Skip navigation
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Barn darllenwyr Y Ford Gron
A YDYW'R CYMRY YN
WASAIDD ?
DYWAID Mr. Tom Jones yn rhifyn
diwethaf Y Ford GRON mai cenedl
wasaidd ydym, a bod Môn yn frith o Gymry
glastwraidd.
Nid gwasaidd pob gwasanaeth, ac nid
caethwas pob gwas. Nid yw peidio â bod
yn llew yn golygu bod yn rhaid bod yn
ddafad. Nid Glastwr pob llaeth heblaw
hufen.
Y mae hanes Cymru'n wyrth ymhlith
hanes cenhedloedd y byd rhyfeddod yw
bod Cymry a Chymraeg yr hyn ydynt a
dim cymaint â Chlawdd Offa'n derfyn
rhyngom â chenedl eiddgar a beiddgar y
Sais.
Dameg i'r byd
Y mae'n hanes yn ddameg hefyd yn hanes
y byd gall Geneva edrych i mewn iddo i
weld fel y medr cenedl fod, a byw, heb
golli ei hunaniaeth yn ymyl un arall gryfach
na hi ei hun, a hynny heb derfynau daear-
yddol na milwrol yn eu gwahanu oddi wrth
ei gilydd.
Wrth gwrs, ni ellir honni bod perthynas
Cymru â Lloegr yn ddelfryd, ond gellir
honni fod iddi ei nodweddion campus. Y
mae'r clod am y daioni sydd ynddi i fynd,
beth i'r Sais, ond y rhan fwyaf i'r Cymro,
am mai ef yw'r gwannaf o'r ddau, ac mai ef
sy wedi gorfod ymostwng i'r llall amlaf.
Ond er bod y pen praffa i'r ffon gan John
Bull, eto mae Ieuan ab Ieuan yn llawn mor
anfarwol yn hanes y byd. Rhaid cymryd a
rhoi i gael cydweithrediad a datblygiad;
a'r hwn a rydd fwyaf yw'r arwr gorau.
Y Genadwri
Gogoniant hanes Cymru yw gwasanaeth
ei meibion i'r byd a phe bai'r gwasanaeth
hwn yn wasaidd, buan iawn y collsai ein
gwlad ei hannibyniaeth odidog.
Dyma genadwri Cymru i'r dyfodol, bod
yn drwyadl Gymreig a gwasnaethu ei
chymdogion a dynoliaeth yn heddychol ac
urddasol.
Hwyrach y cyll hi rai pethau nodwedd-
iadoi ohoni ei hun, ond yn ddios, bydd gan y
Cymro yn 2933 a 3933 Ie i godi ar ei draed
yn hyf a dweud Fy iaith, fy ngwlad,
fy nghenedl."
T. TREFOR JONES.
Rhuthin
Ysbryd Cymru.
Y MAE Cymru yn Gymru rydd neu'n
Gymru gaeth, yn Gymru ddewr neu'n
Gymru lastwraidd-a defnyddio gair Mr.
Tom Jones yn rhifyn Medi o'r Ford GRON-
yn union yn ôl safbwynt meddwl ei thrigolion.
Y gri ym Mhrydain heddiw yw am i
rywun godi i arwain, rhyw ddyn cryf â
gweledigaeth o'i flaen yn barod i dorri ac
i fathru er mwyn cwpláu ei gynlluniau.
Hyd y gwelaf yn awr nid oes ffordd yn
agor yn unman er gwaredigaeth; bydd i
gaethdra pen-reolaeth greu ysbryd gwyllt
am ryddid a'r rhyddid hwnnw yn ei dro
greu galw am ben-reolaeth drachefn.
Byddwn yn troi fel olwyn, ond cofiwn y
byddwn fel olwyn yn mynd ymlaen wrth
droi.
Yr ysbryd'newydd ?
Un cynllun fu mewn bod i'r Prydeiniwr
hyd yma, ein cynllun ni. Yr oedd gan
Brydain nerth i orfodi pob gwlad arall i
wneud ffordd iddi.
Ond y mae cynllun mawr amser yn fwy
na'r rhain, yr oedd mwy o rym o'i ôl a mwy
o bwrpas o'i flaen. Rhaid drysu cynlluniau
dynion a llywodraethau i wneud lle i hwn.
Y mae llythyr Mr. Jones yn dangos ffordd
meddwl sy wedi ei ddatblygu mewn oes o
genedlaetholdeb. Y mae'n methu cyrraedd
ystâd uwch cyd-genedlaetholdeb na gweld
rhagoriaeth yr ysbryd newydd sydd i
feddiannu'r byd.
Y prawf mwyaf
Y mae y dyn sy'n ceisio meithrin yr
ysbryd cenedlaethol heddiw fel dyn yn
Uamu'n ôl i'r oesoedd canol a rhedeg i un o
gastelh'r cyfnod hwnnw i ymochel rhag
tân-belennau lluoedd awyr yr ugeinfed ganrif.
Rhyfedd bod cymaint o bobl yn meddwl
mai'r prawf mwyaf o gariad at wlad yw i
ddyn weiddi'n ucbel ar bennau'r tai ei fod
yn barod i farw drosti, er nad oes alw o
gwbl arno i wneud y fath beth a bod honno'n
un o'r ffyrdd mwyaf di-effaith o wasnaethu
gwlad. Cofiaf ddysgu yn yr ysgol y geiriau
hynny
For how can man die better
Than facing fearful odds,
For the ashes of his fathers
And the temples of his gods ?
