Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YNYS A ADAWYD GAN EI BRENIN Pe cawn i egwyl ryw brynhawn, Mi awn ar draws y genlli. A throi fy nghefn ar wegi'r byd, A'm bryd ar Ynys Enlli. —Т. Gwynn Jones (" Caniadau "). FE dyfodd Ynys Enlli yn amlwg drwy'r wasg. Pan fydd tywydd garw'n parhau am bythefnos neu dair wythnos heb ostegu, odid na'n hysbysir fod yr ynyswyr wedi eu carcharu yno ac yn methu teithio i'r tir mawT i geisio nwyddau. 0 Ben Lleyn y mae Enlli'n edrych fel rhyw lygoden fawr couchant, gyda bryn ltyfn-grwn Mynydd Enlli-548 troedfedd uwchlaw'r môr-yn gefn iddi, a'r orynys wastad. lle mae'r goleudy, yn gynffon iddi. Y mae'r rhan gyfaneddol, amaethyddol o'r ynys yn wynebu'r môr agored, a Mynydd Enlli yn ei chuddio 0 olwg Pen Lleyn. Y porthladd agosaf yw pentref Aberdaron, bum milltir draw fel yr hed y frân—ond y mae'r amser a gymer y fordaith yn gwa- hanu cryn lawer yn ôl ystâd y llanw a'r tywydd. Amaethu a Physgota Y mae'r cychod hwyliau a rhwyfau bellach wedi rhoi lle i gychod-modur, ac oni bydd y tywydd yn frwnt iawn, teithiant yn aml rhwng Aberdaron a'r ynys yn ystod yr haf ac unwaith neu ddwy bob wythnos yn y gaeaf. Fe all cwch groesi ar dywydd ffafriol, hafaidd mewn 45 munud; yn nyddiau rhwyfo, cymerai awr a hanner neu ddwy awT. Ar wahân i'r gofalwyr am y goleudy (sy'n cael eu symud yn gyson) y mae o 30 i 40 o bobl yn trigo ar Enlli. Amaeth- yddiaeth a physgota yw gwaith y gwyr tyfant gnydau a magant wartheg ac y mae Mynydd Enlli'n borfa dda i'w defaid. Dal cimychiaid, y mae'n debyg, sy'n talu orau i'r pysgotwyr. Cafn Enlli yw'r Gan Seisyllt i AP HUW Enlli, ynys ar gyffiniau Sir Gaernarfon, sydd tua milltir a lianner o hyd a thua milltir ar draws. Nifer y trigolion yn y flwyddyn 1740 oedd 40 a'r rhent oedd 40 punt. Y mac wedi ei gosod yn awr am 100 gini ac ym mis Awst, 1798, yr oedd yno 60 o drigolion yn byw mewn deg o dai. Y mae o'r tu allan i unrhyw blwyf, wedi ei rhyddhau oddi wrth ddegwm a thretìi. Cofnodir genedigaeth a chladd- edigaeth y trigolion yn Aberdaron, ac y maent wedi eu gwahanu oddi yno gan sianel gyflymi, bum milltir o led eu tref fasnach yw Lerpwl, dros 50 milltir i ffwrdd. Cynnyrch yr ynys yw gwartheg, defaid, tatw, ceirch a haidd. —О hen lyfr ar amaeth a masnach yng ngogledd Cyniru, gan Wallter Mechain, a gyhoeddwyd drwy orchymyn y Bwrdd Amaeth. enw ar eu harbwr bach ac weithiau daw rhyw long fechan, tipyn mwy na chwch pysgota, yno am loches neu am seibiant. Y mae tý addoli ac ysgol ar yr ynys hefyd. Cludir y cynnyrch sy dros ben eu hanghen- ion ar yr ynys dros y môr i Aberdaron er mwyn ei anfon i farchnad Pwllheli neu ymhellach-ond digon o waith yr â llawer heblaw ambell gimwch, cyn belled â march- nad Lerpwl-tua 130 milltir i ffwrdd. Codi'r anifeiliaid Weithiau hefyd bydd yn rhaid cludo gwartheg neu deirw o'r ynys neu iddi; wrth fynd oddi yno dônt â'r anifeiliaid i lawr i'r Cafn ac yno codir hwynt i mewn i ;wch llydan, dwfn, sy wedyn yn cael ei lynnu gan gwch-modur i Aberdaron. Y mae bron pob gŵr ar yr ynys yn dyfod lawr i'r Cafn i roi cymorth braich a llaw yda'r gwaith yma—gafael yng nghoesau flaen neu ôl yr anifail (pa rai bynnag fydd nwyaf cyfleus) a chodi un hanner dros ochr y cwch—yna'r un modd gyda'r gweddill o'r mifail. i "Sownd" peryglus Adnabyddir y sianel sy'n gwahanu Enlli addi wrth Sir Gaernarfon y dyddiau hyn yn Sownd Enlli," ond yr hen enw Cymraeg imdano yw Ffrydlif Caswenan, neu weithiau Gorlifiad Caswenan. Y mae'n dramwyfa berygl a bradwrus gyda'i cherrynt cyflym ac oriog. Y mae'r creigiau ysgvthrog i ogledd yr ynys ynghudd ar lanw ac felly mae'r trafnid i gyd yn morio i'r de a'r gorllewin. Y mae modd i longau fynd drwy'r Sownd gyda gofal ac os yw'r capten yn gyfarwydd â'r Ue ond mae'r mwyafrif yn ei osgoi o blaid y môr agored. Y mae canol y Sownd. meddir. yn ddwfn iawn ac efallai mai gwir yw bod mwy o ddyfnder yno nag yn unrhyw ran o Fae Ceredigion rhwng Enlli a Sir Benfro. Talu'r degwm i Benfro Y mae dywediad y byddai'r degwm yn yr hen amser yn daladwy gan drigolion Enlli i awdurdodau Eglwys Mair Sant, Hwlffordd, Sir Benfro. ac mi gredaf fod cofnodion yr Eglwys honno ar gael i brofi hyn. Ar adegau cyson o daii blynedd, anfonid cynrychiolwr i Enlli i hel y degwm. Fel yn y dyddiau hyn, ystyrrid hynny'n ormes— ond trawodd yr ynyswyr ar ddyfais lwydd- iannus i roi pen ar eu taliadau. Pan gyrhaeddodd y casglwr degwm i Aberdaron, cafodd ei gyfarfod a'i gludo i'r [7 dudalen 288.