Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barn darllenwyr Y Ford Gron DAU LYTHYR AR YR LL. At Olygydd Y FORD GRON. Y MAER drafodaeth ar yr ll yn iaith v Gael a ieithoedd eraill yn dra di- ddorol. Efallai na ŵyr llawer o ddarllen- wyr Y FORD GRON mai'r gair Cymraeg sy'n cyfateb i loch ydyw llwch." Rhwng Llanidloes a'r Rhaeadr y mae dwy orsaf reilffordd yn dwyn yr enwau Tylwch a Pant-y-dŵr. Talfyriad yw'r cyntaf o Tal-y--llwch. a hen enw Pant-y-dŵr oedd Pant-y-llwch. Ystyr llwch yn y ddau enw ydyw llyn neu ddŵr." Heddiw yng ngogledd Cymru. defnyddir y gair Uwch am dust. Ond y Cymraeg cywir am dust yw lluwch. a dyna ydyw yn y de. Yn y gogledd, ni ddefnyddir y gair lluwch ond am luwch eira — snow dust. Yn yr Alban y mae loch neu lloch yn arwyddo llyn a hefyd gainc o fôr. Ar y cyntaf yr oedd pob loch yn llyn yng nghanol y tir. Ond torrodd y môr i mewn i amryw fannau. gan ddinistrio'r llyn. Digwyddodd yr un pcth yng Nghymru a dyna sy'n cyfrif am Am-lwch yn Sir Fôn. Oni bu Amlwch yn llyn. vstvr vr enw yw "bae." Dywedir bod sant o'r enw Llwchaearn yn byw yn y chweched ganrif ac iddo syl- faenu pedair eglwys — dwy ym Maldwyn a dwy yng Ngheredigion. Ystyr yr enw yw dŵr haearn "­—dŵr a elwir heddiw yn chalybeate." Felly, Llan Chalybeate ydyw Llan Llwchhaearn Er v dywedir bod Llwchaearn yn fab i ryw Hugarfael ap Cyndrwyn, gwell gen i gredu mai enwau rhieni'r hen sant oedd Fe ac H2O. Llundain. JOHN ASHTON. At Olygydd Y FORD GRON. DA oedd gennyf ddarllen llythyr Glanmor Dafis am y sain ll yn yr Aeleg. Y mae'r pwnc wedi bod yn un o ddiddordeb mawr i mi erioed. Ceisiaf ddisgrifio'r sain, ond yn gyntaf gwell imi ddweud bod dwy sain i'r mwyafrif mawr o'r cytseiniaid yn yr Aeleg, — sain gul rhwng llafariaid culion (sef e neu i) —a sain lydan rhwng llafariaid llydain (sef a, o. neu u). Dyma a ddywaid Alexander MacBain a John White am y seiniau l yn yr Aeleg L ddechreuol a di-lais ac ll derfynol Pan yw'n llydan = wedi ei hynganu â phwynt y tafod i lawr tu cefn i'r dannedd (er enghraifft, latha. null). Pan yw'n gul = gl Eidaleg. Y mae'n debyg i ll yn y gair Saesneg million (er enghraifft, linne, cille). A dyma a ddywed Syr John Morris-Jones am yr ll Gymraeg (Elementary Welsh Grammar. tudalennau 4-5. Nid wyf am drosi ei ddisgrifiad i'r Gymraeg rhag gwneuthur eamgymeriad) "Ll" is a voiceless unilateral I." It is produced by putting the tongue in the l position, raising it so as to close the passage on one side. and blowing between it and the upper teeth on the other. L has the sound of English l. Onid hwn yw'r Palatal Side Voice l a geir yn yr Aeleg. ac y dywaid Mr. George Henderson ei bod yr un fath â'r gl Eidaleg ? Os felly, v mae'r l gul yn v gair Gaeleg cille yn hollol yr un fath â'r ll Gymraeg. Parthed y sain l lydan yn lsch, latha. luch, y mae'r gwefusau'n ffurfio'r llafariaid o. a, u, cyn dechrau ynganu'r cytseiniad l o gwbl. ond nid ydynt ond yn lled-agored. Ceisiaf roi ateb i gwestiynau Mr. Dafis. (1) Y mae'r l lydan yn yr Aeleg yn sain ochrol-laes gref. (2) Nid yw'n untu. (3) Ni chodir cefn y tafod wrth ei hynganu. y ddau du i'r tafod a godir. Ychydig iawn y'u codir yn latha, yn fwy yn loch, ac yn fwyaf yn luch — po fwyaf agored y llafariad, lleiaf y codir y ddau du i'r tafod. (4) Y mae'n hollol ddi-lais bob aniser. Fy niarn i a ddangosir yn y sylwadau uchod, a mwy gwerthfawr fyddai cael dis- grifiad o'r seiniau l yn yr ieithoedd Celtig gan un sv'n medru