Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MYNYDDOG TAD ein HARWEINYDDION ein Dethlir canmlwyddiant Mynyddog y mis hwn. Hyd y gwn," meddir yma, "ef oedd y cyntaf i roi bri mawr ar arwain dawnus o ran hwyluso'r gwaith a chadw'r dorf yn dawel a difyrT GAN mlynedd yn ôl. ar Ionawr 10, 1833, ganwyd Richard Davies [ (Mynyddog) yn Y Fron, Llan- brynmair. Daeth yn amlwg drwy Gymru ar adeg y daeth arwain cyngerdd ac eisteddfod yn gelfyddyd. Gwasanaethu yn y cyfarfodydd hyn oedd camp Mynyddog. Oherwydd hynny, pethau dros dro yw ei gerddi. Ryw ddydd âi ef a chantores i'w taith mewn cerbyd, a chanodd yr englyn hwn March gwyn a merch i ganu-a gŵr coch Yn gyrru car llwyd-ddu Dyma ŵr da am yrru, A gyr i'r diawl ei gar du. Dyna ganu ar antur, yng nghanol prysurdeb teithio o gyngerdd i eisteddfod. A'r prys- urdeb hwnnw, ond odid, yw'r prif reswm mai pethau dros dro yw'r rhan helaethaf o'i farddoniaeth. Difyrru'r dorf. Medrai bob amser ddifyrru'r dorf â ffraethineb a chân-a mater y gân fyddai'n taro, yn fwy na'i lais ef. Beirniadai lawer mewn eisteddfodau hefyd ond fel ar- weinydd nid oedd ei debyg. Hyd y gwm, ef oedd y cyntaf i roi bri mawr ar arwain dawnus o ran hwyluso'r gwaith a chadw'r dorf yn dawel a difyr. Un tro, yr oedd rhyw lanc yn aflonyddu'r gynulleidfa â'i sŵn parhaus. Gofynnodd Mynyddog beth oedd yn bod. Atebodd yntau ddarfod iddo golli ei gap. Wel, yr wyf i wedi colli 'ngwallt, ond nid wyf yn cadw hanner cymaint o sŵn â 'chdi," ebe'r arweinydd. Dro arall, dringai llanc direidus un o bolion pabell yr eisteddfod ac yno galw sylw pawb ato'i hun. Dyfod Mynyddog ar y llwyfan a siarad yn hamddenol am ddat- blygiad, ac awgrymu ei fod o'r diwedd wedi ei argyhoeddi mai o'r mwnci y datblygodd dyn. A welwch chwi natur dringo yn dyfod allan ohono ? meddai, a phwyntio at y llanc direidus, natur y mwnci ydyw." Englynion rhwydd. Canodd lawer yn gaeth a rhydd. Eithr y cerddi rhyddion a'i henwogodd fwyaf. Nid oes gamp ar ei englynion. Y maent yn rhy rwydd a chyffredin, yn ôl dull y cyfnod. Wele enghraifft, i'r wenynen Mynyddog. Can D. Llewelyn JONES Llanidloes, Maldwyn O'i hannedd daw'r wenynen, — is awyr, I suo'n ei helfen Helia'i baich o fêl o ben Lluniaidd y deg feillionen. Hawdd yw canfod beth oedd ei hoff bethau. Carai natur, bro a dyn. Ac yn wir, mewn termau dynol, a thrwy bethau'r oedd bri arnynt yn ei oes, y darlunia natur, ar dro Darlithio ar brydferthwch natur fawr A wna y pistyll bach wrth ddrws y ty. Y mae'r gorllewin, adeg machlud haul, Fel prydferthwch merch yn marw Gyda rhosyn ar ei grudd. Â'r duedd hon ag ef i wrthuni, er mor wreiddiol y bo Mae natur yn curo ei gliniau ynghyd Gan annwyd ers llawer o ddyddiau. Rhyfel a heddwch. Bryd arall, gall anghofio dyn a rhyfeddu at brydferthwch natur ynddi ei hun. Yna ceir symledd plaen ac uniongyrchol ganddo Mae'r gaeaf yn oer ac yn arw, A'r nos yn dymhestlog a hir, Mae'r corwynt yn rhuo'n y derw, A'r stormydd a'u twrf uwch y tir. Ni allodd ef, mwy na llawer ar y pryd, ymgadw rhag clodfori'r ymerodraeth sydd yn addurn i deyrnasoedd." A gall ogon- eddu rhyfel pan gân am y milwr yn dymuno'i gladdu ym maner ei wlad. Ond gall ganu i heddwch hefyd a chymell dynion i beidio ag ymrestru'n filwyr. Y mae'n ogiur bod ganddo gariad mawT at Gymru a'i hanes. Y peth a apeliai ato oedd yr arfer hir o garu cân a rhyddid Ac y mae'r awen a'r delyn trwy'r oesoedd, A rhyddid yn byw ym mynwes y glynnoedd, Addurnant baradwys y byd. Rhyddid Cymru yw'r byrdwn parhaus ganddo a gwêl gân y werin, yn ei gwae a'i gwaith, yn rhwymyn cadarn i beri parhad ei thraddodiad Dysgwn oll yr hen ganiadau Ganwyd gan ein teidiau mwyn, Pan arweinient fyrdd o gadau Neu wrth wylio'r geifr a'r wyn. Canu i'w fro. Carodd hefyd ei fro ei hun a chanodd iddi. Dyna pam y mae mor hoff o ddynion naturiol, dynion sy'n byw bywyd syml, rhinweddol a doeth. Nid yw'n blino ar bregethu'r hyn y gellir ei alw'n athroniaeth bob dydd, hynny yw, y ddoethineb ymar- ferol honno y bydd mwyafrif dynion yn ei chydnabod, fel Mae ffraeo diniwed fe! cawod o law, A chariad fel haul ar ei ô!. Ac Y mae dau yn well nag un." Rhyw nwyd am ddysgu'r athroniaeth gyffredin sy'n egluro pam y cymerodd gymaint o ddiarhebion adnabyddus yn destunau i'w gerddi, fel, "Curwch yr haearn tra fyddo yn boeth," Yng ngenau'r sach mae cynhilo'r blawd," a'r tebyg. Daeth dwy linell erbyn hyn yn ddiarhebion