcwymp yn weddillion rhydlyd wrth glawdd y llain-yr un gwydd ag a fu rai blynyddoedd yn ôl yn destun siarad mwy nag un fro. Cafodd ei gludo lawer gwaith o sir i sir i gymryd rhan yn y ras redig," a gwarch- odid trosto fel dros ffefryn y ras redeg. Glan- heid ei swch a rhoddid olew ar ei 'styllen cyn ei gadw'n barchus yn yr ysgubor dros fisoedd yr haf. Gâd inni ddwyn ar fryn a rhos Lumanau'r bore hwnnw 'nghyd Pan gerddo gwyr rhag syrthni'r nos, A cherddi a fyddo'n deffro'r byd. IÔR gwna ni'n gadarn dan Dy law— Yn wylaidd gall ryw angerdd glân; Gwna ni yn dorf f'o'n fflamio draw Yn eirias gan ddiddarfod dân,- A gweledigaeth danbaid dry Ar eiddgar droed ac adain chwim At bobloedd a'u dyhead cry' Am ryddid nad yw'n gwyro ddim. MAE yn y gweryd furmur byw, A chryn y gro gan fywyd gwell Mae addewidion oesol Duw Yn tonni o'r tragwyddol pell. Lle deffry'r Gwanwyn dyrfa werdd Cawn ninnau hefyd godi'n llef, Ac uno yn yr ymdeith-gerdd— Llais cenedl yn clodfori'r Nef. ANELLYDD. GAN W. T. WILLIAMS, Llangybi, Eifionnydd. Eithr heddiw tyr ei fedd ei hun ar y dalar ac ymgudd o dan hirwellt a mieri'r haf heb na chwlltwi nac olwyn. Pydrodd yr hin ei gyrn coed, a breuodd ei gadair dan bhsgod y rhwd. Ychydig yn uwch i fyny, a'r swch yn y ddaear, mae'r tronsplough dan ei baent coch a glas, a'i âr yn ddi-raen ac yn llac ond yn rhatach i'w gadw, eb yr amaethwr, ac yn haws ei ddal a'i drin. Mae oes y gwydd main yn prysur ddarfod, a chydag el fe â rhan helaeth o fywoliaeth y gof gwlad. Gellir gweled hyn ond galw heibio i'r efail ar d lechreunos o aeaf, Ue bydd yn fynych bentan o- r a gof segur. Odid hefyd na welir o dan y ff gin ddefnyddiau sychod a bwrcaswyd ar gyfer y gwŷdd main, ond yn ôl pob tebyg ni bydd e i hangen mwy. Celfi'r Sais ar faes ac mewn ysgubor, a'r gof gwlad yn breuddwydio am ei brysurdeb gynt, ac yn byw yn fain ar osod ambell bedol ac asio dolen weithiau yn y dres. Gresyn fod hwylus- tod un yn achosi gofid a phryder arall. Mae'r towr wedi mynd, a'r melinydd yn dilyn, ac yn esgyrn y gwŷdd ar y dalar mae sôn am efeiliau'n adfeilio, a chrefft y gof gwlad yn ddim ond atgo gan rai ohonom am y nosweithiau gynt, am y morthwylio a'r gwreichion, ac am rwnc y fegin a wynnai'r tân-y tân a ddangosai chwýs ar yr wyneb melynddu, gan mor bwysig oedd perffeithio'r swch. CERDD YR HEN FYNACH (Ar ddull Cerddi'r Athro W. J. Gruffydd.) O'I ieuenctid, trigodd mewn abaty Pob petheuach gwacsaw, heibio roes Cynnar ar ei yrfa tyngu llwon, Bellach fel offeiriad treulio'i oes. Cerddodd erwin ffordd yr hynaf credo, Dweud offeren beunydd oedd ei ran Beunos, canu gosber yn y capel, Dibaid ymbil dros eneidiau gwan. Gwerthfawr oedd ei gyngor i gyffesydd A ryddhawyd o'i ysbrydol faich Ganddo ef, cai pob pechadur gysur- Pwysodd llawer Cristion ar ei fraich. Neithiwr canai'r clychau yn aneglur, Cwynai'r organ ag wylofus dant Ogylch elor, llosgai chwe chanhwyllbren— Heno ni ddaw'r pader dros ei fant. C. W. ARTHUR. Coleg S. Chad, Prifysgol Durham.