Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gan GWYN EDWARDS. Yr Efeilliaid FY ffrindiau gorau i yw'r efeilliaid. Gymaint o gyfeillion ydym fel na ellir meddwl amdanynt heb feddwl hefyd amdanaf i. Fe'n gwelir ni bob amser yng nghwnmi'n gilydd, ac nid oes angen imi wenieithio dim i'w cael i ddyfod allan gyda mi, beth bynnag fo'r tywydd. Sut v cefais y cyfeillion ffyddlon hyn ? Crwydra fy meddwl yn ôl i'r prynhawn hwnnw yn yr Hydref, pan oeddwn flinedig ar ôl dringo'r Rhiw Fawr, eisteddais ar garreg ar ochr y ffordd. A mi'n gorffwys a myfyrio, vn svdvn cododd storm o fellt a thranau. Codais a rhedeg i gysgodi o dan onnen a dyfai ar ffin y goedwig dros y ffordd. Clyw- swn ddywedyd lawer tro fod cysgodi o dan frigau pren mewn storm o dranau'n beth ffôl dros ben, ond apeliai'r hen ddywediad, unrhyw borth mewn storm," yn fwy i mi y foment honno. Wrth edrych o amgylch tra chysgodwn, gwelais y ddau efaill. PENDERFYNAIS, os oedd modd, y buaswn yn eu mabwysiadu. Rhyw ym- deimlad euog a lanwai 'mron pan euthum i'w hôl o'u cartref yn y coed. Onid oeddwn yn eu hysgaru oddi wrth eu bywyd rhydd, a mynd â hwy o ganol bardd- oniaeth natur i fyd rhyddieithol dynion ? Golwg go wyllt a garw oedd arnynt yr adeg honno, ond ar ôl eu trin yn ofalus, nid oedd angen cywilyddio o'u plegid. Crwydrasom lawer bryn a dyffryn ynghyd, a thynnwn sylw bob amser am, y mae'n debyg. fod ein cymdeithas â'n gilydd mor anghyffredin ag i hawlio mwy na chipolwg. Bu amser pryd y teimlwn atgasedd tuag at bobl hyn oherwydd yr olwg gywrain a welwn ar eu hwynebau yr oeddwn bron yn cywilyddio am fy mod. yn wahanol i'r cyffredin, yn wastad yng nghwmni'r ddau efaill. Ond gwyddwn y byddai bywyd yn beth digon annymunol i mi hebddynt. LAWER tro teimlais yn flin oherwydd fy nhriniaeth ohonynt, yn enwedig pan awn allan ar ddiwrnod gwlyb, stormus, â chôt- o'm hamgylch i'm cadw 'n sych a chynnes, a hwythau, druain, heb eu haddasu i frwydro â'r tywydd. Chwythai'r gwynt a glaw yn eu herbyn a rhedai dŵr i lawr drostynt yn ddagrau, nes teimlwn yn euog o achosi cam iddynt. Hoff gan blant y pentre yw'n gweld ar yr heol, ac er y dylent fod yn hen gynefin â ni bellach. edrychant arnom gyda syndod yn eu llygaid crwn-agored, fel pe methent ddeall pam y mae'n rhaid imi gael cwmni'r efeilliaid o hyd. A sôn am blant, credaf weithiau fod gan yr efeilliaid ddawn neilltuol i'w diddanu a'u difyrru. Pan fo'r holl bethau a ddefnyddir i dawelu baban a fo'n crio wedi methu cyrraedd eu hamcan, os caiff chwarae gyda'r ddau efeill, fe'i diddenir ar unwaith, a mawr fydd syndod a diolch y fam. Gwas- anaeth yw prif nodwedd eu bywyd rhyw law-forwyn parhaus ydynt o dan bob amgylchiad. COFIAF imi sefyll un tro inewn mintai y tu allan i gae pêl droed, a'r dorf, yn ol arfer torf, yn anesmwyth ac yn gwthio yn erbyn ei gilydd, a chaled a fuasai arnaf yn wir oni bai am yr efeilliaid. Y mae adegau pryd y sylweddolir gwerth gwir ffrindiau, ac un o'r adegau hynny oedd hwn. Gosodais un gefaill ychydig o'm blaen, a'r llall ychydig o'm hôl, fel dau amddiffyn- nydd i'm diogelu. Gwae gefn llydan y gŵT â'r gwallt coch a'r clustiau bychain o'm blaen os byddai'n anesmwyth yr oedd dwrn un gefaill yn barod i suddo yn ei gôt o frethyn gwlad. Gwae hefyd y llanc o'm hôl oedd yn mygu rhywbeth a aroglai fel rhaff yn llosgi, os deuai i gyffyrddiad â phenelin llymfain y gefaill arall. Gelyn pennaf yr efeilliaid jw'r ci. Cyn gynted ag y'u gwêl cyfaill gorau dyn," Gan IFONWY