Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gan teßwch yn ofalus ryw T. A. WILLIAMS, droedfedd dros ben y fan lle cwyd y pysgodyn acw a Llanofer, Mynwy thynnu'r bluen dros ei ben yn gyflym Gwialen a P blu uwch Llyn o Dawr HWYRACH fod pob afon yng JL yghymru ar ryw amser yn nodedig am ei brithylliaid. Yn y de v dyddiau hyn y mae'r afonydd yn dduon gan lwch glo ond cofir eto gan lawer pan ellid dal basgedaid o frithylliaid yn yr afonydd hyn. Byddaf yn ami yn cau fy llygaid ac yn ceisio gweld y dyffrynnoedd fel yr oeddynt gan mlynedd yn ôl. Lle tebyg i Gwm Pen Llafar, Lle nad oes lei, Ond ambell fref A Duw, a sẃn y dŵr, oedd Cwm Rhjmni. Nid yw'r bryniau vn y de mor uchel â mynyddoedd Arfon, ond yr un oedd glesni'r caeau, a'r un oedd gwyngalchiad y tai. Tenau oedd y boblog- aeth, ac yr oedd digon o frithylliaid yn yr afonydd a'r aberoedd. Tybed fod cymaint o bysgota ymysg bechgyn y dyddiau hyn â phan oeddwn i'n fachgen bach yn yr ysgol ? 'Wn i ddim. Hwyrach fod oes y peiriannau wedi mynd â'u bryd oddi ar y llechweddau, a hyfrytach iddynt y ffordd galed, unionsyth, lle gellir symud yn gyflym gyda'r beic modur. Yn ddiamau gwyr bechgyn ieuainc yr oes hon lawer mwy am leoedd pell o'u cartrefi nag a wyddem ni pan oeddym ieuainc, ond hwyrach na wyddant gymaint am y bryniau a'r mynyddoedd o gwmpas eu cartrefi eu hunain. Dringem ni'r mynyddoedd gan ddilyn llwybrau'r defaid. Croesem y corsydd Ueidiog wedi i'r haul fachlud, a gwyddem yn burion lle 'roedd y tonennydd peryclaf, a lle y suddodd llawer merlen fynydd. Ac er iddi dywyllu lawer tro, a ninnau 'mhell o dre," ni ddeuai'r un arswyd drosom. Delid ni gan niwl trwchus weithiau, a hawdd oedd colli'r ffordd. Cofiaf golli fy ffordd un tro wrth ddychwelyd o Gwm yr Afon Goch heibio i'r Gyrn a'r Foel Wnion. Wedi blino ? Ie'n ofnadwy, ond yr oedd gennyf ddau ddwsin o bysgod yn y fasged. Pysgod meddal oedd pysgod y Afon Goch. Delid y pysgod gorau yn Afon Ffrydlas. Graean glân oedd ei gwely hi. Fe ddywedai'r hen bobl fod tri lli yn Awst. Gwyliem ninnau'r rhain yn ofalus. Chwiliem am bryfed genwair yn y tyweirch a'r tomennydd. Ac wedi eu cael, ffwrdd â ni ben bore wedi gwisgo hen ddillad a hen esgidiau, am y mynydd. Byddai'r afonydd bychain yn goch gan li, ac yn ami gwlychem at y croen cyn pen ychydig funudau-y bach yn gafael mewn tywarchen neu rhwng y cerrig, torri'r llinell, a cholli popeth. Syrthio ar y creigiau a briwo'r coesau. Yna troi tuag adref, heb ddal dim. Ond ceid nosweithiau hafaidd ym Mehefin a Gorffennaf, a gellid aros ar lethrau'r bryniau hyd hwyr y nos. Rhoddid tair pluen ar y llinell-llwyd corff main, petrisen corff lliw gwin, a phiuen goch corff du. Ni wnâi'r tair hyn ond ar rai o'r afonydd. Gwyddem i raddau beth a ddaliai, a chwipio â'n holl egni bob llyn bach. Bychain oedd y brithyll a godai atynt­ dim ond rhyw chwe modfedd o hyd, ac os delid brithyll go lew byddai sôn am y sgodyn chwarter a godwyd o'r llyn a'r llyn am fisoedd. 0 hynny ymlaen, eid at y llyn hwn yn wylaidd, gan guddio tu ôl i'r cerrig, a thaflu iddo'n ysgafn a deniadol. Yn ystod gwyliau'r haf ceid diwrnod ar un o'r llynnoedd mawr,—ar Lyn Ogwen neu Idwal. Ni ddeliais i'r un pysgodyn yno erioed. Ond gwyddwn yn dda am y pysgot- wyr mawr a ddaliai rai yno. Pregethwyr galluog a chwarelwyr hirben oedd y rhain. Gallent hwy daflu llathenni o linell heb drafferth, a sonient hwy am ryw bry sych na wyddwn i ddim byd amdano yr adeg honno. Bûm yn Ffynnon Lloer hefyd, a'i hwyneb heb grych arno, ac yn Ffynnon Llugwy lle delid os byddai'r gwynt o'r de. A dyna Lyn Bochlwyd. Onid yno yr â'r pysgod ar eu pennau i lawr i'r dyfnder pan deimlant 1 y bach yn eu pennau ? Nid hawdd dal < creaduriaid gwyllt. « A beth am bysgota oddeutu Aberystwyth ? Lleoedd hyfryd yn y bryniau tawel, ymhell o ddwndwr y byd. Llynnoedd llonydd, a'r pysgod yn gorwedd yn dawel dan wyneb y dwr drwy'r dydd, ac yn codi eu pennau gyda'r hwyr i ddal pryfed yr hesg. 'Welwch chwi neb o gwmpas y Fron Goch, ond defaid ac adar y mynydd. Ac os ewch i Ddinas Mawddwy cewch hwyl fawr meddir, a gwn am rai â swyn yr afon yng Nghorris yn eu gwaed. A phwy o'r rhai a ŵyr am lannau Gwysg yn hwyrddydd haf a all anghofio sŵn neidio'r pysgod wrtb y glannau ? Llawn yw hi o bysgod mawr, a chrefft yw eu dal. Wedi i'r haul fachlud dros Ben-y-fal a mynyddoedd Duon, ewch â'ch pry sych —ni waeth fawr beth fo'r bluen-a theflwch yn ofalus ryw droedfedd dros ben y fan lle cwyd y pysgodyn acw, a thynnu'r bluen dros ei ben yn gyflym, ac fe'i cewch. Fe ddaw amdani, ac o'i gael, deliwch ar i ben; 'Welwch chwi o'n tynnu i fyny'r tfon, yna ar ei thraws ? Ond deliwch arno 1eu fe'ch twylla chwi. Yn araf tynnwch ef mewn, rhowch eich rhwyd dano, a dyna e'n bysgodyn braf hanner pwys neu dri- hwarter i'w gario adref a dangos mor gyflym y buoch yn ei ddal.