Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFROL m. RHIF 11. Y FORD GRON GWASG Y DYWYSOGAETH, WBECSAM. Tüiffôn: Wrecsam 622. London Agmcy: Thanet House, 281-2 Strand. YR OCHR ARALL YR oedd ar y mwyaf o sôn am Wales" un waith eto yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, ac ar y lleiaf o ystyried Cymru a'i phethau. Cafwyd profion, fodd bynnag. fod pobl yn barotach i ofyn ai gwasanaeth i Gymru yn wir yw'^r hyn a wneir iddi ac erddi yn Saesneg. Yn Saesneg. y mae'n debyg. y bwriedir cychwyn y Welsh Place-Names Society" dan nawdd y Cymmrodorion. ac yn debyg i'r Society for the Preservation of Rural Wales dan yr un nawdd fe â hithau'n hobi'r bobl sy'n hoffi popeth yn Wales ond y Cymry a'u iaith. Os am gymdeithas newydd o gwbl dan nawdd yr Eisteddfod, y mae llawer mwy o angen un i chwilio i gyfrinach y iaith Saesneg. Y mae beio beunydd ar rieni. beio ar athrawon. beio ar y radio a'r papurau Seisnig. fod y Gymraeg yn colli tir. ond ychydig iawn sydd o ystyried pam mewn difrif y mae iaith arall mor boblogaidd ac ar gynnydd. Tybed na ellid. o chwilio. ddodi bys ar y rhesymau ac oni fyddai eu cael yn rhestr yn fantais at gynllunio cyfryngau i'w gwrthweithio ? Ar hyn o bryd. cwyno a dweud y dylid gwneud hyn a'r llall a wnawn, yn ddigon aneffeithiol. Esiampl Ysgol. YMAE eithriadau anrhydeddus, wrth gwrs. Dyna esiampl ardderchog athrawon ac athrawesau Cymreig mewn ysgol sir y gallem ei henwi, lle y mae Saesneg yn iaith yr ysgol ond yr holl ymdrafod rhwng yr athrawon â'i gilydd-yng nghlyw y plant-mew Cymraeg diledryw. Dyna esiampl y cynghorau a'r pwyllgorau LÍe y trafodir popeth yn Gymraeg, yn ôl deddf natur, heb feddwl am wg na gwên Sais na swyddog. Trwy foddion fel hyn rhoddir bri ac urddas ar y iaith yng ngolwg ieuenctid ac yng ngolwg Saeson. Ond eithriadau i'r rheol yw'r esiamplau hyn. Y mae eisiau ategu ymdrechion y ffydd- loniaid drwy studio cuddiad cryfder y iaith Saesneg ac wedi canfod pam y try cymaint o'n pobl ifainc at honno yn hytrach nag at y Gymraeg, cymhwyso'r wers. Hyfdra. DYLAI fod mwy o "haearn" yn ein hagwedd tuag at y brodyr a'r chwiorydd Seisnig sy'n byw yng Nghymru ac yn cymryd arnynt eu hunain ddifrïo a dilorni mudiadau Cymreig, ar y tir eu bod yn anti-English." Eisoes y mae beirniadu ar bwyllgor Eisteddfod Wrecsam am iddo geisio cadw'r ŵyl mor Gymreig ag oedd bosibl. Pam, ebe un Sais yn haerllug mewn llythyr i'r wasg, na fuasid wedi gwneud y bwriad yn glir ar y cychwyn, a gwahardd inni fynd yn feichiafon, a thanysgrifio at y gronfa, a phrynu tocynnau ? Yn wir, fe awgryma y buasai Eisteddfod 1933 yn fwy llwyddiannus yn ei gwedd lenyddol pe bai'r pwyUgor llên wedi caniatáu ysgrifennu'r traethodau yn Saesneg A ddisgwylia'r Cymry sy'n noddi gwyliau cerdd Lloegr am unrhyw ystyriaeth ar- bennig