THOMAS Stori 'Nhadcu YN unol â storïau caru fy nhadcu. y mae ffyrdd caru'n newid fel ffasiyn- nau dillad 'Slawer dydd, yn Sir Gaerfyrddin. mi fyddai dau neu dri o fechgyn ifainc yn addo cwrdd â'r un nifer o ferched. Gorau'i gyd pe bai'r merched yn chwiorydd ac yn byw gartref oherwydd cawsai'r bechgyn wedyn gwmni ei gilydd i'r man cyfarfod. Yna, ar ôl i rieni'r merched fynd i'w gwely, agorid y drws i'r carwyr ddod i mewn. Ond byddai'n rhaid i'r bechgyn ddiosg eu hesgid- iau yn ymyl y drws, rhag ofn i rieni'r merched eu clywed yn dod i mewn. Fel arfer, mi ai'r carwyr â chrwtyn bach gyda hwynt i ofalu am eu hesgidiau ac i roddi rhybudd iddynt pe clywid rhywun yn codi neu ddod at y tv. UN noson oer yn y gaeaf, yr oedd fy nhadcu a'i gyfaill wedi addo cwrdd â dwy chwaer yn byw mewn ffermdy heb fod nepell o'u cartrefi. Gwyddai pawb am dad y merched ei fod yn ffyrnig yn erbyn i'r un bachgen garu ei ferched. Ac nid heb ofn yn eu calonnau y cychwyn- nodd y ddau garwr am y fferm. Tua chanol nos, cyrhaeddwyd drws y gegin fach, a chnociwyd yn ddistaw dair gwaith fel arwydd mai hwy oedd yno. bydd yn siwr o ddangos ei ddannedd a chwyrnu'n ffiaidd. Rhaid yw hyd yn oed i Garlo Twm Prys, yr addfwynaf o gwn, godi ei gloch pan wêl hwynt. Efallai mai ymddygiad yr efeilliaid yn estyn cernod, i'm hamddiffyn ar y chwyrniad cyntaf, sydd i gyfrif am ystum greulon y cŵn. Dywedir na ellir gyrru ci i'w gongl heb iddo gofio hynny wedyn. Wrth sôn am gongl, y mae'n rhyfedd y lle sydd i'r gair hwn yn eu hanes. Y niae iddynt gongl arbennig yn y tv ger fy nghadair i, ac o gosodir rhywbeth yno yn ein habsen, rhaid i'm mam ei symud ar ft'rwst pan gljw ein sŵn ar y palmant wrth ddrws y tŷ. Y mae congl iddynt yn y capel, a chongl iddynt mewn neuadd cyngerdd ac yn y cinema, nid am eu bod yn swil, ond am na hoffant wasnaethu neb ond myfi. Y mae'n bywyd ynghlwm. MOR ansicr yw bywyd. Neithiwr cafodd un o'r efeilliaid ddamwain. Yn hwyr y nos, cerddwn dan ganu'n isel tuag adref, a'r efeilliaid mewn hwyl yn taro mesur y gân ar y ffordd galed. Daeth beic-modur cyflym o'r tu ôl. Safodd un gefaill rhyngof â'r perygl a'm hachub i rhag niwed. Ond pris drud a dalodd yr hen ffrind am ei wrhydi. Wylais uwch y darnau pren oedd ar wasgar ar y briffordd. Chwi welwch, ffyn- baglau oedd yr efeilliaid. Agorwyd y drws yn ddistaw tynnwyd yr esgidiau i lawr, a rhoddwyd hwy yng ngofal y crwtyn a ddaeth gyda hwy. Ac fe aeth y pedwar i mewn i'r gegin ffrynt, a rhoi gorchymyn i'r crwtyn aros yn y gegin ganol. YN fuan, blinodd y crwtyn ar y tawelwch. a dechrau cerdded ar draws y gegin. Gwelodd yng ngolau'r tân fod gwely cwp- wrdd yn un cornel o'r ystafell, ac yn cysgu'n dawel ynddo dri o blant. Yna aeth yn dawel i'r gegin fach ac i mewn i'r pantri. Cydiodd mewn padell yn llawn llaeth, a dychwelodd â hi i'r gegin ganol. Yn sydyn, taflodd y llaeth ar ben y plant a'r eiliad nesaf yr oedd ysgrech ar ôl ysgrech i'w clywed dros y tv. Dyma'r ffermwr i lawr gan weiddi! Yn y cyfamser, yr oedd y ddau garwr yn ceisio gwisgo eu hesgidiau, ond yn methu eu cael i fyny. A chyda hynny 'roedd tad y merched ar eu gwar, a rhaid oedd rhedeg yn droed- noeth neu dderbyn y canlyniadau. Yr oedd cyfaill fy nhadcu'n gloff, a chan chwythu, dywedodd o dan ei anadl "D—1, os caf afael ar y crwtyn yna mi a'i lladdaf Ond ni chafwyd yr un cipolwg ar y troseddwr, a gorfu i'r ddau gerdded yn droed- noeth bob cam adref. Ond ebe 'nhadcu Yr oedd yr awr felys yn werth yr helynt 'r