Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Twf Llenyddiaeth Cymru—XVIII DECHRAU CANU RHYDD Pan wanhaodd y teuluoedd pendefigaidd yng Nghymru, fe wanhaodd yr hen farddoniaeth gynghanedd gaeth, a dyma bren newydd y canu rhydd yn gwreiddio pren a feithrinwyd yn nwylo gwyr fel Edmwnd Prys a Huw Morys nes tyfun llawn blodau. Bron na ellir dywedyd i ddeddfau economeg benderfynu twf barddoniaeth rydd yn Gymraeg. Fel y gwelwyd eisoes, y mae canu caeth, hynny yw, canu cynganeddol, mor hen â'r iaith a'i chaneuon cyntaf yn Llyfr Taliesin, y Llyfr Du a'r Llyfr Coch, yn hollol gynganeddol. Hyd yn oed yn y cerddi cynnar, felly, ychydig sydd o ganu rhydd ac fel y tyfodd ac y caledodd y traddodiad barddonol. mwyaf oll y tyfodd ac y cryfhaodd barddoniaeth gaeth. Erbyn amser y Gogynfeirdd a'r Cywydd- wyr, ni ellir cael ond dyrnaid o ganeuon yn y mesurau rhyddion, a gwaith prentis, di- feistrïaidd ar y gorau yw hwnnw. Y gwir yw i holl ddyhead barddonol y Cymry am ganrifoedd gael llawn gyflenwad yn eu bardd- oniaeth gynganeddol, fel nad oedd alw am farddoniaeth rydd-yn wir pe hai'n bosibl gofyn barn un o wvr llên yr oesoedd canol yng Nghymru, y mae'n sicr na roddai i farddon- iaeth rydd fel yr adwaenwn ni hi Ie o gwbl ym mhlas llenyddiaeth, ni fyddai digon o gamp a gwead ami. Ond orbyn dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg, yr oedd dylanwadau'n gweithio, yng Nghymru ac oddi allan iddi, a ffafriai ddatblygiad barddoniaeth o'r fath. Yn arbennig, yr oedd y traddodiad teuluol a gwleidyddol Cymreig, sylfaen ei llên a'i gwareiddiad, yn dechrau llacio a'r teuluoedd pendefig un ai wedi eu gwanhau neu eu denu i Loegr i lys y Tudur- iaid. Yna yn Lloegr ei hun yr oedd cyfnod y Tuduriaíd wedi gweld cychwyn mudiad telynegol cryf yng ngwaith Sir Thomas Wyatt, Sir Philip Sicìney, Spencer, Ben Jonson ac eraill, a gwyddai llawer o Gymru am eu gwaith canys ef oedd testun siarad y prifysgolion a'r trefydd. Fellv erbyn 1500 yr oedd amryw o Gymru yn sgrifennu ychydig ganeuon yn y mesur rhydd a rhaid troi at eu gwaith. Nid wyf yn yrerthygl hon am geisio cyffwrdd â tharddiad canu gwerin, penillion telyn a darnau o'r fath y mae'n faos rhy ddyrys nad oes neb eto wedi ei weithio'n llawn er bod Uawer o oleuni arno i'w gael yn llyfr diweddar yr Athro Parry- Williams ar Lawlyfr Richard Morris o Gerddi. HUGHES CEFN LLANFAIR. UN o'r rhai cyntaf yng Nghymru i ysgrifennu barddoniaeth rydd oedd Richard Hughes o Gefn Llanfair, ym Môn. Ganed ef rywdro tua 1530, a bu farw yn 1618. Treuliodd ran helaeth o'i oes yn Lloegr a thrafaeliodd dipyn ar y cyfandir gyda'r fyddin. Fel y gellid disgwyl, y mae dylanwad canu'i oes yn Lloegr ar ei ganeuon ef- carolau serch yw llawer ohonynt, daw Ciwpid i mewn yn bur aml ac y mae'r ysbryd yn wahanol hoUol i'r hen gywyddau merch oedd mor hoff gan y Cywyddwyr. Canai Richard Hughes yn iaith ei fro, nid yn iaith glasurol yr hen feirdd a rhaid cyfaddef fod ardderchowgrwydd a swyn yr hen feirdd ar goll yn ei waith ef. Y mae'r Cofgolofn Huw Morys o flaen ei gartref, Pant-y-meibion, Dyffryn Ceiriog, lle bu'r bardd fyw ar hyd ei oes. gelfyddyd