Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fy Nheimlad i am y Ddrama yng Nghymru Dr. Hock fun hyfforddi ac yn cyfleu'r perfformiad enwog o Pobun yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. T mae'n rhoddi ei farn yma am y Cymry fel actorion, am y "dramau-cegin-gefn gwirion," ac yn awgrymu llwybri'n cwmniau. PAN gyflwynodd Arglwydd Howard de Walden ddrama Yr Ymhonwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaergybi ychydig flynyddoedd yn ôl. meddyliai y buasai hynny'n bywiogi diddordeb y Cymry yng nghelfyddyd y ddrama ac yn hyrwyddo ysgrifennu dramâu gwir Gymreig. Yn ddiau, fe galonogwyd y llu cwmnïau, a'u lluosogi hefyd. Ond ni thyfodd nifer y dramawyr sy'n defnyddio'u iaith eu hunain, a chyfieithiad unwaith yn rhagor fu'r ddrama yn yr Eisteddfod eleni yn Wrecsam. Nid oes gan Gymru drefi mawr, ac am hynny nid oes ganddi gynulleidfa barhaol i fod yn sylfaen i chwaraedy masnachol. Ni ellir disgwyl i ddyn sy'n medru gwneud arian drwy ysgrifennu drama yn Saesneg, ymwadu â'r cyfle hwnnw drwy ysgrifennu yn Gymraeg. Nid oes obaith mawr y gellid byth ddechrau cynhyrchu nifer mawr o ddramâu Cymraeg nodedig. Prawf ar gannoedd. Ar y llaw arall, nid oes dim amheuaeth nad yw'r genedl Gymreig yn eithriadol gymwys i waith y llwyfan. Gwelais ychydig ddramâu bach yn cael eu perfformio yn ysgoldy Seion, Wrecsam, yn dda ryfeddol. Ac mi roddais brawf ar gannoedd o rai oedd yn dymuno cymryd rhan ym mherfformiad Pobun." Ceisiais ddewis y goreuon, ond y mae'n rhaid imi gydnabod y gallesid rhoddi lIe i bedair gwaith cymaint o gymer- iadau heb dynnu oddi wrth safon yr actio. Yr oedd perfformiad y Câr Tenau (Ifor Green), Mam Pobun (Elinor Jones), Y Feistres (Gwen Owen), Y Diawl (D. T. Morgan), Mamon (J. W. Williams), Gweith- redoedd Da (Dilys Jones), Y Goruchwyliwr (W. Hopwood), a llawer eraill cystal ag eiddo'r actorion-wrth-eu-gwaith gorau a welais erioed. Y wledd ar angylion. Ni fûm erioed yn gorchwylio tyrfa a wnaeth ei gwaith cystal â'r rhai oedd yng ngwledd Pobun, ac ni allaf gredu y byddai'n bosibl cael hyd i actorion amateur yn unman a fedrai symud gyda gosgedd a graslonedd santaidd fy wyth angel annwyl, a arweinid gan Vera Prince a Gwenda Roberts. Ni ddylid afradloni'r fath alluoedd ar y dramau-cegin-gefn gwirion sy'n ffurfio'r rhan Gan Dr. Stefan HOCK (Steffan o Wienna). helaethaf o stôr dramâu cwmnïau Cymru. Gan nad oes llawer o ddramâu gwir Gymreig ar gael, ar wahân i'r hen anterliwdiau, ymddengys i mi mai gwaith mawr fydd rhoi stôr o ddramâu wrth law iddynt drwy gyfieithu rhai estron i Gymraeg. Gwn fod yr Athro Gwjnn Jones,­caraf ac edmygaf ei gyfieithiad meistrolgar o Pobun "-wedi bod yn brysur gyda chyf- ieithiadau eraiU, Macbeth a Dych- weledigion" Ibsen yn eu plith. Ond nid wyf yn credu y gallai actorion amateur gynhyrchu drama fel Macbeth," ac ni chredaf y cai'r ail ddrama gynulleidfa ddiolchgar iawn. Heddiw, megis y bu er adeg y mudiad Methodistaidd, tuedd grefyddol yw'r brif duedd yng Nghymru. Ac yr wyf yn sicr mai hapus iawn fu dewis Pobun i'w pherfformio yn yr Eisteddfod, drama sy'n apelio at feddwl crefyddol y gynulleidfa. Credaf y dylai actorion Cymru geisio actio dramâu o'r math hwn yn arbennig, yn ogystal â dramâu llon o safon uwch na'r cyffredin (deallaf fod rhai o'r eiddo Moliére eisoes wedi eu trosi i'r Gymraeg a'u hactio ambell dro ond dylai fod yn hawdd cael llawer o ddramau llon eraill). Gallai'r FoRD Gron wneud gwaith da drwy gefnogi ysgrifenwyr Cymreig i gyfieithu dramâu o'r math hwn a chyhoeddi'r cyf- ieithiadau. O'm rhan fy hun, a minnau'n Awstriad sy'n falch o lwydd fy nghydwladwr Hugo von Hofmannsthal, mi wnaf i fy ngorau drwy awgrymu i'r Athro Gwynn Jones gyfieithu drama arall, o waith cydwladwr arall, Max Mell, drama y gellid yn hawdd ei pherfformio gan unrhyw gwmni. Drama'r Apostolion. Nid oes yn y ddrama, Drama'r Apostol- ion," ond pedwar cymeriad ac un cefndir hynod o syml. Gellir ci hactio mewn unrhyw ysgubor, ar unrhyw fath o lwyfan. Y mae hen ŵr a'i ŵyres yn byw mewn cwm anghysbell yn y mynyddoedd. Y mae'r eneth byth a hefyd yn darllen yr efengyl ac wedi yfed vn ddwfn o'i brydferthwch a'i fawredd. Ac y mac'n barod unrhyw brvd i daro ar un o'r gwyrthiau yr edrydd yr Efengylwyr amdanynt. Y gaeaf ydyw disgyn yr eira o amgylch v caban bach. a daw dau ddyn i mewn. Y mae barf arw gan un, ac wyneb wedi ei eiUio'n lân gan y llall. Y mae'n fuan wedi'r rhyfel. Buont yn y rhyfel, yng ngharchar yn Rwsia ac yno fe gawsant syniadau Bolsefaidd. Hud hen chwedlau. Y mae'r hynaf o'r ddau, yn enwedig, yn ŵr byrbwyll, ac yn barod i ladd yr hen ŵr a'r eneth, a lladrata popeth y caiff hyd iddo yn y caban. Ond pan wêl yr eneth y ddau ddyn dieithr yr olwg, fe'i hargyhoeddir ei bod yn edrych ar Sant Pedr a Sant Ioan, a derbynia hwynt â holl wres ac eiddgarwch ei chalon blentynnaidd. Wedi eu llethu gan ei chariad Cristnogol a'i diniweidrwydd hi, gedy'r ddau ddyn y lle heb wneud dim niwaid, tra meddytia'r eneth fod ei chartref wedi ei fendithio gan bresenoldeb y ddau ddyn santaidd. Un o'r darnau barddoniaeth mwyaf teim- ladwy, — llawm o hud yr hen chwedlau, ydvw'r ddrama hon y carwn mor fawr ei hargjmell i'r llwyfannau Cymreig yn arwydd bach o'm diolch am yr holl garedigrwydd a chyfeillgarwch a roddwyd i mi yn y wlad hudol a hawddgar hon.