Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Merched GWELEM hi gyntaf pan ymgodai niwl y bore'n araf o'r dyffryn a'r môr. Nid niwl trwchus, creulon mo hwn, ond rhyw fath o len ysgafn, olau, a gyffyrddai'n garedig odre'i gwisg. ac a guddiai â dwylo lledrithiol, caredig, greithiau dyfnion ei hwyneb trist, wyneb a barai inni feddwl, rywsut, am rosydd moelion, garw, a rhesi hir y gwrthdir unig. Ymddangosodd mor sydyn fel y bu bron inni dybied mai drychiolaeth ydoedd a ddaethai i fyny'r cwm gyda'r niwi, ac a gludesid o rywle pell gan ei esgyll gwyn. Ond yn ei llygaid duon, treiddgar, gwelwn rywbeth a ddangosai ddyfnder enaid dyn, a thristwch anobeithiol na ŵyr gysur ac na fyn gydymdeimlad. Syllai'n hir i gyfeiriad y môr, ymhell dros gopa'r bryn, fel petae'n clywed yn ei furmur pell atsain o wlad arall, rydd, lle nad oes niwl a tharth a gwyntoedd oer a lle nad yw bywyd namyn byw." Yng nghesail y bryn Troesom ninnau i edrych yn ôl ar hyd y ffordd y cerddasom arni, yn ôl ar hyd y llwybr cul, unig, a ddringai i fyny'r mynydd yn raddol, fel petae'n anodd ganddo adael murmur afonydd a su'r môr ar y graean. Yng nghesail y bryn, gwelwn bentref bychan Llydewig Paimpol, na ddeuai'r un su i'w glustiau cysglyd byth ond su'r môr, oherwydd rhwng Paimpol a'r pentref nesaf yr oedd deng milltir o rosdir garw, llwyd, a llwybrau unig. Ond nid oedd hyn yn amharu dim ar dawelwch digyffro'i drigolion. I'r gorllewin yr wynebent hwy, i gyfeiriad machlud haul, ac ar y môr yr oedd eu llygaid beunydd. A dyna pam, efallai, y mae ym Mhaimpol y môr glasaf a welsoch erioed, môr a geidw'n ddiogel yn ei lesni obeithion cyfrin, dwfn gwraig y morwr a phob un a saif fin nos ar y cei i syllu'n hir i'r gorllewin pell. Gwylio'r llongau. Ac yno, efallai, y gwelsom gyntaf erioed lwybrau disglair y môr—llwybrau llongau'r pysgotwyr—­a oleua'r ffordd i borthladd- oedd anhysbys a chilfachau dieithr, pell. Dyna brif orchwyl trigolion Paimpol. Gwelsech hwy'n eistedd amser machlud haul â'u llygaid ar y gorwel byth, yn gwylio'r llongau bychain llwyd yn dyfod yn ôl gyda'r hwyr o oerni moroedd y gogledd a'u helfa bysgod gyda hwy. Deuai'r cwch bychan i'r harbwr fel teithiwr blin a hen, ar ôl wythnosau hir wrth draethell arw Sgandinafia ac ynysoedd y Baltig, a'r bore wedyn fe welid tyrfa fechan, ddistaw o ferched Llydaw, â'u penwisg wen yn disgleirio yn haul y bore, yn cerdded i'r Eglwys i ddiolch i'r Forwyn Fair, medd un hen forwr llwyd, am iddi arwain eto'n ôl y cwch bach o'r moroedd pell. Beth bynnag, y bore yma, gadawsom yn fore y pentref bychan yng nghesail y bryn, ac fel y dringem i'r ucheldiroedd, ymledai'r niwl fel llen ledrithiol bob cam o'r ffordd. Gan Mair I. Rees Aberaeron, Ceredigion O'r braidd y medrem weld y llwybr, ond gwyddem yr ymdreiglai'n