Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI FER Y LLYSFAM HAWDD deall. er mor ddigysur fu hynny i mi, pam y dewisodd Glyn fi i dderbyn ei gyfrinach. O'r adeg pan oeddym yn Ysgol Ganol Tre Fawn. buom yn gyfeillion agos. Wrth rodianna fin hwyr ac ar y Sadyrnau, deuthum i wybod yn weddol fanwl am yr amgylchiadau pan briododd ei dad eilwaith. Synnais lawer wrth weled i fachgen un ar bymtheg oed ddigio i'r byw oherwydd y briodas. Yr oedd Tomos Jones, tad Glyn. y flwyddyn cyn iddo gymryd ail wraig, wedi gwneuthur ei orau glas i brynu fferm—un fyddai'n ddigon o faint i'w gynnal ef a'i deulu, sef Glyn a'i chwaer a'u modryb, chwaer eu mam, a'u magodd o'r dydd y collasant eu mam vn rhai bach. bach. Chwe blwydd oedd Glyn pan fu farw'i fam. a bu ei dad am y deng mlynedd nesaf yn gweithio yn y de, a dod yn ôl bob gwyliau i hau neu fedi fel y byddai"r tymor. Os yw diwrnod lladd moch adeg Nadolig, a dyddiau hau tatw y Pasg. neu adeg cwteru'r cae gwair pan fo streic, yn arwyddion llawenydd, nid oedd brinder hapusrwydd vn y Gors Wen. Methodd Tomos Jones daro ar fferm a ryngai ei fodd, er iddo gynnig ar sawl un yn arwerth stad Y Fawnog tua diwedd y rhyfel. BU tipyn o syndod pan ddeallwyd ymhen blwyddyn ei fod wedi priodi'n sydyn yn v de, a'i fod vn bwriadu troi'r Gors Wen heibio. a symud i fyw i rywle yng Nghwm Afan. Gadawyd Glyn yn Ysgol Ganol Tre Fawn, a phryd hynny y deellais beth ar ei ddicter at ei llys-fam. Priododd Tomos Jones heb yn wybod i neb yn y wlad. Rhyw ffrindiau o'r de a hysbys- odd hynny wedi'r gwledda. Yr oedd hynny'n dramgwydd i deulu mam Glyn, ac yn enwedig i'w fodryb. Nid rhyfedd i'r ddau deulu gymryd ochrau, ac o dipyn i beth fynd yn benben, a dywedyd pethau cas am ei gilydd. Ond Glyn ei hun a roddodd imi'r eglurhâd gorau ar weithred ryfedd ei dad. Mynnai Glyn mai awydd oedd arno i beidio â pheri poen i deulu ei wraig gyntaf a dolurio'i blant. Gohirio, ac wedyn gohirio, nes iddi fynd yn rhy hwyr, yna gohirio o bwrpas. Yr oedd yr ofn meddylgar hwn yn elfen yng nghymeriad Glyn, mi wn at hynny, tuedd i adael tan yfory y peth anodd, anghysurus. Felly'r aeth o ddrwg i waeth yn y Gors Wen. Nodwedd arall yn y tad a'r mab oedd pen- dantrwydd a droi'n ystyfnigrwydd noeth o'i wrthwynebu. Pan suddodd atgasedd i enaid pawb o'r cylch, penderfynodd Tomos Jones y gorfyddai ar Glyn hefyd i'w ganlyn i'r de, a'i roi i weithio tan y ddaear ar hanner ei gwrs ysgol. YR oedd glowyr y pryd hynny'n ennill yn dda gwerthsid y Gois Wen am geiniog weddol, ac y mae'n debyg i Tomos Jones gael hen hosan burion gyda'i wraig hefyd. Odid nad oedd aur coch yn lliwio peth ar ei resymu am gael y crwtyn i'r pwll. Trychineb fyddai iddo gael ei ffordd, am na fu disgleiriach disgybl yn ysgol Tre Fawn erioed bron ond pallu gwrando ar ymbil ysgol feistr a phawb arall a wnâi Tomos Jones. Aeth y dyn cryf yn benstiff collodd gydymdeimlad ei