Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRI O'R WLADFA'N CWRDD YN YR EISTEDDFOD. Gan R.D.R. DYMA i chwi ddarlun o dri o blant y Wladfa Gymerig, Patagonia, a gyfarfu â'i gilydd yn yr Eisteddfod yn Wrecsam, ar ôl blynyddoedd o ymwahaniad. Mr. N. H. Cadfan (Nefydd up Dewi), sydd yn y canol, y mae ef yn ŵyr i un o sylfaenwyr y Wladfa — sef Cadfan Gwynedd. Brawd a chwaer yw'r ddau arall sydd yn y darlun, hwythau yn orwyrion i Archdderwydd y Wladfa yn ei ddydd—y llen-gar Gutvn Ebrill. Ganwyd y Fonesig Ida Nichols yng ngodre mynyddoedd yr Andes, mewn lle rhamantus o'r enw Nant-y-Pysgod." Enillodd ys- goloriaeth i Ysgol Sir Ffestiniog, ac y mae â'i biyd ar fynd yn Weinyddes ar y maes Cenhadol yn India. Ym miri masnach Llundain y mae'r Bonwr Aeros Nichols, ond daw yntau i dreulio'i wyliau bob blwyddyn i arogl y grug ym myn- yddoedd Meirion. Y mae eleni yn Ganmlwyddiant Mynyddog. CANEUON MYNYDDOG TRYDYDD CYNNIG MYNYDDOG (Cyfres y Fil, Rhif 2) Clawr lliain, 2'- HUGHES A'I FAB. A ddarllenasoch chwi'r rhain ? AIL GYNNIG Clawr papur, 9c. DWY WYL GREFYDDOL YN LLUNDAIN ABARNU oddi wrth y tyrfa- oedd a heidia drwy'r heolydd, gellir yn hawdd dybio bod Llundain yn llawn ac vn brysur, a'r dinasyddion yn methu ymddihatru o ofalon masnach a myned i'r wlad am ychydig o awyr iach. Ond y gwir yw fod y brif- ddinas yn fwy pohlogaidd nag unlle fel lle i ymwelwyr gyrchu iddo. Chwith meddwl am farw Syr Joseph Bradncy, Sais a ymddi- ddorodd gymaint yn hynafi- aethau a hanes Cymru a Mynwy yn arbennig, ac a gyfoethogodd ei llenyddiaeth trwy ei lyfrau gwerthfawr. Yr oedd yn aelod amlwg o Gymdeithas y Cymmrodorion a chyfrannodd lawer i'w chyhoeddiadau ac i'r wasg yn gyffredinol. Gwyliau yn Llundain. Yn y misoedd hyn gellir, o glustfeinio, glywed acenion prydferth Dyfneint a Cher- nyw, tafodieithoedd swydd Efrog a siroedd y Gogledd- bartli, ynghyda llawer llond Gan LLUDD. ceg o Gymraeg gogledd a de Cymru, ac arwyddion amlwg mai ar ymweliad y mae'r siaradwyr. Er hyn i gyd, aeth llawer o'r Llundeinwyr ar wasgar, a syl- weddolir hynny pan eir i'r eglwysi a'r capelau Cymraeg a chael bod y cynulleidfaoedd yn denau iawn a'r ysgolion Sul wedi disgyn mor isel eu rhif nes peri ymholi onid gwell fuasai eu cau yn ystod mis Awst. Cymry Mon a Dinbych. Bydd aelodau dwy Gymdeithas Sirol yn casglu at ei gilydd yn yr hen wlad. Cymdeithas Sir Ddin- bych i'w derbyn gan Faer Wrecsam yn ystod yr Eisteddfod, ac aelodau Cymdeithas y Monwysion yn ym- weld ag Amlwch, a thrwy garedig- rwydd Dr. T. Jones yn mwynhau tê a phererindod yn yr hen ynys. Daeth angau disyfyd i Mr. R. Hopkins Jones, un o'n bechgyn mwyaf addawol ym myd gwyddon- iaeth, ac aelod ffyddlon gyda'r Methodistiaid Wesleaidd yn Bruns- wick, drwy ddamwain fodur yn ymyl Llangurig. Mr. Stanley Davies. Yng Nghymru hefyd y bu farw Mr. Stanley Davies, fu'n fasnachwr llwyddiannus yn Fulham am flyn- yddoedd. Meddai ef lais cyfoethog