Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hen Gerdd Am Un o Chwedlau Groeg. Gan Lewis Hopcin Cylioeddwyd y gerdd hon yn 1770 yn Yr Eurgrawn Cymraeg," y cylchgraum cyntaf yn Gymraeg. ACASTO, gŵr da 'i rinwedd, difalchedd haeledd hynt, Yn ymyl glyn tra ffrwythlon oedd yn preswylio gynt; 'Roedd gantho feddiant helaeth o dai o dir a da, Cymerai'n lân eu mwyniant mewn trefn heb ddim trahâ. I ddwylo'r bobol weinion ei roddion aeth yn rhwydd, Ffrind annwyl pob cymydog, o foddiog serchog swydd, Bendithion i laweroedd o fewn i'r wlad a'r dref Oedd cael ei ddoeth gynghorion a'i gymwynason ef. Er cymaint oedd ei hawddfyd, a chystal oedd ei hedd, Daeth troeon tra gwrthwynebus cvn iddo fynd i'r bedd; Y llawnder mawr a giliodd, a'r cyfoeth aeth yn llai, Er hyn parhaodd rhinwedd pan drodd y byd ar drai. Acasto dan drallodion o'i galon wiwlon wedd, Dangosodd bob bodlonrwydd nes mynd o'r byd i'r bedd Ei wraig a'i ferch adawyd yn isel iawn eu hynt, Heb nemawr at eu cynnal, er maint oedd ganddynt cynt. T AFINIA, merch Acasto, a'i weddw lân ddi-wawd, Er maint eu ffortun unwaith, dilediaith oedd yn dlawd, Y fam mewn gwth o oedran, anniddan egwan oedd, A'r ferch yn dyner ifanc, i fyw mor fyr o fodd. Nid o'ent yn dewis gwrando ar gerdd watwarus gas, Ac oerion dduon eiriau drwg ddynion beilchion bas Ac aethant i ryw fwthyn, tybiasant hynny'n well, Dan ochor mynydd uchel mewn pant neilltuol pell. Lle taflai'r creigiau gysgod dros gyrrau'r weirlod werdd, Lle clywid bref y defaid o'r bryniau gorau gerdd, A llais y nant yn ffrydio dwr croyw gloyw glas, Ac adar mân y goedwig â'u cân felysig flas. Medrasant ymddarostwng, o hyd yn llawn o hedd, 'Roedd rhinwedd yn gynhorthwy i fod mewn isel wedd, A byw heb ddim gofalon, run modd â'r adar mân, Oedd yn y coed yn pyncio eu gwiw ddyhuddiant gân. FEL rhosyn teg borewedd Laflnia oedd yn hardd, Fe1 manod ar y mynydd, neu lili yn yr ardd Ymddygiad boneddigaidd, ac agwedd lluniaidd llon, Serchogaidd ac enillgar oedd tymer hawddgar hon. Adroddai'i mam ar droeon, mewn geiriau purion pwyll, Ei ffortun fel llongddrylliad, anwastad doriad dwyll, Oedd unwaith yn argoeli rhyw lawnder hoywder hedd, Ac wedyn yn eu gado mewn salwaf waelaf wedd. Wrth wrando, nid oedd eiriau ar ei gwefusau pêr, A'i llygaid megis gwlithol brynhawnol siriol sêr 'Roedd harddwch cyfatebol dymunol ym mhob man, Mewn syml wisg ddigoegedd, a rhinwedd idd eu rhan. Mewn trwsiad sâl iselwedd, difalchedd cleuwedd clyd Gwir lendid sy'n ymddangos heb addurn yn y byd Nid oedd hi'n gwneuthur cyfrif o degwch lliw a llun, Prydferthwch idd ei garu oedd hynny oll ei hun. LAFINIA Ac fel myrtwydden beraidd, Lafinia oedd yn wir Yn bwrw iraidd arogl mewn dyrys anial dir, Mewn lle neilltuol, dirge!, Ue nad oedd dyn yn dod, Ei dawn ni wybu dynion na'i glân, haeddiannol glod. Nes gorfod mynd o'r diwedd, o'r fwynaidd weddaidd wawr, 'Roedd angen yn ei beri (mae hwn yn feistr mawr) Nid fel y balch gwrthnysig na thry mo'i droed ar draws, Hi aeth yn ddigon hawddgar mewn amyneddgar naws, I loffa maes Palemon, cyfoethog enwog ŵr Hwn ydoedd glod gwyr gwladol, hael, doniol; siriol siwr, Yn cymryd pleser beunydd, drwy bob llawenydd llon, Mewn bywyd gwladaidd serchol, rhinweddol freuol fron. DIGWYDDODD ar ddiwrnod da ddefod hynod hin, Pan oedd yr yd cynheafus dra hoenus idd ei drin, Palemon oedd mewn pleser heb uchder balchder bas Yn gweld y difyr gwmni yn medi ar y maes. Tan rodio ar ôl y fedel a thremio yma a thraw, Fe ganfu'r fwyn Lafinia a'i lloffyn yn ei llaw, Wrth weld ei phryd serchogaidd a'i diwyg llariaidd llon, Fe ddwedai wrtho'i hunan, Rhyw fenyw hardd yw hon Pan oedd e'n edrych arni, hi wridodd beth yn awr, A'i hwyneb yn gorymgais yn llednais tua'r llawr Hi drodd, heb dybio gallu fel hynny ynddi'i hun Darawo'r fath ergydion ar dyner galon dyn. Fe ganfu rywbeth prydferth o fawrwerth yn y ferch, Ond cuddiodd gwylder grasol ddau parth o'i siriol serch Daeth ato saeth ddirgelaidd oddi wrth y fwynaidd fun, A braidd yr oedd e'n gallu a chredu hynny ei hun. 