i'w cenedl ? Gwastraffwyd gormod o eiriau teg ar geisio boddhau beirniaid o dras y gŴT hwn. Un ai tawed pob un o'r tylwyth, neu chwilied am wlad arall i gyfaneddu ynddi. Fe aUwn vn hawdd iawn wneud hebddynt. Gad- awsom iddynt fynd yn rhy hyf. Oni ofalwn, fe ânt â'n gwlad a'n sefydliadau a'n cenedl- aetholdeb oddi arnom. "Chwyth, aeafol wynt." BYDD trafod a dadlau hir ar ganu a beirniadaeth canu'r Eisteddfod. Clywyd cerddorion Seisnig yn dweud y dylsai un o gorau meibion ardderchog y de gael yr ail wobr, 0 leiaf, a hynny am reswm diddorol, sef fod y darn chwyrn sy'n dwyn yr enw Chwyth, aeafol wynt wedi ei roi yn y gystadleuaeth o bwrpas ar gyfair y canu nerthol sy'n nodweddu canu'r de. Siom i filoedd o'r gwrandawyr yn ogystal ag i gerddorion Abertawe, Treforus, a Llwyndyrys oedd y dyfarniad a'r marcio, ac er y gwyddom na alldim ladd sêl eistedd- fodol ardaloedd gweithfaol y Deheudir, fe allwn yn hawdd gredu y bydd llawer o am- heuaeth pa ddull o ganu i ymarfer ynddo y tro nesaf. Yn awr, Arfon NID oes derfynau i fyd cerdd," meddai'r rheini sydd am osod safonau byd i ganu'r Eisteddfod. Tu- eddwn i amau a yw cymhwysiad y gwir- ionedd hwn wedi bod er lles i ganu Cymru. Fe all yr Eisteddfod wneud gwasanaeth dirfawr trwy gyflwyno gweithiau gorchestol tramor yn ei chyngherddau hwyr, a thrwy hynny roi cyfle i filoedd ymgydnabod â moddau newydd o fynegi cerddorol. Ond, yn y cystadlu, tybed nad darnau Cymreig, yn cael eu canu a'u beirniadu yn Gymraeg, a roddai fwyaf o fwynhad ac o gefn i gerddoriaeth Cymru Gwir bod cerdd, fel pob celfyddyd, yn llydan fel y byd, ond byd cyfyng arbenigwyr yw hwnnw wedi'r cwbl. Mil gwell ym marn llawer fyddai canu nodweddiadol Gymreig ym mhrif ŵyi y genedl. Awgrymwn i Gaer- narfon godi safon y canu yn Eisteddfod 1935 i'w hen ogoniant naturiol. Heb angor. PWTY yw aelodau Seneddol Cymru heddiw ? Pwy ohonom a allai roi rhestr eu henwau Ni fu cyn lleied o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth na chynrychiolaeth Seneddol yng Nghymru, mae'n debyg, ers canrif gron. I'r rhai hynaf, y mae difaterwch yr oes hon at bynciau a delfrydau llywodraeth gwlad a dinas yn anhygoel, bron. Bu amser pryd y meddai egwyddorion rhyw gyfaredd, ond diflannodd nid yn unig y gyfaredd ond yr egwyddorion hefyd. Ofnwn i'n cynrychiolwyr Seneddol wneud eu rhan yng ngwastraff athrylith bolitic- aidd y Cymry. Aeth ffrwd argyhoeddiadau gwerin ddiwylliedig yn ewyn aneffeithiol tua Llundain. Heddiw, o ganlyniad, pawb drosto'i hun. Gall hyd yn oed Mr. Lloyd George droi'n Ddiffyndollwr, os myn, heb neb yn rhyfeddu nac yn gweld chwithdod. Pe codai un a dywedyd, "Fel hyn y gwnewch "— fel yn yr Almaen a'r Eidal- ni fyddai gennym na safon i farnu ai doeth ei air ai peidio, nac angor diogelwch i'w fwrw i'r Ui pes amheuem.