Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I Ddifodi Rhyfel, Difoder Arfau meddai ITHEL DAVIES A bertawe Fe wnaiff pob cythrel filwr ond rhaid cael dyn da i wneuthur heddwch. (Sion Cent) PE gofynnid i werinoedd y byd-y gwerinoedd sy'n porthi. yn dilladu. ac yn diddanu'r byd — ddewis rhwng heddwch a rhyfel. nid oes amheuaeth i ba ochr y troai'r fantol. Eithr i rai, busnes ydyw rhyfel. Am ganrifoedd. fe sylfaenwyd perthynas gwledydd â'i gilydd ar dybiau a ffeithiau rhyfel a thrin ei gilydd ar dir grym yn fwy na rheswm. Chwarae brenhinoedd a phen- defigion fu, a'r gwerinoedd diniwaid yn lladd a difetha'i gilydd, a chyfiawnhau hynny ar gelwyddau gwasg, pulpud a llwyfan. Gwareiddiad Eiddo Y mae'n gwareiddiad ni wedi ei sylfaenu a'i drefnu ar berchnogaeth eiddo yn hytrach nag ar ymwybod perthynas dyn â'i gyd- ddyn. Y mae'r awdurdod, y gallu a'r gogoniant Ue mae'r eiddo a'r cyfoeth. Trech gwlad nac arglwydd yr ydys yn aU-feddwl am safonau gwerth, a phan eniUo'r gwerinoedd hunan-barch bydd darfod am ryfel. Ni buasai ryfel oddieithr bod gwerin ddwl a difeddwi. Y gobaith gorau a feddwn rhag dinistr eithaf yw bod yr awdurdod yn newid dwylo, a bod tuedd bendant i wneuthur y byd yn un yng nghyfamod ei werinoedd, cyfamod economig ei wreiddiau ac ysbrydol ei gyr- aeddiadau. Masnach rydd — methu Fe fethodd masnach rydd ddwyn i fod yr heddwch a ysbrydolai ddynion fel Henry Richard ac S.R.. ac fe ddylem holi a oes rhyw amodau economig neu wleidyddol yn debyg o sicrhau heddwch. Masnach rydd neu ddiffynodollau—dwy agwedd i'r un ysbryd ydynt, hollol amddifad o'r deall sy'n rhaid wrtho i fagu'r ymddiried na ellir heddwch hebddo. Yr oedd golygydd papur newydd yn y de ychydig amser yn ôl yn gorfoleddu bod tollau newydd yn mynd i daro'r tramorwr a'i gosbi—i'w ddarostwmg a'i dlodi-yn arbennig yr Amerig. Dyna'r ysbryd mwyaf annheilwng y gwn i amdano. Yr enillwr yn colli Ni all dim rhesymol ar y ddaear gyfiawn- hau rhyfel. Y mae'r sawl sy'n ennill yn colli cymaint os nad mwy na'r sawl sy'n colli. Meddai Edouard Herriot yn ei lyfr ar Daleithiau Unedig Ewrob Gadewch inni godi'r Uen a syllu i wyneb y ffeithiau. Ni allwn ddwyn i'r golwg yn rhy aml fantolen ysgeler cigyddiaeth, oherwydd distaw ydyw angau. Fe drengodd 8,500,000 0 Ewropeaid yn y storm, a chynnwys pawb, yn ystod y pedair blynedd a hanner wallgo. Hwynt-hwy oedd yr ieuengaf a'r cryfaf o'r Ewropeaid, felly'r oedd y golled yn ddifrifolach o ran ansawdd nag ydoedd o ran rhif. Ac y mae'r hyn sy'n weddill o Ewrob yn cysgodi'r bodau clwyfedig, claf neu nychlyd, a fylchir yn ddistaw gan angau, y naill ar ôl y llall, o'r cartrefi lle maent yn ceisio ail adeiladu bywyd. Y mae rhyfel yn ei effaith fel vn ei wraidd yn wrth-gymdeithasol. y mae anghydfod yn gwanychu fel y mae undeb y nerthu. Nid yw rhyfel yn pennu dim, namyn pwy sy drechaf. Ni all rhyfel benderfynu lle mae cyfiawnder. Balchder ac anwybodaeth Nid oes un rhyfel nad yw'n ddiweddglo trychinebus un ai i falchder trahaus neu i anwybodaeth. Nid oedd rhyfel 1914—1918 yn eithriad. Ac nac anghofier bod arnom ni gyfran o'r cyfrifoldeb. Nid peth i geisio'i gadw, ychwaith, yw heddwch amod heddwch yw cyfiawnder a barn resymol. Y mae cenhedloedd yn awr wedi eu tynnu at ci gilydd o ran amser a phellter ac y mae'r ymwybod yn cyffro ym mynwes dynion fod yn rhaid cael heddwch. Arwydd o'r ymwybod hwn yw Geneva, lle'r ymgyn- null y cenhedloedd i senedd rhag darfod amdanynt gan wae anaele rhyfel. Fe gafodd cylafaredd ei brofi ddigon, heb erioed fethu. 0 ddyddiau Cytundeb Jay yn 1794, a'r Cytundeb Sant yn 1815, fe sythwyd yn agos i bum cant o anghydfodau drwyddo. Mewn naw mlynedd fe bender- fynwyd 32 o achosion yn y Llys Barn Cyd- wladol sefydlog, a 21 yn hen Lys Cylafaredd Yr Hag a gychwynnwyd yn 1899. Y mae eisiau ewyllys i barhau'r gwaith. Y mae'n rhaid i Brydain. a phob gwlad yr un ffunud. feddwi llai am ei hynierodraeth a mwy am y byd. Uno dynion yn un gymdeithas gref fydd gwaith y dyfodol. heb dynnu ei hannibyn- iaeth oddi wrth yr un genedl na gwlad. Y mae ffiniau llywodraethau'r byd yn rhwym o gael eu dileu. Deall yn erbyn Dinistr I gael ymddiried y mae'n rhaid dinistrio arfau, canys tra fo dynion yn pwyso ar arfau dinistr ni cheisir deall. Onid oes gennym ni well meddwl ohonom ein hunain ac o'n cymdogion nag a welir yn ein cyfun- drefnau byddin a'n gwario ar baratoadau i ddifetha'n gilydd? Rhaid nerthu'r ewyllys i fyw'n beryglus er mwyn heddwch. Rhaid galw'n bendant am heddwch ac am ddiarfogiad llwyr. Canys yn nwylo ffyliaid anghyfrifol, y mae arfau'n berygl a'u presen yn demtasiwn. Eleni yw cyfle'r cenhed- loedd.