Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymdeithas i DDYSGU'R hen Ddawnsiau YR olwg gyntaf a gyfyd ym meddwl yr anghyfarwydd. o glywed sôn am Ddawnsiau'r Alban yw, un yn troi yn ei unfan a thaflu ei gorff i'r awyr yn null Gwŷr yr Ucheldiroedd. Ond y mae rhai o'r dawnsiau gwlad yn hyn na'r rhain serch hynny. Fe grybwyllir amryw o ddawnsiau gwlad yn y Complaynt of Scotland a ysgrifennwyd yn 1548. Nid yw'r Eightsome Reel ond plentyn yn ymyl hyn­fe'i cychwyn- nwyd lai na chanrif yn ôl. Canghennau'r siroedd. Ddeng mlynedd yn ôl fe ffurfiwyd Cym- deithas Ddawns Gwlad yr Alban i hyrwyddo dawnsio yn null traddodiadol ein gwlad. Yn bennaf oU bydd y Gymdeithas yn sefydlu canghennau lIe y gall pawb a ddy- muno hynny ddysgu dawnsio. Fe lwyddodd y mudiad gymaint nes bod cangen yn bron bob sir yn yr Alban ac yn nhrefi mawr Lloegr a'r trefedigaethau. Dyfod yn ol. Bydd y Gymdeithas yn cyhoeddi llyfrau o bryd i bryd yn disgrifio'r hen ddawnsiau gwlad gyda'r gerddoriaeth a lluniau. Y mae'r llyfrau hyn i'w cael gan unrhyw werthwr cerdd am bris mor isel â deunaw (argrafnad llogell). Cyhoeddiadau eraill y Gymdeithas yw The Scottish Country Dance gan Jean Milligan (pris 9c.), ac Old Scottish Music gan Mrs. Shand (2/-). Rhan arall o'i gwaith yw casglu hen lyfrau, llawysgrifau a lluniau o'r dawnsiau. Yn araf a sicr, y mae'r ddawns wlad yn dyfod yn ôl i boblogrwydd, ac yn dyfod yn amheuthun ar raglenni dawnsfeydd drwy'r Alban benbaladr. Ac nid anodd cael hyd i'r rheswm am eu poblogrwydd. Twr o ddawnswyr o'r Alban a ddaeth i ddawnsio yng nghyngerdd y plant yn yr Eisteddfod Genedlaethol. W. E. FORGAN Ysgrifennydd Cymdeithas Ddawnsiau Gwlad yr Alban. Gwrandewch ar y gerddoriaeth-piano a chrwth yn canu Come o'er the stream Charlie a'r "Glenburnie Rant," neu un- rhyw ddawnsgan wlad o ran hynny,—­ac fe gyffrir ynoch awydd am ddawnsio i raddau rhyfeddol. Y mae'r dawnsiau eu hunain yn orlawn o fydr gosgeiddig ynghlwm ag ysbryd diofalwch llawen sy'n eu gwneud yn bleser i'w dawnsio a'u gwylio. Gwnaeth Cymdeithas Ddawnsiau Gwlad yr Alban lawer iawn i safoni dawnsiau oedd, GWNEUD cadwyni gyda blodau,- Plant y dolydd gwyrdd,— Hyfryd lygaid aur y caeau, Gyda milfyw fyrdd Torri gwinwydd gwyllt y cloddiau Yn eu lliwiau fflam, Mynd â choflaid o bwysïau Adre 'n ôl i'm mam. Hel y goesgoch, plant y drysi, Mynd â hwy i 'nain, Gwyddai hi y ffordd i'w berwi, A'u gwneud yn ddiod fain Tasgu'r adar yn y gwrychoedd, Chwilio'n hir am nyth, Gwn na chaf i brofi'r nefoedd Honno eto byth. Blaenau Ffestiniog. COFIO er eu bod ar arfer drwy'r wlad, eto oedd yn newid tipyn mewn gwahanol ardaloedd. Y mae'r clod am y gweddnewid hwn bron yn gyfangwbl yn eiddo i drefnydd gyntaf ac Ysgrifennydd y Gymdeithas, Mrs. Stewart o Fasnacloich, ynghyd â llawer o gynorthwywyr medrus fu'n cyd- weithio â hi er y dechrau cyntaf. Bellach daeth y Gymdeithas yn fudiad cenedlaethol, gyda'r Arglwydd James Stewart Murray yn llywydd; a'r Dduces Athol, A.S., Arglwyddes Invercljde, Arglwydd Glentanar, y Cyrnol W. D. Scott, Mrs. Anstruther Gray ac eraill yn is-lywyddion. Cyferfydd cyfarfod cyffredinol y Gymdeithas fis Hydref bob blwyddyn. Yna mynd yn ddeuoedd dedwydd At bob ffrwd a nant, Gweld y pysgod yn y llynnoedd, Dyna nefoedd plant Rhedeg adre bron â llwgu, Dros y caeau gwyrdd, Rhuad dwfn hen darw penddu'r Bwlch yn crynu'r ffyrdd. Llusgo wedi rhwygo'n dillad Yng ngwrych Cae-tan-tŷ, Gydag ysgafn fron yn wastad, Gwaetha'r ofnau lu. Llifai bywyd megis afon Drwy ein gwythi bach, Nid oes dim all dorri calon Plentyn fyddo'n iach. GLYN MYFYR.