Dyna mewn pennill fach gri fawr cenedl-
aetholwyr yr oesoedd a'r gwledydd, y gri
am wneud rhywbeth a eilw'r Sais
yn spectacular" a'r peth mwyaf
spectacular mewn oes felodramatig yw
marw.
Y rhai di-stwr
Tra ydynt hwy'n gwneud hyn, y mae eraill
yn gwneud gwaith llawr anhaws yn
ddi-stŵr, sef ceisio byw dros eu gwlad.
Llawer mwy teilwng i fyw neu farw drostynt
na Uwch y cyndadau a themlau duwiau'r
gorffennol yw'r cenedlaethau di-ri sydd i'n
dilyn ar y ddaear, ac sy'n dibynnu arnom
ni am eu rhyddid o ran corff, ysbryd, a
chymdeithas.
Gwahaniaeth mawr
Y mae gwahaniaeth mawr rhwng gwlat-
garwch a chenedlaetholdeb. Y mae gwlat-
garwch yn rhan hanfodol o ysbryd dyn. Nid
cenedlaetholdeb sydd am wneud i bobl
ieuanc Cymru siarad y Gymraeg ond synnwyr
cyffredin.
Dywaid Mr. Jones yn ei lythyr fod yr
iaith yn cael ei hanwybyddu ar ein prif
gynghorau. Gan bwy ? Pobl ganol oed
sydd ar y cynghorau a'u oywilydd hwy ydyw
os yw'r iaith dan gwmwl yno. Gwn ddigon
am bobl ieuanc Cymru i ddweud eu bod yn
siarad mwy a gwell Cymraeg nag a siaradwyd
erioed gan eu rhieni.
Drwg gennyf os yw Mr. Jones wedi bod
yn ceisio dyfod o hyd i'r Cynny ieuanc
mewn carnifál. Y mae ysbryd carnifál
yn ddieithr hollol i'r Cymro. Nid oes
unpeth mwy digalon i'w weld nag ambell
Gymro wedi ymwisgo fel un o'r Tylwyth
Teg ond â golwg cynhebrwng ar ei wyneb.
J. WILLIAMS HUGHES.
Marian Glas, Môn.
"Ll" eto.
TEIMLAF yn ddiolchgar i Mr. A. F.
MacLean am ateb fy llythyr a'm gofyn-
iadau. Nid oedd seiniau cul a seiniau
Uydain yr Aeleg yn hysbys namyn i ychydig
ohonom. Yr vm tan ddyled i'n cyfaill am
gyfeirio'n sylw atynt.
Cyfeiria Mr. MacLean at ddisgrifiad Syr.
J. Morris-Jones o'r sain 11 Gymraeg. Yna
awgryma gasghad nas cyfiawnheir gan y
ffeithiau. Nid sain daflod mohoni ac jmn-
hellach fe'i chwythir yn egnïol.
Mi fûm yn sgwrsio ag Eidalwr o Aber-
ystwyth ynglŷn â'r gl Eidalig, ac fe fu yntau
mor fwyn â seinio gli, egli, a geiriau tebyg.
Y gwahaniaeth cyntaf rhwng y sain hon
a'r Gymraeg yw bod y Gymraeg yn untu
a'r sain Eidalig heb fod felly yn gyffredin.
Y mae gwahaniaeth hefyd yn y fan gynhanu.
Ymddengys mai sain o fôn y dannedd yw'n
11 ni; eithr sain o daflod y genau yw'r sain
Eidalig. Dwy gytsain daflod yn unig sydd
yn y Gymraeg, sef y Ued-lafariad i mewn
geiriau fel ias, a'r hi a geir weithiau mewn
geiriau fel hiaith, fel yr yngenir hi gan rai
Cymry.
Y mae'r trydydd gwahaniaeth yn y dull
cynhanu. Sain ochr yw'r sain Eidaleg,
sain ochrol-laes yw'r Gymraeg.
Mi gymherais U a'r gl Eidaleg am fod
yr awdurdodau Gaelig yn dweud bod eu
l gul hwy'r un fath a'r gl Eidaleg. Tybed
a oes ychydig rwbiad i'r sain mewn rhannau
o'r Alban ?
Y mae'r l iydan yn berthynas nes i'n sain
ni, a barnu wrth ddisgrifiad Mr. MacLean
ohoni. Fe ganfyddir ei fod yn gwahan-
iaethu rhywfaint oddi wrth Mr. George
Henderson yn ei ddisgrifiad ohoni, ond fel y
dywaid, ei farn ef ei hun sy yn ei lythyr.
Fe sylwir nad yw'r hon yn untu fel yn y
Gymraeg.
Gan fod ein cyfaill wedi cyfarwyddo cryn
lawer ohonom ynglŷn â'r sain Aelig, gwych
o beth, petai rhyw Wyddel neu frodor o
Ynys Manaw yn rhoi disgrifiad inni o'u l
ddilais hwythau.
Dywaid Syr John Rhys ym Manx
Phonology, tud. 147, fod yr hl yn dua IÀieau
(dau fynydd) yn seinio'n debyg i'n sain ni.
Dywaid yr Athro T. Gwynn Jones wrthyf
ei fod ef wedi clywed yr U Gymraeg ym
Munster, Iwerddon.
GLANMOR DAFIS.
Ceinewydd, Ceredigion.
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for non-commercial purposes only while respecting the moral rights of the creators.