Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Lle v cyrchair Cymry gynt am hedd i' w henaid I. Gan yr A thro Mary WILLIAMS Abertawe Ai gwaeth i ddyn gwiw ei thaid Yn y llwyn ynnili enaid, Na gwneuthur fel y gwnaetham, Yn Rhufain ac yn Sain Siam ? Dafydd ap Gwilym. SAIF Santiago ar fynydd-dir uchel, ryw ugain milltir o fae Arosa. Sbaen. lle y glaniasom ar fore hyfryd o Ebrill. Yn yr Oesoedd Canol yr oedd creirfa Iago Sant yn fan cyfarfod pererinion o bob rhan o Ewrob, yn enwedig ar ei Ddydd Gŵyl, Gorffennaf 25. Yn Llundain yr oedd y diwrnod hwn eisoes yn ddiwrnod mawr dyma'r pryd y dechreuid llyncu'r wystrys, a chan fod bae Arosa yn nodedig am y cregin hyn, y mae'n bosibl nad sêl grefyddol yn unig a anogai'r pererinion i deithio cyn belled o'u gwlad. Fe gofir mai cragen wystrys oedd arwydd pererindod i Santiago gwisgai pob un a âi yno y gragen ar ei het neu ar ei wregys. Croeso'r abatai. Ar hyd yr Oesoedd Canol yr oedd gor- llewin Ffrainc dan lywodraeth brenin Lloegr, ac felly âi'r pererinion o Loegr a Chymru drwy Ffrainc, gan lanio yn Nantes a theithio drwy Poitiers, St. Romain de Blaye, Bordeaux, dros fynyddoedd y Pyrenees, trwy ddyffryn Roncesvaux, a Bampeluna, Salvagin, Pomperrada i Santiago. Taith hir oedd hon ac felly'r oedd yn rhaid aros yn ami ar y ffordd. Yr oedd y mynachdai a'r abatai yn agored i'r perer- inion i gyd, a chaent groeso cynnes. Tra lletyent yno, adroddid ami hen hanes gan y naill a'r llall. Can Pererin Cymreig. Felly, yn ôl y farn ddiwaethaf, yr hanodd y farddoniaeth hynaf yn Ffrainc, a elwir y Chansons de Geste, hanes yr arwyr enwog Roland, Olivier, yr Archesgob Turpin ac eraill, a ledaenwyd dros Ewrob i gyd. Y mae cyfieithiadau o'r rhain i'w cael yng Nghymraeg yr Oesoedd Canol ac fe genir rhai ohonynt hyd yn oed heddiw ar lun baledi yn ffeiriau'r Eidal. Yn ôl y Dr. Hartwell Jones, swynwyd llawer hen bererin i anghofio'i flinder wrth wrando ar bererin o Gymro yn canu'n felys o flaen allor fawr eglwys gadeiriol Santiago. Yn lle croesi'r tir, âi'r hen Gymry'n ami dros y môr, gan gychwyn o Gydweli, neu SANTIAGO Dmas y Saint o Gastell Nedd, Ue'r ymgasglent yn eglwys St. Giles. Yn hyn dilynent y rhai a gludai'r alcan gynt o Gernyw i Nantes. Yna i Bordeaux yn eu cychod bychain, yn agored i bob math ar dywydd a pherygl. Mor wahanol i ni, yn ein llestri mawTÌon 0 20,000 o dunelli — dim ond dau ddiwrnod oedd arnom ni eisiau i fynd o Southampton i Fae Arosa II. Gan E. E brard REES, Llanisien, Caerdydd IAGO Sant yw nawddsant Sbaen. yn arbennig y rhan honno a elwir Galicia. Mawr yw'r miri ar ei ddydd gŵyl bob blwyddyn ar y 25 o Orffennaf. Gwnaeth Cymru sant iddi o un o'i phlant ei hun, Dewi: aeth Sbaen i'r Wlad Sant i geisio'r eiddo hi, a'i ddyrchafu i sefyllfa dra uchel. Yn y canrifoedd bore, ystyrrid Pedr yn apostol awdurdod yng nghanol a de Ewrob, a'i sedd yn Rhufain. Yn y dwyrain, ys- tyrrid Ioan yn apostol awdurdod, heb fod yn ail hyd yn oed i Bedr. Ond yn y gor- Buasai'n ddiddorol gwybod a fu Dafydd ap Gwilym erioed ar bererindod i Santiago, ac os bu, pa ffordd a ddewisodd. Dengys un o'i gywyddau ei fod yn gyfarwydd â'r hyn a ddigwyddai yno Y mae'n amlwg yr adwaenai farddoniaeth y Trwbadwr- beirdd deheudir Ffrainc. (Enw Dafydd ap Gwilym ar Santiago yw Sain Siam, sef Saint James.) Hawdd casglu hyn pan gjmiherir ei ganeuon ef â'r eiddynt hwy, o ran llun a chynnwys, yn enwedig pan ymesyd ar y clerigwyr. Nid heb achos y mae'n bur debyg, pan wrthdrawai â hwynt ac ennyn eu llid trwy ei serch at fun a lleian. Pa faint o wir bynnag y sydd yn yr hyn a ddywedir amdano a'i serch at Forfud a Dyddgu, ac aml un arall, nid oes un amheu- aeth, os bu yn Santiago ar y fath dywydd ardderchog ag a gawsom ni yno, y credai'n sicr mae da oedd bod yno, — er mor faith ac anhwylus y siwrne. llewin, Iago oedd yr apostol mawr, a ys- tyrrid yn deilwng o dra-arglwyddiaeth. Iago a bregethodd yr efengyl a chyhoeddi holl bethau dirgel y grefydd newydd yn Sbaen a De Ffrainc. Dywedir iddo ddyfod yn Apostol Gobaith oherwydd ennill ohono'r Gorllewin Mawr i edrych ar Iesu yn Arglwydd a Brenin iddynt. Fe ddywaid traddodiad eithaf hygoel ddyfod o Iago i'r Gorllewin mor fuan ag yr oedd modd iddo ado'r gweddill yn Jerusalem. Wedi cyrraedd Sbaen, gwnaeth wyrthiau ac arwyddion ar hyd a lled y wlad. Der-