Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DAFYDD HUWS yn ail-afeel ANNwYL GYFEILLION GwLATGAR, Ar gais llu o ynfydion, gelynion, anwar- eiddiedigion, colledigion a chrach gybybion, dyma ail gychwyn y Dyddiadur. Fe welwch oddi wrth fy narlun, fy mod wedi heneiddio'n arw er pan welsoch fy wyneb ym mis Gorffennaf. Poen a thraff- erthion yr hen fyd yma sy'n gyfrifol am hyn. Hwn yw'r byd mwyaf annheg y bûm i'n byw ynddo erioed. Mi gollais y goron eto eleni, trwy gamwri. Ond mae byd gwell yn fy aros, a choron yn drwm o berlau a diamwnt ond gwawdio'r syniad mae Catrin. Oes, mae tunelli o block diamonds yn dy aros," meddai, gan ychwanegu mai'r pethau tebycaf a welaf i berlau fydd talpiau o chwys ar fy nhalcen. Dymuniad Catrin yw hynny, er i mi fod yn yr un man â hi. DAFYDD Hrws. Y Dyddiadur, Mis Medi. GwENER, 1 Derbyn llythyr oddi wrth olygydd Y FoRD GRON, yn fy sicrhau na fuasai fy enw gyda'r anfarwolion, oni byddai imi ganlyn ymlaen gyda'r Dyddiadur. Anfon yn ôl ato y byddai'n well gennyf i'r bobl holi pam nad oedd fy enw ar y rhestr, na pam yr oedd yno. Dim atebiad. SADWRN, 2 Cael hwyl ar werthu Canter- bury Lamb." Rhoi ticed yn y ffenestr yn hysbysu fod gennyf ddarnau o gig i siwtio pob pwrs. Cwsmer yn galw, a holi am ddarn i siwtio pwrs gwag. Rhoi cold shoulder iddo. SuL, 3 Seion y bore. Myfyriwr. Cael gol- euni newydd ar Peilat wedi arfer meddwl mai capten llong oedd yr hen frawd. Adre'r nawn a'r hwyr, — gwneud cyfrifon a thrwsio'r ddrôr arian. LLUN, 4 Dim busnes. Trafaeliwr yn galw a holi sut oedd y busnes, â llais uchel. Ei annog i siarad yn fwy tyner wrth sôn am yr ymadawedig. MAWRTH, 5: Gwraig y Foty'n galw i dalu swllt ar y pram a brynodd acw. Gan mai hwn oedd y swllt olaf, dweud wrthi fy mod yn gofidio colli cwsmer mor ffyddlon gyda'i thaliadau. Holi sut oedd y plentyn. "O," meddai, mae o wedi priodi ers wythnos." MERCHER, 6 Cwsmer yn gofyn am goed tân. Ei sicrhau os byddai busnes yn dal rhywbeth yn debyg, y buasai yn cael y ddrôr arian yn goed tân yn lled fuan. Iau, 7 Plentyn yn galw i geisio gwerth dwy geiniog o driag rhydd. Y triag braidd yn hen, a rhoi llond y jwg iddo. Holi am ei ddwy geiniog. Yntau'n egluro fod y pres yng yn ei Ddyddiadur Acw, Medi, 1933. ngwaelod y jwg. Torri twll yn ei waelod a chael y ddwy geiniog, ac annog y plentyn i ddal ei law tan y llestr rhag i'w fam gael colled. Gwener, 8 Mynd i'r Betws gyda'r bws. Parsel enfawr ar fy neulin. Holi'r ticedwr beth oedd y pris. Ebe'r gŵr hwnnw Chwech cheiniog i chwi, a naw ceiniog am y parsel." Agor y parsel, a dweud wrth Catrin ei bod yn rhatach iddi eistedd ar y sedd. SADwRN, 9 Cwsmer yn cwyno fod y Canter- bury Lamb a gafodd yr wythnos cynt yn wydn iawn, ac iddi bron iawn wadnu esgidiau ei gŵr gydag ef. Gofyn iddi pani na fuasai wedi gwadnu'r esgidiau, — hithau'n ateb ei bod wedi ymdrechu'n galed, ond fotl yr hoelion yn gwrthod mynd trwodd ac yn plygu bob tro. Ci yn dwyn coes o'r siop. SuL, 10 Seion y bore a'r hwyr. Pwyllgor ar ôl i drefnu i gael blinds newydd yn y festri. Dweud y buaswn yn mynd yn gyfrifol am gael rhai newydd fy hunan, a fy mod wedi cael rhai newydd i'r ty a'r siop trwy ddodi