a rhoddodd ei dalent at wasanaeth ei gyd-genedl yn Llundain. Gwas- naethai ei weinidog (Dr. Elvet Lewis) a'r Parch. James Nicholas, Castle Street, yn ei angladd yng Nghlynderwen, Penfro. Gŵr arall a'n gadawodd yn ystod y mis oedd Mr. D. J. Davies. Ilford, bachgen o Ddowlais, a weithiai yn y lofa pan oedd yn naw oed ac a ddringodd nes cyr- raedd cadair faer West Ham. Dwy wyl grefyddol. Yn fuan wedi iddo gyrraedd Llundain daeth dan ddylanwad William Booth, a bu'n ysgrifen- nydd preifat i'r hen Gadfridog, ond ymneilltuodd o Fyddin yr Ieehyd- wriaeth yn ddiweddarach ac ymroi i ddyletswyddau bwrdeisiol. Cedwir yma ddwy uchel-ŵyl gre- fyddol yn fuan wedi dechrau tymor y gaeaf, sef Cymdeithasfa'r Gogledd yn perthyn i'r Presbyteriaid Cymreig (yn niwedd Hydref), a FARATOI AT Y GAEAF YM MANCEINION. Gan HENRY ARTHUR JOXES. Y MAE rhaglen y Gymdeithas Genedlaethol am ei thymor gaeaf wedi ei chwpláu. Traddodir v ddarlith gvntaf nos Wener, Medi 29, gan y Parch. H. T. Jacob, Abergwaun. ar —" Yr Hen Godwr Canu ac Eraill. Darlithir hefyd gan y Parch. D. Tecwyn Evans. yr Athro T. A. Levi, yr Athro John Lloyd Jones, Dulyn Dr. Ifor Williams. a Mr. E. Price Evans, Hale. Bydd hefyd ddadl gyda Chynideithas Genedlaethol Gymreig Lerpwl. yn Lerpwl, ar lonawr 19. Buddugol yn Wrecsam. Aeth nifer dda o Gymry'r ddinas Wrecsam i fwynhau'r Eisteddfod a threuliodd rhai ohonymt yr wythnos ar ei hyd yno. Yr oedd ei rhaglen yn amiywiol a hwyl ar v bywyd cjmdeithasol o'r tu faes i'r Babell. Naturiol oedd iddynt deimlo'n foddhaus fod côr Sale wedi dyfod mor anrhydeddus yn y brif gystadleuaeth, oherwydd un o faesdrefi'r ddinas ydyw Sale. Daeth un wobr yn adran celf- yddyd i Fanceinion (Mr. Edward Williams), ac yr oedd cystadleuydd arall o'r ddinas yn ail ar y llaw- ysgrif addurnedig fân, a merch o Salford. Miss Evelyn Sands. yn fuddugol yn yr unawd ar offeryn chwyth. Bydd y Parchedig D. L. Rees, Ton Pentre, Rhondda, yn ym- sefydlu yn y ddinas yr wythnos nesaf, ac yn dechrau ar ei waith yn fugail capel Moss Side. Chymanfa Flynyddol yr Annibyn wyr yn ddiweddarach. Daw Sasiwn y Gogledd yma am y tro cyntaf yn ei hanes, a rhoddir derbyniad teilwng iddi. Bydd y cynhadleddau yn y fain eglwys yn Jewin a'r cyfarfod ordeinio yn y City Temple. tra pregethir ar y diwrnod olaf yn yr holl gapeli Presbyteraidd Cymreig. Wrth sôn am y Corff," bu cynnig yn yr Henaduriaeth i symud Cymanfa'r Pasg a'i chadw ar adeg arall o'r flwyddyn, ond ofnai i aelodau ymyrryd â'r hen sefydliad rhag digwydd a fo gwaeth. Rhaid ysgrifennu'r nodion hyn yn wythnos gyntaf yr wythfed mis. canys methasom wrthsefyll y demtasiwn a osodwyd inni gan yr Urdd, a bwriadwn fynd i Norwy gyda'r fordaith Gymreig. ria Wreesam. Eisoes trefnwyd dwy neu dair gwib o dref yr Eisteddfod. ond pan gyrhaeddir yr Orduna bydd hynny'n amhosibl nes glanio yn Llychlyn. A bod y môr yn gar- edig, gwyddom y ceir hwyl, canys daw cwmni difyr at ei gilydd.