'Roedd eto'r byd i'w atal, ac ofon gwawdiaeth gas, I hoffi lloffwraig ddiglod, wr mawrglod, ar y maes Y pethau hyn, fe dybiodd eu bod'ÿn ormod pwys, Fe roddai yno'n dawel ochenaid ddirgel ddwys. 'Roedd hyn yn rhwystr creulon, fel craig neu fynydd mawr, A'r olwg amo'n ddigon i daflu dyn i lawr, Un o'r Philosophyddion a gawsai lond ei law O waith i fyned trosto, neu dorri drwyddo draw. DYWEDAI ynddo'i hunan, — Trueni mawr dros ben Fynd byth fath lendid hynod ag ydyw'r wiwglod wen, Lle trig prydferthwch rhadlawn, a grym goreuddawn gras, I gofl rhyw ddwlbyn gwladaidd, an-noeth, anweddaidd was. 'Rwy'n credu'i bod hi'n disgyn o hil Acasto hen, Daeth hyn ar fy meddyliau pan welais gynnau'i gwên Ei dadol gynorthwyon fu gynt yn foddion, gwn, I'm codi mor gysurus i'r cyflwr hapus hwn. Mae fo'n y Uwch yn gorwedd, fe aeth ei dir a'i dai, A'i deulu enwog unwaith, darfuant hwy bob rhai I'r gwirion ac i'r truan bu'n darian ac yn dẃr, Mae hiraeth ar fy nghalon ar 61 yr union ŵr. Dywedant fod ei weddw, a'i ferch ef eto'n fyw, Mewn rhyw gornelyn dirgel, ymhell i maes o glyw! Y cof a'r olwg hefyd ìle buant byw yn well A'u gyrrodd hwynt i aros i rywle digon pell. Y mae nhw wedi myned ys llawer dydd o dre Er imi ddyfal chwilio, ni ellais wybod b'le; Dymuniad gau penhoeden sy'n codi yn fy serch, O na bai hon yrŵan yr annwyl, fwynlan ferch." OND wedi manol chwilio, a holi honno'i hun, Fe'i gwnaethpwyd ef yn hysbys pwy oedd y ddawnus ddyn, Merch hen Acasto haelaf, anwylaf dan y nef, Bu'r chwedl bron gorchfygu ei nerth a'i allu ef. A nwydau cymysgedig, yn gadarn iawn i gyd, Oedd wedi cerdded trwyddo nes oedd ef mewn rhyw gryd; Serchowgrwydd a thosturi a diolchgarwch gref, Oedd yno 011 ar unwaith yn wylo ynddo ef. Lafinia erbyn hynny oedd yn rhyfeddu'n fawr Ei weled ef yn wylo a'i ddagrau'n llifo i'r llawr, Cynhyrfiad ei hysbrydoedd wnaeth iddi wrido'n llawn, Edrychai eto'n lanach, yn decach eto'i dawn. Wrth ddal i sylwi eilwaith ac eilwaith ar ei gwedd, A chofio'i thad cariadus oedd wedi mynd i'r bedd, Tân cariad mwy'n guddiedig ni allodd ef ei ddwyn, Ei enaid fe dywalltodd mewn dwys ymadrodd mwyn. O RHYFEDD! merch AcaMo wyt ti fy annwyl un, Yn ofer ymofynnais amdanad i bob dyn Mae't ddull a'i ddelw arnad, pob tremiad llygad llawn Ond wedi cwrdd yn harddach â godidocach dawn. Tiriondeb gwedd Acasto, mor dda'r wyt ti'n ei ddwyn, Mwy hyfryd na'r boreddydd ym Mai, neu Ebrill mwyn Yr unig bur flaguryn o'r gwreiddyn teg wyt ti, Oddi wrth yr hum y tarddodd fy nawdd a'm ffortun i. O dywed ym mha anial le dirgel gongol gref Y tynnaist dirion dremiad a nawdd hyfrydawl nef. I dywallt tegwch mawrwerth mor brydferth ar dy bryd, Tu hwnt i bawb a welais o wreng a bonedd byd? Gofidiau'n llyn gafodydd, ddaeth beunydd ar dy ben. Pan nad oe't ti ond gwannaidd, a brau fel iraidd bren Dymunwn gael dy symud o adfyd gofid gwael, Lle bo manteision beunydd er cynnydd idd eu caet. Dy symud fel planhigyn lle caffo gwreiddyn gras Y cynnar law tra thirion, meum breudir ffrwythlon bras, A gwres yr heulwen hefyd O hawddfyd hyfryd hardd Ti fyddi'n glod cyfaddas ac urddas yn fy ngardd. [I dudalen 258.