bocs ar y cowntar a cherdyn arno—for the blind. LLUN, 11 Galw yn swyddfa Mr. Swindle, y twrne. Ei holi a fyddai'n bosibl imi erlyn perchennog ci oedd wedi dwyn coes o gig oen o'r siop. Mr. Swindle yn dweud yn bendant ei bod. Egluro iddo mai ei gi ef oedd y lleidr. Beth oedd gwerth y goes. Dafydd Huws ? ebe'r twrne. Pum swilt," meddwn. Saith a chwech ydi fy nhâl i am gyngor, felly mae arnoch chwi hanner coron i mi." Talu, a diolch iddo am fod mor foneddigaidd a rhes- ymol. MAWRTH, 12 Isaac yn sôn am ymadael i siop arall. Gofyn a fuaswn yn rhoi cymeriad iddo. Ei holi p'le 'roedd y cymeriad a roeswn iddo fis yn ôl pan oedd yn ymgeisio am swydd arall. Yntau'n dweud iddo'i golli, noson ffair y Betws. Ysgrifennu un arall iddo Yr wyf yn adwaen Isaac Elias ers llawer o flynyddoedd. Y mae'n llanc ufydd. Collodd ei gymeriad noson ffair y Betws. MERCHER, 13 Yn Llanfair у gwasgodau gwynion. Chwilio am ferlen. Cigydd o Dre- lloi yn codi'r pris, a llwyddo i'w chael. Cofio fod Trelloi yn enwog am ei faco, fod yno ffactri fawr, a darllen rhyw dro fod samplau rhodd i'w cael ond anfon cerdyn. Chwilio am blisman i fynd i gyrchu samplau imi. Gŵr y dillad glas yn holi pwy oeddwn, ac o ba Ie y deuthum. Egluro iddo, a dweud mai un o Lanarfon oeddwn. Gefaist ti dv ddwyn i fyny yno," ebe fe. Do," meddwn. "Sawl gwaith." meddai. Ei adael, a phen- derfynu bod rhyw goll arno. Iau, 14 Derbyn llythyr oddi wrth y cigydd, yn cynnig y ferlen imi am yr un bris ag a dalodd yntau. Anfon telegram iddo Send merlyn now, sooner than possible. Sending post with cheque." Isaac yn hwyr yn dod at ei waith. Egluro'i fod wedi syrthio i lawr y grisiau. Rhoi siars iddo, gan mai esgus wael oedd ganddo. Gan na fuasai'n cymryd llawer o amser i syrthio i lawr y grisiau, os rhywbeth, y dylsai fod yn gynt nag arfer. GwENER, 15 Y ferlen yn cyrraedd mewn horse box." Wedi marw. Mewn penbleth sut i gael gwared â hi. Gŵr dieithr yn galw a gofyn a fuaswn yn newid cheque iddo. Gwrthod yn bendant, a dweud wrtho na fuaswn i ddim yn newid cheque i'm brawd. Yntau'n ateb, 'Rwyt ti'n adnabod dy deulu'n well na mi." Rhyw ateb digon di-bwynt. SADWRN, 16 Mynd i fesur am siwt newydd. Egluro i'r teiliwr na fuaswn yn talu iddo am bedwar mis. Popeth yn dda," meddai. Gofyn iddo pa bryd y buasai'r siwt yn barod. Ymhen pedwar mis, Dafydd Huws," meddai gẁr y siswrn mawr. Gwrthod y siwt. SUL, 17 Mari'n edliw nad oeddym wedi cael holide eleni. Cychwyn am y Rhyl. Cael hwyl yn y ffair wagedd. Dyn yn gwthio tair pêl bren i'm dwylo. Three balls for sixpence," meddai, gwobr bob tro." Rhoi chwech iddo er mwyn tawelwch. Taro cloc mawr yn deilchion gyda'r bêl gyntaf; torri ci tegan yn ddarnau, a malu lamp enfawr yn chwilfriw,— ond gŵr y peli'n gwrthod yn bendant roi cetyn clai imi'n wobr. Cael te yn y Savoy." Y lle'n orlawn o Saeson. Diosg fy nghot uchaf i 'molchi. Dychwel a gweld bod rhywun wedi gwneud darlun o ben mul gyda sialc ar fy nghot. Holi pwy ohonynt oedd wedi'i defnyddio i sychu'i wyneb. Tro bach ar y prom. Hoffi'r Peach Bananas." Sylwi bod pethau'n newid merched yn gwisgo amdanynt i fynd i gysgu, ac yn diosg eu dillad i droi allan. [I dudalen 286.