siarad mwy nag un ohonynt. Glasgow. A. F. MACLEAN. Pobl wasaidd ydyw'r Cvmrv. At Olygydd Y FORD GRON. MAE Cymru wedi newid er gwell," meddai Mr. J. Williams Hughes, Marian Glas, yn rhifyn Awst o'r FoRD GRON ond byddai'n nes i'w le pe dywedai fod Marian Glas wedi newid er gwell 0 gymaint a'i fod ef yn byw yno, ac yn edrych ar bopeth o'r ochr olau. Er iddo geisio profi'r newid er gwell fu yn hanes Cymru yn ystod y deugain mlynedd diwaethaf, methodd ymatal oddi wrth nodi rhai pethau oedd yn gwrth-brofi ei osod- iadau, ac nid oes angen bod yn or-fanwl i weld bod ei ysgrif yn frith o froddegau anghyson. Cred Mr. Hughes fod y barnau amrywiol a geir heddiw ar bob cwestiwn ac ym mhob cylch o fywyd (sylwer) yn dangos mwy o ffrwyth meddwl a meddyliau mwy effro nag a oedd yng Nghymru ddeugain mlymedd yn ôl. Ond ai felly y mae ? Nid yw Cymru'n bendant ar ei barn gyhoeddus, a gresyn iddi golli peth oedd mor nodweddiadol o'i bywyd ddeugain mlynedd yn ôl. Oni fu gennym ddynion y pryd hynny fuasai'n fodlon i farw dros eu hegwyddorion? Y mae gwahaniaeth niawr arall ym mywyd Cymru i'r hyn oedd ddeugain mlynedd yn ôl. Y mae cyfangorff y genedl heddiw'n fwy dysgedig, a'n tadau'n fwy diwylliedig. Barned Mr. Hughes pa'r un yw'r gorau. Yn fy marn i, y mae Cymru'n rhoi gormod o bwys ar addysg a rhy fychan ar foddion cynnal. Cenedl wasaidd yw'r Cymry, yn byw ar addoli pobl salach na hwy eu hunain, ac ânt cyn bclled ag aberthu popeth bron er mwyn eu boddio. Beth a feddylia Mr. Hughes pan ddywed fod ysgolion Cymru'n cynhyrchu genethod a bechgyn na allant ddarllen gair o Gymraeg na Saesneg ? Os yw hynny'n wir, cawn edrych ymlaen am gynhaeaf toreithiog o'n hysgolion ryw ddydd a ddaw. Cymry Glastwraidd. Gresynaf fod Mr. Hughes yn gweld newid er gwell, yn y ffaith fod iaith yr heol a'r siop yn colli ei swyn ac mai gwell gan amryw o'r bobl ieuainc siarad Saesneg am nad ydynt wedi arfer â'r Gymraeg yn ei gloywder. Buasai Mr. Hughes yn mynegi calon y gwir pc dywedai na fynnant y Gymraeg yn ei gloywder, am ei bod rhy hen ffasiwn Sieryd Mr. Hughes am Fôn fel pe bai'r cyfnod euraid wedi gwawrio arni ers tro. Mewn gwirionedd, y mae'r Ynys Dywyll mewn mwy o dywyllwch nag y bu ynddo erioed. Y mae Môn, o Bennion i ben Caergybi yn frith o eilun-addolwyr a Chymry glastwr- aidd. Onid oes ar ei byrddau cyhoeddus lawer o aelodau na feddant y gronyn lleiaf o gariad at ein gwlad, ein iaith, a'n cenedl, ac a ymhyfryda yn sarnu hawliau eu cyd- ddynion ? Methu. Paham na ddywed Mr. Hughes y gwir wrth ddarllenwyr Y FoRD GRON fod pobl Môn yn rhy falch i siarad iaith eu mamau yr esgymunir hi yn ei phrif gynghorau, ac y chwerddir am ben pob ymdrech i gael yr hen iaith i'w phriod le ? Ni chymer pobl ieuainc Môn ddiddordeb o gwbl mewn gwleidyddiaeth a phynciau cymdeithas, a'r unig beth sydd â mynd arno yw carnafalau a mabolgampau, a'r cwbl oll er mwyn boddio Saeson, aberthir hyd yn oed ein Sabbath ar eu hallorau. Metha Mr. Hughes wahaniaethu rhwng ysbryd cenedl ac ysbryd ymerodraeth, ac am hynny (ac i fod yn gyson â'i ddaliadau) y mae'n taflu'r bai am bob drwg ar ysbryd cenedl. Nid yw dyn i'w feio am fod yn ofalus o'i bethau ei hun, ond y mae'n hen bryd dweud na wrtho, pan ymyrro â phethau pobl eraill. Imperialaeth sydd y tu ôl i holl ryfeloedd y gorffennol, a'r ysbryd sy'n prysuro'r byd heddiw i ryfel. Imperialaeth yr Almaen a daflodd y byd i anhrefn 1914. Awydd Japan am estyn ci Amlwch. TOM JONES. [I dudalen 258.