aidal. Cadwodd ei fodryb Glyn yn yr ysgol â'i phres ei hun. Awgrymodd teulu'r tad ei bod hi wedi gwlana'n hael yn y Gors Wen haerai hithau na chawsai ddimai o gyflog tra fu yno'n helpu codi'r plant. Cyn symud dim, enth- pwyd trwy bob peth a feddai, a bu rhaid i'r ddwy ochr lofnodi papurau i gadw'r heddwch. Hyhi a roes ei gyfle i Glyn,. a chyda hi y cartrefodd yntau wedi iddi symud i'r Rhondda i fyw. Aeth ei chwaer at deulu cefnog yng Nghaerdydd, ac yn y diwedd priodi yn y teulu hwnnw. Ond wedi'r cwbl, nid wrth ei dad y digiodd Glyn yn gymaint. Y fenyw fach," ebe fe, sy wrth wraidd y cyfan." Gan J. KITCHENER DA VIES Y llun gan HUWS. Nid oedd wedi ei gweld hyd yn hyn. Rhyw gefnder a'i disgrifiodd iddo wedi i hwnnw ei gweld yn y Barri. Twmpath, a chasgen. a thwten, oedd ei eiriau. Clywais am yr hwyl fu wrth lunio delw ohoni i'r dychymyg. Ma-fe'n gorfod i chodi-hi i iste yn y set yn y capel dy' Sul." a'r fenyw fach fu hi i bawb wedyn. Y mae'n wir mai corpws lled anniben a di-lun oedd ganddi, ac nid oedd hynny'n help iddi gyda Glyn. Yr oedd rheswm arall tros iddo ddigio wrth y fenyw fach. WEDI'R briodas bu digon o waith yn y Gors Wen i drefnu'r ocsiwn. Un o'r gorchwylion oedd torri egin tatw yn y sgubor, ac wrth wneuthur hynny daeth Glyn o hyd i lythyr ym mhoced cot ei dad. Oddi wrth y fenyw fach yr oedd. Credai Glyn fod ganddo hawl ar ysglyfaeth felly, a darllenodd ef. Digiodd i graidd ei enaid at ei gynnwys. Nid oedd dim byd ynddo ond ychydig gyfarwyddiadau ynglŷ â pha ddodrefn o'r Gors Wen i'w dwyn gydag ef, a pheth i'w roddi ar ocsiwn. Gwelais ef. Soniai am gadw'r ford fach gron, a'r cloc, ond am werthu'r ford fawr, am fod un felly yn barod ganddynt. Digon syml a di-dramgwydd Hynny a laddodd enaid Glyn. Dynes ddierth yn 'i lordio-hi ar bethe 'nghartre i, ar bethe 'mam." Pan soniai am hyn yn unig y clywais i ef yn ei galw hi yr hen ddiawi bach salw." Hyn oedd arwydd rhwygo'i gartref, arwydd newid byd, o fywyd cynefin gwlad i fywyd dieithr tref. Hi yn v llythyr syml hwn a roes orchymyn i ddi-wreiddio Glyn ac am iddo ddeall hynny yn nhywyll-leoedd ei enaid dwfn, digiodd hyd y byw ati. Wrth g\\TS, cydnebydd pawb sy'n ei gofio mai'r symud hwn oedd y peth gorau a ddi- gwyddodd iddo erioed. Ysgyrnygodd ei ddannedd ar y byd, ac aeth o ysgoloriaeth i vsgoloriaeth, o Dre Fawn i Goleg y Brifysgol, o radd i anrhydedd, a chreu o'r diwedd lèn sy'n gwefreiddio byd. Pe cofiasech, wrth ddarllen ei waith, ei drychineb ef ei hun, canfyddech nad rhyfedd fod gwenwyn ymhlêth â'i athrylith. Ped arosasai yn y Gors Wen, enillasai Ie iddo'i hun yng nghyrddau cystadlu capel ac eisteddfod tref, ond fe gollsai'r ddisgyblaeth chwyrn a'r ing celfyddgar sy'n peri bod troi ei ddramau a'i nofelau i ieithoedd Ewrob gyfan heddiw. Yn unigedd ei enaid arosodd dig, gan fagu'n glwrnyn ynddo. Daeth dicter at ei lysfam drosto fel tarth trwm Tachwedd. [7 dudalen 262.