Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FFASIYNAU. Glas, Gwyrdd a Choch yw JLliwiau Eleni Gan MEGAN ELLIS WEDI mwynhau misoedd o ddydd- iau hir-felyn tesog." anodd yw ffarwelio â haf 1933. Ac eto, fel rhai yn hebrwng cyfeillion at drên neu long ar ôl ymweliad ac yn chwyfio dwylo a chanu'n iach, yna yn troi ar eu sawdl â'u meddyliau yn llawn o gynlluniau personol, felly y tybiaf y bydd merched yn cefnu ar yr haf. Y mae swyn mewn ail-afael ym mywyd bob dydd ac edrych ymlaen at ddyddiau hydref, a'i ddydd yn byrhau, a'i nos yn ymestyn. Cawn hamdden i wneud rhyw waith diddorol, neu gymryd pwnc newydd i'w studio. Cawn dynnu'r llenni i guddio'r gwyll, a golau'r lamp. Cawn gynllunio dillad newydd lliwgar wrth ffasiwn newydd yr hydref. TWID LLIWR GRUG. Clywaf am liwiau newydd prydferth eleni, lliw glas y feidiog drilliw, gwyrdd mwswgl, llwyd mwg, a choch cwyr selio. Bydd gwisgoedd yn y lliwiau yma'n ffasiynol iawn, mewn felfed, sidan, a gwlân. Bydd twid yn cael sylw hefyd-y maé'r defnydd hwn wedi ei wau mor berffaith y dyddiau hyn, ac y mae i'w gael mewn lliwiau cynnes a thlws, Uiwiau'r grug a'r rhedyn crin, yn gymysg â lliwiau eraill. Syniad newydd yw leinio'r gôt dwîd â'r defnydd y gwneir y siwmper ohono. Cul a di-addurn yw ffasiwn y sgertiau, ond er eu bod yn ymddangos yn hynod o gul, y mae digon o gwmpas yn y godre. Gellir cael defnyddiau llydan pwrpasol (1) SIACED RYDD a (2) SIWMPER, gyda sgarff wau. Gwlân meddal mân yw deunydd y ddwy. at wneud sgertiau, ac nid oes eisiau'r darnau croes mwyach ar yr ochrau. FFASIWN NEWYDD BASQUE. Ffasiwn newydd yw'r basque ar gotiau byrion ac ar ffrociau i'w gwisgo yn y tŷ. Bydd eisìau gofalu cyn ei ddewis, gan fod tuedd ynddo i wneud i ferch heb fod yn dal edrych yn ddi-siâp. Efallai mai'r ferch dal, fain ei gwasg, a edrych orau ynddo, a gall y ferch fach gadw at ffasiwn ysgwyddau dipyn yn llydan. Syniad arall yw gwneud dau neu dri phâr o lewys i gyd- fynd â ffroc, fel y gellir eu gwisgo bob yn ail. I ferch sy'n arfer gwisgo ffroc ddi-lewys, bydd pâr 0 lewys hir yn hwylus os digwydd i'r hin oeri, neu os daw rhyw alwad sydyn i dy Ue bydd ffroc ddi-Iewys yn edrych allan 0 Ie. Matiau tlws i'r bwrdd te. Y mae llestri tê a chinio prydferth iawn i'w cael y dyddiau hyn, ac y mae'n bwysig cael y matiau a'r llieiniau i gydweddu. Yn y darlun y maent o hain hufen, gydag orenau melyn a dail gwyrdd wedi eu brodio arnynt. Fe wna hanner llath o liain bedwar o fatiau wyth modfedd ar eu traws, a phedwar o fatiau bach o fodfedd a hanner i ddwy fodfedd ar draws. Nid oes eisiau ond rhyw wythfed ran o lathen o'r lliain oraen, ac edau werdd, ddu, ac oraen i'w brodio. Wedi torri'r lliain oraen, rhodder pwyth i'w dal yn eu lle, fel y gwelir yn y darlun, yna pwyther twU-bötwm o'u cwmpas, a gwneud y dail rhwng pob un gyda'r pwyth a elwir yn asgwrn-ysgaden. Gofaler frodio'r dail gydag edau werdd, a rhoi ysmotiau du ar yr oraen ag edau unlliw. GWRTHLIW MEWN FFROCIAU A CHOTIAU Gwisg o ulanen fân neu sidan brown gyda chot frethyn llwyd sy yn y cyfuniad cyntaf ac yn y llall ffroc wlanen felen ffansi a chot wyrdd olewydd. Sirioli'r llenni. Gellir gwneud llenni tlws iawn, neu gwrlid gwely, neu orchudd cadair esmwyth, o'r defnydd y gwneir lliain ymsychu ohono. Fe wneir hwnnw mewn lliwiau pur ddymunol yn awr. Y mae'n addas iawn fel defnydd llenni tai yn y wlad, ac y mae gweld rhai fel hyn yn chwyfio o'r ffenestri agored yn bleser llygad i bawb, tu allan a thu mewn. Y mae'r defnydd i'w gael mewn lliwiau swynol iawn, oraen a du, rhes goch ar waelod gwyn, a llawer patrwm arall. Un rhinwedd fawr yn y defnydd hwn hefyd yw y gellir ei olchi'n aml. 0 ble y daw'r Te? Fe yfwn ami gwpanaid o de heb ystyriaid dim pwy fu'n casglu'r dail,-dail a aeth y anhepgor bywyd i'r rhan fwyaf ohonom. Dychmygwch weld môr gwyrdd o brys- gwydd yn estyn dros gannoedd ar gannoedd o erwau. Dyna goed tê. Y mae'n olygfa gyffredin yn Assam, India. Ar un ochr gwelir rhes o fythynnod ac yn eu canol y ffactri fawr, y "tŷ tê." Yn y bythynnod y triga'r merched a fydd yn cynhaeafa'r dail tê.