ôl, fel afon dawel, lonydd y gwastatir, hyd ochr y mynydd. Ar bob ochr, gwelem garegog dir rhosydd Llydaw drwy'r tarth,—­ac yma y safai hi. Y peth cyntaf a ddaeth i'm meddwl oedd debyced ei hwyneb i'r tir garw y treuliodd ei bywyd i'w drin. Yn ei llygaid ymguddiai anobaith enaid a oedd yn dragywydd Llydaw flinedig,—oherwydd ymdrech ofer yw'r ym- drech yn erbyn Natur greulon yn Llydaw, ac nid oes neb a fedr sefvll nac ymladd yn hir. Ond rhaid wrth vr ymdrcch i fyw. Pan oedd haul v prynhawn yn taflu cysgodion hir ar gerrig y stryd, cyrraedd- asom Treguier, a saif gyda'i Heglwys gad- eiriol fawr, urddasol. ar lan afon dawel a ymdreigl rhwng coed prydferth i'r môr. Os byth yr ewch i Dréguier ac aros yn y gwesty gerllaw y Calvaire odidog yng nghanol v pentref. ewch yng nghwch Hen Wr yr Afon i lawr rhwng y coed hyd at y drofa gyntaf pan fo'r lleuad yn llawn. ac yno y sylweddolwch gyntaf, ond odid, brydferthed y lloer wrth ariannu'r lli." Eglwys brydferthaf. Eglwys brydferthaf Llydaw, i'm tyb i, ydyw Eglwys Treguier. Wrth y drws saif tlodion y pentref i erfyn caredigrwydd ymwelwyr. Aethom i mewn. Nid oedd dim i'w glywed ond llais undonog yr offeiriad yn y pellter, rywle o dan y Crist a grogai yno ar y mur. Ac yno y gwelsom hi eilwaith. Ni sylwais arni pan aethom i mewn, oherwydd erbyn hyn ymledai'r cysgodion yn drwchus hyd y llawr cerrig, a thu ôl i'r drws, lle'r eisteddai hi, prin y medrwm weld hyd yn oed y capan bychan gwyn a'i hwyneb llwyd. Ond yn sydyn, goleuwyd y gongl dywyll gan belydr ola'r machlud a ddisgynnai'n syth drwy'r ffenestr liwiedig ar ei chefn crwni ac wrth fflachio drwy'r gwydr coch, rhôi'r goleuni llachar liw newydd i'w dillad a gwrid newydd i'w hwyneb. Gorffwys. Nid oedd creithiau'r bore i'w gweled mwyach. na'r hiraeth am bethau gwell, ac yr oedd yr anobaith hwnnw a faluriai sylfaen ei bywyd wedi llwyr ddiflannu gyda'r niwl y gorchuddiwyd hi ganddo ar y rhos. Yng ngolau'r machlud, gwelwn wyneb tyner plentyn, a phelydrau'r gwydr coch fel cylch tanbaid am ei phen. ac yn ei llygaid yr oedd Hawenydd a thawelwch annisgwyliadwy na fynnai wynebu anobaith y dyfodol a blynyddoedd unig. caled. Edrychais i fyny i'r lle y syllai arno, ac yno v gwelais ddelw'r Ferwyn â rhes o lilïau o gylch ei thraed-dariun perffaith, Hawn. o degwch a phurdeb, o gydymdeimlad a chariad. Dyma, nieddwn. yr eglurhad. I'r tlawd, i'r anghenus, i'r anobeithiol, v mae yma ddedwyddwch delfrydol a bair iddynt anghofio'u hymdrech ofer, hir, a'u bywyd blin. Yn Llydaw, yr Eglwjs a berchen yr agoriad i'r dedwyddwch hwn, hyhi yw'r noddfa. Gwaith ymdrech caledi galar henaint yna Deuwch ataf i," medd yr Eglwys—ac yno y mae gorffwys. Troesom yn ein holau. Yr oedd v dis- tawrwydd yn llethol. Ond nid oedd hi yno mwy. Aethai'n ôl at y rhesi hir a'r niwl.