wedi'i cholli er ennill rhyw ychydig o ystwythder efallai ond y mae'r golled lawer mwy na'r ennill. "Digon tila." Ac wrth golli'r gelfyddyd, fe gollwyd peth o gyfoeth yr hen farddoniaeth, a rhaid dweud mai tila a thlawd ddigon yw caneuon cyntaf y farddoniaeth newydd hon yng Nghymru. Cymharer y penillion hyn â chyẁyddau Gutun Owain, er enghraifft. Afrad im dy ganmol, fun. Na'th liw na'th lun lle delid, Ond wrth ynfyd ffôl neu ddall Ni ddichon ddeall glendid. Nid am gyfoeth—Duw'n dyst—ferch Ond o serch a chariad, I ti'n unig, y rhois i Fy mryd a'm ffansi arnad. Ac nid yn unig yn yr iaith a'r meddwl y gwehr nodau anaeddfetrwydd, ond yn y mydr hefyd digon hawdd gweld yma waith gŵr nad oedd feistr ar y grefft newydd, ac yn aml, nid yw'r llinellau acennog yn rhedeg yn esmwyth, megis Duw ni lwydda ferch a gâr Fwnws daear o flaen dyn, Heb ofal ni chedwir, heh boen ni cheir, Heb drymder nid eir oddi wrthyn'. Gan EDWARD FRANCIS Yr un adeg canwyd llawer o garolau tebyg i hyn, penillion ysgafn, braidd yn ffurfiol o ran meddwl, heb fawredd y fardd- oniaeth draddodiadol, ac nid annheg yw eu hesbonio trwy sylwi ar nychdod y tra- ddodiad Cymreig yn y cyfnod hwn pan nad oedd Eglwys Genedlaethol fel cynt, nac athron- iaeth na dull o feddwl ar fywyd. Ni ellir troi oddi wrthynt heb gyfeirio at nifer o faledi a ganwyd yr adeg hon, megis baled enwog Lifftenant William Peilyn yn rhoi helynt Bagad o Gymry, a aeth yn amser v Frenhines Elsbeth drwy ei gorchymyn hi i'r Gorllewin India i ddial ar ac i anrheithio'r Hispaenv yr." Baled ar ffurf ymgom rhwng gŵr a phelican ydyw hon, a rhydd gronicl u'r siwrnai heibio i'r Ysbaen a'r Ynysoedd Dedwydd i Garactos. Yno y bu ymladd Gwedi'n dyfod i'r tir hwn, Fe ddaeth yn grwn i'n herbyn blaid Gwvr noethion yn rhwyfo, a'u crwyn wedi'u paentio, Bwâu yn eu dwylo fel diawliaid. Yna ceir hanes y siwrnai adref heibio i Niwffoundland ac Iwerddon. Ceir un pennill gan y Lifftenant sy'n debyg iawn ei diwn i'r penillion telyn Pan oedd ein mamau oll yn gu I'n magu yn ysmala, Bychan a wyddent, myn fy nghred, Y doem i'r cerdded yma. Cyn troi oddi wrth ganu rhydd yr unfed ganrif ar bymtheg, rhaid enwi Edmwnd Prys, Archddiagon Sir Feirionnydd. Fel y gwelwyd mewn erthygl gynharach, y mae i Brys le ymhlith beirdd traddodiadol Cymru, ac yn sicr y mae iddo le, a lIe pwysig, ymhlith beirdd canu rhydd. Hyd yn hyn, ni roddwyd i'r Archddiagon ei ddyledus le yn hanes Cymru dylid ei gymharu ef a Gruffudd Roberts â gwyr megis Syr Thomas More a John Colet yn Lloegr ac Erasmus ar y Cyfandir. Yr oedd Prys yn wir fab i'r Dadeni Dysg yn Ewrob yn ysgolhaig, yn fardd, yn athronydd, a phe buasai prifysgol yng Nghymru yn yr oes honno, yno yn athro ac yn arweinydd y ceffid Prys yn ddiamau. Ei gyfraniad arbennig i farddoniaeth rydd Gymraeg yw ei Salmau Cân, ac ymddjnt hwy y mae mêr traddodiad y gynghanedd wedi ei drosglwyddo i ganu rhydd. Ni roddir digon o glod i Brys am yr ysbryd barddonol sydd trwy'r Salmau, y dethol ardderchog ar eiriau a geir ganddo, y dar- luniau byw a geir mor aml yn ei linellau, a'r ysbryd defosiwn pur a ysbrydola bron bob salm. [Trosodd.