Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DETHOLIADAU O POBUN, o gyfieithiad yr Athro T. GWYNN JONES MAE cyfaill wedi'n galw, Sef Pobun ei hun, Yr haelaf ar y ddaear A hithau ei fun; Cawn brofi pob llawenydd A mwynder i ddyn, Ac yntau wedi'n galw I'w annedd ei hun. Cyd-ganwn ni o galon I ddeuddyn mor làn, Heb bryder na gofalon I'n cof nac i'n càn Bydd gymwys i'w diddanu Ddwyn ffaglau o dân, A dawnsio a chanu I ddeuddyn lawen làn, I bawb rhoed a ofynnai. Ein dewis bob un, I fab y fun a fynnai, A'i mab i bob mun Bydd lawen inni blethu Y blodau a'u gwau Yn arlant, heb fethu Diddanu bryd y ddau. Cyd-ganwn 0 lawenydd Un-galon i gyd, A phawb ag ysgafn hyder, Dibryder eu bryd Symudwn ni i ganlyn Y gwyn yn ein gwaed, Cawn gofio drwy ein bywyd Y gwynfyd a gaed. Pobun yn mynd i'r bedd; o'i amgylch,yr angylion; y tu ôl iddo, Gweithredoedd Da (Miss Ditya Jones); uwch ei ben, Ffydd (Miss Evelyn Bowen). Can y Wledd. Gwraig y Dyledwr Arian, ceiniog yw arian a rydd dyn yn fenthyg i'w gymydog er mwyn trugaredd Dduw. Y Dyledwr Arian ? Nid yw arian fel pob masnach arall peth melltigedig a llawn hud- oliaeth yw y neb a estynno'i law tuag ato, i'w enaid ei hun y bydd niwed a gwarth nad arbedir ef byth rhagddynt, canys nid oes ar rwyd Satan yn y byd amgen enw nag arian. Pobun Cymer y ddysg hon gennyf i — gŵr doeth a dyrchafedig oedd y sawl a ddyfeis- iodd arian i ni, oherwydd drwy hynny, yn lle rhyw gyfnewid pethau a rhyw fân-werthu salw, 'daeth ein byd ni i gyd i gyflwr uwch. a dyfod pob dyn yn ei gylch ei hun .yn ddioed yn debyg i ryw Dduw bychan. Ni bydd dim yn rhy uchel na rhy ddiogel na ellir ei brynu am arian. Ti elli brynu'r tir a'r gwas ynghyd a hyd yn oed awdurdod ysgrifenedig y brenin, peth amhrisiadwy bob amser, a pheth a gysegrwyd gan Iesu Grist ei hun. Gwraig y Dyledwr Nid gwael wyt ti am gan- mol diawl — mae'r peth fel pregeth ar dy dafod, a thalu parch yr wyt i god y Mamon. fel pe bai barch i'r cysegr ei hun. Y Dyledwr (a'r swyddogion yn ei lusgo ymaith): Pa beth a dàl dy ddagrau, fy ngwraig druan ? Dyma fi yng nghrafanc Mamon. Paham yr ymroddais innau iddo erioed ? Bellach, dyma ben ar y bywyd hwnnw. Arian. Fy Machgen Gwyn. (Cainc, Deio Bach.") MAE rhai'n dwedyd am fy machgen, Dwedyd am fy machgen gwyn, Na ddaw adre rhawg o Lunden- Na ddaw byth fy machgen gwyn Minnau sydd pan fwy'n eu clywed O mor drist yw meddwl hyn Na bo calon neb cyn oered— O! ble'r aeth fy machgen gwyn? Mi a dorra 'ngwallt yn gwta Fel efô, fy machgen gwyn A rhof ddillad mab amdana, Fel efô, fy machgen gwyn Ac af ar fy nhraed i Lunden, Er mor hir a blin fo hyn, I edrych yno am fy machgen, Edrych am fy machgen gwyn O MOR fwyn yw ymdawelu Pan fo clych yr hwyr yn canu, Ding dong, ding dong. (Cainc, Hob y deri dando.") PAN ddel gwanwyn drwy y dolau, Pan ddêl gwen y gwanwyn Bydd y dydd yn deg a golau, Pan ddêl gwèn y gwanwyn; Càn yr adar, gwèn y blodau, Pob peth byw, Hoen a gawn o wèn y gwanwyn, Hoen, hoen, hyfryd hoen, Gwanwyn hardd a gawn yn huen. Y Don Gron. (Ar gainc Almaenig). Gwanwyn.