Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CINIO GWYL DDEWI MANCEINION. Gan HENRY ARTHUR JONES. MR. D. HUGHES PARRY, Athro'r Gyfraith Seisnig yng Ngholeg Economeg Llundain, a mab yng nghyfraith y diweddar Syr O. M. Edwards, ydyw gwr gwadd y Gymdeithas Genedlaethol yn ei chinio Gwyl Ddewi, Mawrth 2. Cynhelir y wledd yng Ngwesty Parker, St. Mary's Gate, Manceinion. Yn y Gymdeithas Genedlaethol, cafwyd darlith gan Mr. H. Eryddon Roberts—un o aelodau'r Gymdeithas- ar "Rhamant Bywyd R. J. Derfel." Rhoddodd fraslun medrus a di- ddorol o fywyd helbulus Derfel, o'i febyd i'w fedd, a'i wasanaeth i'r genedl ynglyn â "brad y llyfrau gleision," ac íel bardd ac emynydd. Ysgrifennodd a chyhoeddodd ddeg o Iyfrau Cymraeg a thri o rai Saesneg. Soniodd amdano fel seren fore sosial- aeth. Cymanfa Bregethu. Bu gan Annibynwyr Manceinion a'r cylch eu Cymanfa Bregethu, Chwefror 18 a 19. Testun y Gyfeillach nos Sadwrn oedd, Hawliau Crefydd ar Ieuenctid yr Oes." Siaradwyd gan y Parch. T. J. Euryn Hopkins, Lerpwl, y Parch. D. D. Jones, Dolgellau, a'r Parch. J. Oldfield Davies, Liscard, a Mr. R. Ivor Parry, Bala-Bangor, yn dechrau'r cyfarfod, a Mr. R. D. Williams yn cadeirio. Bu gan Gymdeithas y Ford Gron ei chinio blynyddol ddechrau'r mis, gyda Mr. a Mrs. Iorwerth C. Peate yn westeion. Cadeiriwyd gan Mr. E. Price Evans. Wedi iddo yntau gyd- nabod y derbyniad caredig a roddodd y cwmni iddo ef a'i briod, traddododd anerchiad gafaelgar ar Crefft a Diwyll- iant." Yr oedd hefyd yn bresennol, Mr. Math Hughes, Huddersfield, a Mr. Henry Francis Jones, yr Hen Golwyn, a chafwyd araith hapus gan bob un o'r ddau. LADY BLEDISLOE YN GYMRAES. Y MAE gennym gymdeithasau llewyrchus a byw mewn am- ryw fannau, ac yn Auckland yn neilltuol y maent yn cael hwyl garw. Bu cyfarfodydd gwir dda y tymor diwethaf dan lywyddiaeth y Parch. R. Cybi Roberts. 'Does dim angen dweud o ba ran o'r wlad mae o'n hannu. Y mae mor hoff o' Fôn ag yr oedd Goronwy gynt. Nid yw New Zealand, mwy na rhannau eraill o'r byd, yn glir oddi wrth y dirwasgiad, ond yr ydym yn ceisio rhoi'r troed gorau 'mlaen. Y mae'r Cymry yma, fel y Cymry gartref, yn hoff o ganu ac o lên da, ac yn eeisio cadw'r rhinweddau hynny sy'n nodweddu Cymry pob oes. Mae amryw o Gymry wedi codi i safle uchel yn y wlad yma, ac yn anrhydedd i'w gwlad a'u cenedl. Cymraes yw gwraig yr Arlywydd (Lady Bledisloe), ac y mae hynny megis pluen yn het pob Cymro. Gwir yw eich disgrifiad o'r FORD GRON fel misolyn Cymraeg i Gymry'r holl fyd. Y mae'n cael croeso cynnes yn New Zealand ac yr ydym yn gwerthfawrogi'r erthyglau godidog sydd ynddi, ac y mae'n help mawr inni gadw'n hiaith a pharhau'n bur i draddodiadau gorau ein cenedl. LLEWELYN AP G. JONES. AT Y CYMRY AR WASGAR. F'Annwyl GYD-GENEDL, WELE eto Wyl ein Nawdd Sant ar drothwy'r drws, ac er nad oes gennym wybodaeth eang amdano, melys yw cofio, wrth ddathlu'r Wyl, ei bod yn bosibl i ninnau hefyd feddu yr un delfryd â'r Sant, sef gwlatgarwch a serch angerddol at y da a'r prydferth. Nod fawr "Gŵyl Ddewi," ni gredwn, yw noddi'r iaith lafar a meithrin iaith lên cadw'n fyw iaith lafar a iaith lyfr. Oni siaredir hi, pa fodd, yn wir, y cedwir hi'n fyw ? Oni ddarllenir ei llên a'i llyfrau hi, pa fodd y parheir i sicrhau rhyw bethau gwerth eu siarad ? Gymry annwyl, gartref ac oddi cartref, siaredwch eich iaith-nid trwy beidio â siarad ieithoedd eraill o bydd raid—eithr drwy gadw'r lie anwylaf i hen iaith ein tadau, a chofio ein bod yn genedl o ordeiniad Duw, fel y dywed Emrys ap Iwan. Hi oedd iaith tywysogion Cymru gynt. Nid iaith y taeog yn unig ydoedd, eithr iaith y ìlys, iaith y brenin, iaith y wledd, iaith y tir, iaith Cymru lân, a hen iaith Cymru lonydd. Cofiwn mai'r Cymro gorau a fedr werthfawrogi pethau da cenhedloedd eraill orau. Wele'r cyfle unwaith eto i'w llefaru wrth gofio'r sant, wrth ein cyd- nabod, ac