Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CORGI DYFED yn Dyfod i FRI YMAE'R Corgi, y ci gwarthcg bach Cymreig, wedi dyfod i'r amlwg. Fe fu'n rhedeg wrth sodlau gwartheg a merlod yr amaethwyr ar y mynyddoedd am oesoedd heb neb yn gwybod dim amdano y tu allan i'w gylch ei hun. Eithr gyda'r ysfa ddiweddar am ddar- ganfod rhywogaethau newydd i'w cyflwyno i bobl sy'n hoff o gŵn, fe duriwyd y Corgi o'i ddinodedd. Bellach fe anfonir v ci swynol ac angyffredin yr olwg hwn i lawer o wledydd pell ac y mae'n ennill mwy o edmygwyr bob dydd. Y sioe fawr Fe'i harddangoswyd gyntaf yn Arddang- osfa Gŵn Ryng-genedlaethol Cruft's, Llundain. Fe gedwir yr arddangosfa hon, a sylfaenwyd gan Charles Cruft yn 1884, yr ail wythnos yn Chwefror bob blwyddyn yn y Royal Agricultural Hall, Llundain. Fe ddangosir yno dros 4,000 o gwn yn flynyddol, ac y mae'r Brenin, y Frenhines, Tywysog Cymru, a'r Frenhines Victoria ymysg y rhai fu'n dangos cŵn yno. Ei noddwr yw Duc Beaufort. Taeru amdano Er i'r Corgi ymddangos yn Nhŷ Cruft's saith mLynedd yn ôJ, ac er ei ddangos mewn llawer o'r arddangosfeydd mawr, fe fu'r cyhoedd am hir yn methu dirnad beth yn union oedd y gwir Gorgi Cymreig. Fe gynhyrchid Corgwn digynffon yn Sir Benfro a'u galw y Corgi gwreiddiol; fe haerai Ceredigion mai'r gwir Gorgi oedd hwnnw â chynffon hir, cudynnog iddo. Uchel y bu'r dadlau a'r taeru ym myd y cŵn pa un ai cynffon hir, ai cynffon byr neu ynteu ddim cynffon o gwbl a ddylai fod gan Gorgi. Yr oedd un peth yn sicr, cynffon neu heb gynffon, yr oedd y Corgi'n gi hynod o hynafol ei rywogaeth, oherwydd fe geid sôn amdano cyn belled yn ôl â 1000 ôl-Crist yng Nghyfreithiau Hywel Dda. Y mae rhai hyd yn oed yn meddwl mai ef yw ci gwreiddiol Gan JANE BEVAN y Brythoniaid a'i fod yma cyn goresgyniad y Rhufeiniaid. Dros gannoedd o fljmyddoedd, fe fagodd amaethwyr Cymru y cŵn hyn i wneud gwaith caled iawn ar eu tyddynnod. Yn llawer o'r broydd anhygjTch, fe arhosodd y cŵn yn bur o waed am y rheswm syml mai hwy oedd yr unig gŵn a geid yn y cylch ac nid oedd ieuo anghymarus yn bosibl. Y mae'n eithaf posibl i amaethwyr Ceredigion ac amaethwyr Penfro ddat- blygu eu math arbennig hwy o gi, y naill â chynffon hir a'r llall â chynffon byr. Fe ddywaid gwyr Ceredigion fod pallu cynffon yn andwyo cytbwysedd y ci wrth droi, a'i fod felly dan anfantais i wneud sodlwr da. "r Pibwr L/tcyd," Corgi buddugol o Geredigion (uchod) ac isod, Corgi buddugol o Sir Benfro. Dyna fu gwir waith y Corgi yn yr amser gynt, sef sodli'r anífeil- iaid. Dyna oedd ei enw un amser-y Sawdlwr. O achos hynny fe'i meithrinwyd yn isel, agos i'r llawr. Fe'i gelwid weithiau y Ci Llathen am fod llathen o hyd rhwng blaen ei drwyn a diwedd ei gynffon. Y mae awdurdodau byd y cŵn yn awr wedi penderfynu bod ì w cydnabod ddau fath gwahanol o Gorgi, ci Ceredigion, gyda'i gynffon hir a blew o unrhyw liw heblaw gwyn pur a chi Penfro gyda chynffon byr a blew coch neu goch a gwyn. Y mae i'r ddau fath ei glwb gwahanol a'i safon barnu ym myd y cWn. Oherwydd y cyfnewidiad mawr fu yn ein dull o amaethu yng Nghymru, yr oedd y Corgi'n cyflym ddiflannu. Fe fydd yn dda gan bob un fu'n cadw ac yn caru un ohonynt glywed bod y rhywogaeth wedi ei hatgyfodi. Creadur henffel Oherwydd y mae'r creadur bach henffel hwn yn gi tý ardderchog, yn heliwr rhagorol, ac yn gydymaith ffyddlon. Y mae'n serchog ac o dymer gwastad. Y mae'n galed fel cneuen ac y mae ei flew yn hawdd eu cadw'n Lân. Yn wir, mor hoff o lanweithtra ydyw'r Corgi nes eistedd a'i lyfu ei hun yn lân, fel cath. Yr oedd hen amaethwyr Cymru yn siwr o'u pethau pan fu iddynt hwy ddatblygu'r Corgi.