Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ein MERLYN Gan Capten F. Victor CYMREIG ― HUGHES HALLETT Caled Cyflym Cyfrwys FE weithiodd natur a dyn i wneud y merlyn Cymreig y caletaf. y cyflymaf, ac. y mae'n debyg, y mwyaf deallus o'i fath. Fe gydnabyddid gwerth y merlyn Cymreig mewn cyfnod bore iawn, fel y dengys cyfreithiau Hywel Dda, a deyrnasai ar Gymru yn A.D. 942-948. Cawn ryw syniad oddi wrth y cyfreithiau hyn pa fodd y byddai Cymro'r ddegfed ganrif yn cadw'i geffylau. Cyfoeth wrth gefn i'r genedl ydoedd y merlyn yn y dyddiau hynny, ac ni chaniateid defnyddio na cheffyl na merlen i aredig, rhag digwydd niwed iddo. Gwerthu CeffyL Yn nes ymlaen fe gawn na allai dyn caeth (taeog) werthu ceffyl heb ganiatâd ei arglwydd os byddai iddo wneud hyn, di- ddymid y gwerthiant ar unwaith. O'r diwedd, fe ddodwyd y ferlen mewn gwaith; ysgrifennwyd yr hyn a allai ei wneud mewn deddf. Gallai merlen deir- blwydd dynnu car ar fryn a phant a chludo pwn a magu ebolion." Yr oedd i bob rhan o'r ceffyl ei gwerth cyfreithiol y pryd hwnnw. Dywediad cyff- redin yn y cyfnod hwn oedd Cyfwerth â'r ceffyl ei droed." Yr oedd yn wahanol gyda'r ebol at waith iddo ef, cyfrifid ei gynffon yn gyfwerth â'r ceffyl ei hun. Y rheswm am hyn yw yr arferid defnyddio cynffon y ferlen i dynnu'r og (Gwneid hyn yn llawer diweddarach yn Iwerddon a'r Alban.) Iach a chryf. Credai pawb fel ei gilydd mai'r cwbl oedd eisiau, wedi i'r ceffylau flino ar waith coler, oedd tynnu'r harnais a chylymu'r aradr neu rywbeth arall wrth eu cynffon! Cydnabyddid grymuster y merlyn Cym- reig gan bawb. Drwy fyw bywyd gwyllt am genedlaethau, yn y dull iachaf posibl, a chan anadlu awyr dihalog y mynyddoedd ac yfed y dŵr puraf, ni aUai'r fath beth â merlyn Cymreig gwanllyd fod. Os byddai rhai ohonynt yn anghymwys i wrthsefyll llymder y gaeaf, neu i ffynnu ar ymborth wael y llechweddau, ni byddent byw i drosglwyddo'u diffyg egni i eraill. Sicr ei droed. Mewn gair, y mae'r merlyn yn enghraifft drawiadol o oroesiad y cymhwysaf dyma'r modd y datblygodd mor rhyfeddol o gadarn yn ei gyfansoddiad, ac mor sicr o'i droed, dawn sy o werth mawr i'wjddisgyn- yddion a baratoir i chwarae polo. Byddai hela merlod yn un o brif ddifyrion yr amaethwyr a'r werin yn y dyddiau gynt. Cychwynnai ychydig wÿr ar gefn meirch, gyda chnud (pac) o gŵn—milgwn, fe ym- ddengys, oedd y rhan fwyaf ohonynt-a cheisio cornelu cenfaint o ferlod gwylltion i ryw gilfach yn y creigiau. Yna delid yr ebolion gyda dolenraff, erfyn y gwyddai'r Cymro ers llawer dydd yn dda iawn pa fodd i'w ddefnyddio. Y mae cadernid coesau'r merlod mynydd hyn yn nodedig. Dywaid marchog profiadol iddo farchogaeth un merlyn Cymreig am flynyddoedd a hyd y diwedd byddai'n well gan y merlyn rodio ar balmant nag ar lwybr meddalach. Fe gyngwystlodd un gŵr bonheddig Seis- nig fi1 gini gyda Duc Queensferry y marchogai 10 milltir, gan gymryd 30 naid anferth, mewn 47 munud, ac enillodd. Gyrrodd un Mr. Hül bâr o ferlod Cymreig oedd mewn dipyn o oed (y merlod, wrth gwrs, nid Mr. Hill) am dros 12 milltir mewn awr a deng munud i ddal traen. Gallai ebol Cym- reig arall o'r eiddo garlamu ochr yn ochr â cheffyl mawr, a neidio ei uchder ei hunan. Fil o flynyddoedd yn ol. Bydd cymysgu â gwaed estron yn cyflym analluogi'r ebol Cymreig i wrthsefyll caledi bywyd yn y mynyddoedd a mannau diffaith. Felly fe gadwodd y merlyn Cymreig yn fwy neu lai pur. Yn union fel y mae heddiw, feUy'r oedd fìl o flynyddoeäd yn 61, pan ddodwyd deddfau Hywel Dda ar ddeddf- lyfrau Cymru. Dywaid Mr. John Hül yn ei Welah Pony and Cob Stud Boolc fod dau fath o ferlyn mynydd Y mae'r naill fath yn ysgafnach o gorff ac yn debyg i^fyn ach-y math i'w farchogaeth. Y mae'r liall yn gryfach o gorff ac yn fwy addag i waith harnais. Cydnabyddir bod y cyntaf a enwyd yn dra chyfaddas at stoc ddech- reuol i gynhyrchu ebolion rhedegfa a chwarae Polo pan ieuir hwynt â stalwyni Arab pur. Profwyd i'r pen fod haeriad Mr. Hill yn wir gan Cuddington," ebol at chwarae polo llwyddiannus mewn sioeau o eiddo Syr Humphrey de Trafford, gŵr a arloesodd lawer ar hilio ebolion at chwarae polo.