Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Pentref lle ganed ein Beibl PENTREFI Y Pentref lle ganed ein Beibl Gan William DAVIES, Llanrhaeadr-ym-Mochnant. YNG nghesail y Berwyn, wedi ei gylchynnu gan fryniau, saif hen bentref enwog Llanrhaeadr-ym- Mochnant, y bu rhamant wrthi ar ei gorau glas, am flynyddoedd, yn gwau mantell o swyn ei hanes. Ac yn ddi-ar- wybod, y mae'r trigolion yn cadw ami draddodiad rhag mynd i ebargofiant. Pobl hynaws, garedig, yw pobl Mochnant, yn dal i wirio'r hen ddihareb Maldwyn fwyn fonheddig." Er yr ystyrrir y Llan ar ffin Clawdd Offa, nid yw'r elfen Seisnig wedi meddiannu ond ychydig o'r bobl Bro hollol amaethyddol yw hon. Yma gwelir pobl y wlad yn siopa ar nos Sadwrn y mae yma gyflawnder o siopau, a phedair tafarn, a banc helaeth i'r darbodus gadw'i arian Er bod yma gryn dipyn o dai braf, y mae cryn lawer o dai'r gweithwyr yn fychain a hen ffasiwn. Ceir yma ddwy ysgol; ysgol dan nawdd yr eglwys wladol gynt, ac ysgol y cyngor. Y ddwy felin. Nid yn ami y ceir cyfuniad mor amlwg o'r hen a'r newydd; ceir y trydan yn goleuo'r siopau, yr eglwys a'r capelydd, y strydoedd a'r rhan fwyaf o'r tai. Daeth y teleffôn yma ers cryn amser bellach hefyd. Gwelir yma glamp o arwerthfa, Ue y gwerthir defaid y rhan fwyaf o'r wlad oddi amgylch. Y mae eglwys Dwyfan Sant yn edrych fel darn o'r hen amser gynt yn eu mysg, gyda'i mynwent eang, lawn. Ceir hefyd ddwy garreg hynod, tuag wyth droedfedd o uchder, un wrth ysgol y Green, a'r llall wrth gae'r felin, wedi'u gosod fel pyst. Y mae iddynt hwythau draddodiad. Nid oes ond ychydig amser er pan oedd yma ddwy felin; ond erbyn heddiw, peidiodd un ond deil y llall i droi'r olwyn ddŵr. Yma bu'r Esgob Morgan. Y mae'r sefyllfa grefyddol yn un sy'n nodweddu'r rhan fwyaf o bentrefi Cymru yr Eglwys Wladol, y Presbyteriaid, y Methodistiaid, a'r Annibynwyr. Y mae gan y Bedyddwyr gapel yma, ond y mae ers llawer dydd yng nghau, wedi ei fygu, neu mewn ymadrodd ffigurol, wedi ei foddi gan yr enwadau eraill. Y mae'r teimlad en- wadol yn gryf ac yn iraidd yma y mae'n bwysig i ddyn beth yw ei nod-clust o ran enwad. Uchod: Eglwys Dwyfan Sant, De ba'r Eagob Morgan yn gwatanaethu. Isod Cipolwg ar bentref Llanrhaeadr ym Mochnint. I'r dde: Pistyll Rhaeadr, lle dyry'r dwr lam 240 troedfedd i lawr. Y mae'n sicr fod gan drigolion Llan- rhaeadr-ym-Mochant Ie i ymfalchïo; yma y bu'r Esgob Morgan yn cyfieithu'r Beibi i'r Gymraeg. Yn ôl hanes, ni chafodd yr Esgob Morgan amser cysurus yma dy- wedir i Yswain Henfache achwyn arno ei fod yn esgeuluso'i ddyletswyddau eglwysig. Ond credwn na eUir traethu maint y gym- wynas a wnaeth yr Esgob Morgan i'w genedl, i'w iaith a'i chrefydd. Ym mynwent Llan- rhaeadr hefyd y gorffwys Gwallter Mechain a Huw Myfyr. Rhu cynddeiriog. Yn naturiol, teimlwn mai eiddo'r Llan yw Pistyll Rhaeadr, a gyfrifir yn un o saith ryfeddod Cymru. Y mae tua 240 troedfedd o uchder. Dros ei dalcen unionsyth y mae llwybr erchyll y Rhaeadr a phan fo'n lli clywir ei ru cynddeiriog am filltiroedd yn y cwm islaw. Ar gyffiniau'r pistyll gwelir tri chrug anferth, a elwir yn Faich y Cawr, Baich y Gawres, a Ffedogiaid y Forwyn. Ryw dro, pan oedd Cawr Berwyn a'i Gawres a'u Morwyn yn cario'u baich ac yn croesi heibio i'r pistyll wrth fynd adref i Langynog, yn ystod oriau mân y bore, digwyddodd iddynt glywed cân y ceiliog, ac er mwyn cyrraedd adref cyn torri o'r wawr, dyma daflu eu beichiau dros y pistyll, ac yno y maent hyd heddiw. Ryw filltir uwchlaw'r pistyll ceir Cylch Cerrig, ac y mae cryn ddyfalu am eu hystyr myn rhai fod â wnelo'r cyfnod Derwyddol â hwy. Ond clywais ŵr a gymerai gryn ddiddordeb yn hanes y fro hon yn dweud mai cerrig beddau ydynt, beddau rhan o fyddin Owain Gwynedd fu'n lluestu yn y fan hon, pan fu i fradwr arwain catrawd o'r fyddin Seisnig a'u cylchynnu a'u lladd bob un. Cerrig beddi y'u gelwir hwynt gan y trigolion hefyd, a cheir yma lecyn a elwir Rhyd-y-ddalfa," ac aber fach a lifa i'r rhaeadr­~Nant-yr-Ochain. Llys Clyn Dwr. Daw llawer o ymwelwyr yma yn yr haf, ond os ydys am weld y Pistyll yn rhyferthwy ei ogoniant, yna deler yma pan fo'r glawog- ydd yn distyll ar Ferwyn. Nid nepell Cadair Fewyn uchel ei chefn, 2,713 troedfedd uwchlaw'r môr, a'r llyn rhyfedd crwn, Llyn Llyncaws wrth ei throed. Mewn cyfeiriad arall ceir Sycharth, llys Owain Giyndŵr. Ni cheir yma heddiw faen ar faen nid yw ond boncyn gwyrddlas ag arno lwyn o goed. Ond gwelir ôl y dyfrffosydd a gylchynnai'r plas yn yr amser cythryblus hwnnw. Ni theimla pobl Llanrhaeadr lawer oddi wrth gyffro bywyd politicaidd. Nid ces argoel chwaith am un math o ddiwydiant i ddod i weddnewid bywyd yr ardal hon. Y Gamfa. Porth y cae rhwng perthi coed,­dan ei hud Awn i hedd ieuengoed Mwyn ei rin yw man yr oed, Glwys argel y glas irgoed. ROSSERONIAN.