Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Walelmia Ga n E. CYNOLWYN PUGH YMAE torf Eisteddfod Genedlaethol yn cynrychioli cenedl y Cymry yn o lew. Yn yr Wyl y gwelir ysbryd y werin yn ei fri a'i flas a'i ogoniant. Brynhawn Iau, a'r babell dan ei sang. pan anerchai Mr. Lloyd George y dorf gyda'i ddawn a'i huotledd arferol, ynghyda'i gym- ariaethau pert, hawdd oedd gweld-ac eisteddwn o fewn llathen neu ddwy iddo ar y llwvfan-fod y bobl yn ei law, fel clai yn nwjio'r crochennydd. Dvheai'r areithiwr am y dydd y gwelid pob clawdd fel Clawdd Offa heddiw-yn fwy o adwy nag o glawd.d, fel na bai ysbryd casineb a chystadleuaeth rhwng y cenhedloedd mwyach, ond y gwelid hwy'n byw gyda'i gilydd mewn brawdgarwch a chariad. Cymeradwyaeth. Cafodd gymeradwyaeth fyddarol pan ddy- wedodd ei fod ef yn gobeithio mai'r rhyfel diwethaf a fydd y diwethaf mewn gwirion- edd gellid tybio bod isdon o ddyhead am heddwch yng nghalon y bobl, a phe galwasai Mr. Lloyd George ar y dyrfa yn y babell y prynhawn hwnnw i sefyll ar ei thraed a gwneuthur llw o ffyddlondeb a theyrn- garwch i heddwch yn enw Duw a daioni, odid na safasai pawb ar ei draed mewn amrantiad Ond aroswch, chwi Gymry twymgalon! Heddychwyr teimladol ydym gan mwyaf nid gwaith anodd yw'n symud i ddatgan ein ffydd mewn heddwch ar goedd gyda'n gilydd, ac nid gwaith anodd, ychwaith, i HEDDWCH ac Amen i RYFEL Dau ddigwyddiad yn yr Eisteddfod yw'n cael i basio penderfyniadau cryfion ynglyn â heddwch y byd-pobl go hawdd i'n symud ydym Gormod o ddelfrydwr. Eithr ofnwn gymryd unrhyw gam pendant. Yng Nghymanfa Gyffredinol y Corff Presbyteraidd yng Nghorwen rai blynydd- oedd yn ôl cyn imi fynd i Chicago, ceisiais gael y Gymanfa i gymryd y cam a ddilynai'r hyn a wnaeth eisoes yn ei phenderfyniadau. Penderfynsid bod rhyfel yn gwbl groes i ddysgeidiaeth Crist ac na ellid mo'i gysoni â'i fvwvd a'i ysbryd ef mewn unrhyw fodd. Dywedais innau fod yr Eglwys yn dis- gyblu'r sawl sy'n euog o gyflawni pechodau ysgeler, megis lladrata a gloddesta ac anfoes. Y mae rhyfel yn achosi'r pechodau hyn ynghyd ag eraill a gwna bob pechod yn waeth. Oni ddylem, felly, wrthod aelodaeth eglwysig i'r sawl a wna unrhyw beth â'r dieiflwaith hwn? Gofynnwyd imi ddistewi, a sylwodd un o'r arweinwyr yn foneddigaidd iawn fod Cynolwyn yn ormod o ddelfrydwr. a minnau'r gwireddwr mwyaf yn y cyfarfod "Harlech!" Ond, dowch at nos Iau ym mhabell yr Eisteddfod yn Wrecsam, a channoedd o'r un bobl yno, yn ddiamau, ag a fu'n gwrando ar Mr. Lloyd George. Cyngerdd clasurol sydd yma, ac ar ôl datganiad rhagorol gan y côr a'r datgeiniaid a'r gerddorfa o rannau o gerddoriaeth odidog a chyfoethog Richard Wagner, wele'r côr yn mynd ati i ganu'r cytgan cyffrous Harlech o drefniant Harry Evans, a chanu nwydwyllt a rhyfelgar a gafwyd Geiriau Gwaedlyd. Ar derfyn y canu, dyma fanllefau croch o gymeradwyaeth a churo dwylo a thraed yn ddilywodraeth-y gynulleidfa, megis, wedi meddwi, ac wedi meddwi ar beth a gyffyrddai â'r elfennau mwyaf iselwael ynddi! A rhyfedd sôn, mynnodd y dorf encôr i'r cytgan paganaidd! Heb os nac oni bai, daeth y dydd i gladdu'r geiriau gwaedlyd hyn a ganwyd gyda'r fath hwyl gnawdol Rhag i neb dybio fy mod yn gor-ddywedyd wrth ysgrifennu fel hyn, gweler y geiriau Genedlaethol eleni Rhuthrwn ar y gelyn. Gyrrwn ef i ffoi o nant A bryn a phant a dyffryn Chwifiwn faner goruchafiaeth, Gorfoleddwn yn ei alaeth, Clywir llef ein buddugoliaeth, Cymru fo am byth Gwaed sy'n gwrido ar y cleddau, Twrw mawr a thincian arfau, Uwch na'r twrw ceir banllefau, Cymru fo am byth Saethau a phicellau wibia, Cyrn utgana, meirch weryra, Milwyr ruthra, rhengau floeddia, Cymru fo am byth Tanbaid yw calonnau, Grymus ydyw breichiau, Gwyr yn ymladd dros eu gwlad, Orenwog wlad eu tadau. Gwyllt a ffyrnig yw'r ymladdfa, Gwancus ydyw'r cledd wrth wledda, Duwies buddugoliaeth floeddia, Cymru fo am byth Gydag ychydig bach iawn o berswâd, byddai'r rhan fwyaf o'r dyrfa oedd ym mhabell Wrecsam y nos Iau hwn, a barnu wrth drwst y gymeradwyaeth, yn barod i fynd allan a chydio mewn cleddyf a gwanu hwnnw i goluddion y gwr cyntaf a feiddiai sefyll i'w herbyn Haleliwia i Heddicch yn y prynhawn Amen i Ryfel yn yr hwyr! Anodd peidio â meddwl am y bobl hynny a waeddai "Hosanna i Fab Dafydd un diwrnod, ac Ymaith ag Ef, Croeshoelier Ef y diwrnod wedyn. Cainc gref, gynhyrfus j-w Harlech rhyfelgan yw hi, ac amcan cân o'r natur yma j-w deffro'r diawleiddiwch sydd mewn dyn ac nid peri iddo feddwl! 'Tybed, o ddifrif, na ellir cael geiriau cryfion a grymus o blaid Heddwch i'w canu arni ? Canys nid rhywbeth meddal a mwyn yw gwir heddwch. Gofyn yr ymgyrèh o blaid heddwch ymhlith y cen- hedloedd am holl ymadferthoedd a holl rymustra pob enaid. Ni wn i a oes eiriau o'r natur yma i'w cael ar y mesur hwn bid a fynno, y mae arnaf chwant gofyn i'r Athro T. Gwynn Jones, sy mor gadarn dros heddwch, roi inni eiriau y gellir eu canu â'r unrhyw ysbrydiaeth a nerth ag y canodd côr Eis- teddfod Wrecsam y geiriau paganaidd a gafwyd yn y rhaglen. Galwad i godi arfau sydd yny rhai hyn galwad i Edifeirwch ac ymgysegriad o blaid heddwch sydd eisiau, modd y delo Heddwch a Harlech yn un.