yng nghlyw'r estron, fel y dangoswn iddo'i bod hi eto'n fyw ar waethaf pob ymdrech a fu i'w lladd a'i chladdu. Mynn fyw, a thyfu, ac ysbrydoli Cymru Sydd," megis yr ysbrydol- odd hiGymru Dewi Sant, Dafydd ap Gwilym, Dafydd Nanmor, Dewi Wyn o Eifion, a'n Dewi sydd eto i'w llefaru hi o fewn muriau hen Gastell Caernarfon. A chofiwn fod dyfodol y Deyrnas a dyrchafiad dynoliaeth yn galw am ddatblygu cymeriad y Cymro er mwyn iddo gyflawni ei genhadaeth i Genhedloedd y byd, a chadw ei enaid ei hun. Boed llwydd i ŵyl fawr y Sant led-led y byd. Disgwyliwn fel Undeb groesawu tyrfa fawr ohonoch, yn ôl i'ch hen gartref, ac i'r hen aelwyd pan ddeloch i Wyl y Genedl yn Wrecsam. A llongyfarchwn yn galonnog y Cymro twymgalon o Winnipeg ar ei antur fawr yn casglu'r Hwythau ynghyd a'u dwyn i'r Wyl ac i fwynhau gogoniant a harddwch Hen Wlad eu Tadau," sy'n para, Ercilwg pob gelyn, Gyda chofion gwlatgar, CINIO GWYL DDEWI YM MHARIS Hoff Walia yw'r eilun, 8 Mae'i thalent a'i thelyn Mor fyw ag erioed. Dros Undeb y Cymdeithasau Cymraeg, MEIRIONA, Gohebydd," Aberffraw, Sir Fôn. LLYTHYRAU AT TOM ELLIS. Gan LLUDD. RHAID imi gyfaddef nad yn aml yr af i gyfarfodydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cym- mrodorion, ond byddaf yn darllen y Transactions a'r Cymmrodor, a chefais hwyl, o flaen tanllwyth о dan, ar rifyn diwethaf cylchgrawn y Gym- deithas a olygir gan Y Finsent. Nid yw pub un o'r erthyglau'n debyg u ennyn diddordeb i bawb. Bu amser pan geid aml erthygl yn yr hen iaith. ond erbyn hyn, aeth y Gym- deithas a'i chyhoeddiadau yn hollol Seisnig, ac nicl yw toreth o'r hyn a argreffir yn ddifyr o gwbl i'r darllen- ydd cyffredin. Didclorol yn y rhifyn hwn (sef Cyfrol XLIII) yw erthygl Mr. Ben Bowen Thomas. Gwarden Coleg Harlech, ar Goronwy Owen a Choleg William a Mary," yn olrhain hanes y hardd yn yr Amerig. Cymry'r Gororau. Y mae erthyglau yno gan Mr. Edward Owen, Mr. Colney Campbell, Mr. P. C. Bartrum, a Mr. David Salmon, ac un faith gan Mr. T. E. Morris ar gyfenwau Cymry'r Gororau. Cofiaf yn dda am erthyglau Cymraeg y bargyfreithiwr dysgedig ar yr un testun yn yr hen "Genhinen," a diau bod ganddo yn awr ddefnydd llyfr ar y pwnc. Yr oedd yn anodd peidio â derbyn y gwahoddiad i gyfarfod diwothaf y Cymmrodorion, canys onid oedd Mr. T. I. Ellis, mab Tom Ellis, a phrif- athro Ysgol Sir y Rhyl, yn traethu ar Hanes Addysg Ganolradd yng Nghymru," a Mr. W. Jenkyn Thomas Hackney, yn llywyddu? Rhoddodd Mr. Ellis gip ar hanes addysg yng Nghymru a gweu rhamant ddiddorol ohono nes swyno'r gynull- eidfa. Cyffes Mr. T. L Ellis. Rhan ddiddorol o'r ddarlith oedd darllen rhai o lythyrau Henry Jones, Owen Edwards ac eraill at Tom EIlis, a'r cwbl yn dangos brwdfrydedd y dynion hyn dros berffeithio'n cyfun- drefn addysg. Rhoddodd mab y gwron o Gynlas ei gyffes ffydd inni fel athro, sef geiriau un o Farnwyr y wlad Y mae addysgu plentyn yn rhywbeth ysbrydol." A da yw deall bod Mr. Ellis yn byw ei gyffes ac yn un o'r athrawon hynny sy'n credu mai cynhyrchu Cymry o bersonoliaeth gref yw gwaith ysgolion canolradd ein gwlad. Ar derfyn y ddarlith bu ymdrafod byr, a'r Capten Ernest Evans, A.S., Syr Percy Watkins, a'r Dr. Hartwell G. Jones yn diolch i'r darlithydd. Cinio Shir Gar." Bu gwŷr Shir Gâr yn gwledda yn ystod y mis a llawenychu bod Hanes Sir Gaerfyrddin," a gychwyn- nwyd tan nawdd y Gymdeithas. yn mynd yn ei flaen, a llu o haneswyr yn llafurio o dan yr Athro J. E. Lloyd. Mr. L. D. Lewis, yr Ariannydd, a lywyddai'r cinio, a'r Barnwr J. Lloyd Morgan. hen gynrychiolydd Gorllewin Caerfyrddin, yn ŵr gwadd. O grybwyll yr Athro Lloyd, cefnog- odd Cyfundeb Annibynwyr Lhmdain y symudiad i'w ethol i gadair yr Undeb yn y Cwidd Chwarter diwethaf. Trwy'r meic y cawsom wrando ar yr Alban yn curo Cymro ar y maes Rygbi yn Abertawe, a mawr oedd y siom i'r dinasyddion a chofio'n llwydd yn Twickenham.