Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TROEON TRWSTAN Sglaig— A'I DDAWN DDYSGU IEITHOEDD Ieithydd uwch eithwyr wythwaith-gwir ydoedd, Geiriadur pob talaith Aeth angau a'i bymthengiaith Obry'n awr heb yr un iaith. — Elia Owen, Cefn-y-Meysydd, Gan J. T. JONES BANGOR YMAE un cymeriad o leiaf na allai f od unrhyw amheuaeth am ei hawl i bennod iddo'i hun mewn llyfr o gymeriadau gwreiddiol Cymru-yr enwog Ddic Aberdaron. Yr oedd ef yn berchen cof grymus odiaeth, y math ar gof i ddysgu ieithoedd yn ddi- drafferth. Mab oedd Richard Robert Jones (dyna i enw iawn) i Robert Jones, saer-bysgotwr tlawd yn Aberdaron. Ganwyd ef yn 1780. Nid oedd yn gryf o ran corff, ac yr oedd rhyw ddiffyg ar ei olwg. Ceisiwyd gwneuthur saer coed ohono, ond yn ofer canys rywsut neu'i gilydd fe ddarganfu Dic fod ganddo ddawn at ddysgu ieithoedd. Ar ol yr ysgol Tua naw oed, wedi dysgu darllen Beibl yn Gymraeg, fe ddechreuodd ddysgu Saesneg, ac er ei fod yn teimlo'r gwaith braidd yn anodd, oherwydd afreoleidd-dra'r orgraff, fe ddaeth cyn bo hir yn gryn feistr ar y iaith fain. Ond câi well hwyl ar ieithoedd eraill. Pan oedd yn bymtheg oed fe ddechreuodd astudio Lladin, gyda chymorth bachgen o ysgol Aberdaron. Ni chafodd Dic gyfle i fynd i'r ysgol gyda phlant eraill, ond fe lwyddodd i fynd i mewn i'r adeilad wedi i'r plant fynd adref, gan ddysgu mwy mewn mis nag a ddysgai bechgyn o'r un oed ag ef mewn hanner blwvddvn. Ar yr un pryd fe ddatblygodd lawysgrifen o eiddo'i hun oedd vn hawdd ei darllen ac a wnâi'r tro'n hwylus gyda'r ieithoedd eraill a ddysgodd. Groeg yn rhugl Pan oedd tua 19 oed, fe brynodd ramadeg Groeg gan fardd Cymraeg, a chyn bo hir yr oedd yn medru iaith Homer yn rhugl. Y flwyddyn wedyn fe gafodd ramadeg Hebraeg, a dysgu'r iaith honno drachefn yn gyflym ryfeddol. A chofier mai yn wyneb anfanteision dirfawr y gwnaethpwyd hyn oll. Oblegid dysgu ieithoedd y byddai Die yn Ue llifio neu bysgota, ac fe enynnodd ddigofaint ei Die Aberdaron. dad a'i frawd hynaf yn ei erbyn. Fe'i curent ef yn ddiarbed, canys nid oedd ganddynt fawr o syniad am gyraeddiadau'r llanc. Oddeutu 1804, fe hwyliodd y tad mewn llong fechan o Aberdaron i Lerpwl, a mynd â Dic i'w helpu. Yn Lerpwl, fe sylwodd rhywrai ar ymddangosiad rhyfedd y bachgen, a'i holi, a deall ei fod yn medru ieithoedd, a rhoi ychydig o help iddo, yn arian ac yn lyfrau. Cychwynnodd yntau ar y fordaith adref gyda phentwr o lyfrau Groeg, Hebraeg, Lladin a Saesneg. Ond daeth yn storm. Gyrrwyd y llong i dir ger Llanaelhaearn, Sir Gaernarfon, a chollwyd yr holl lyfrau. Wedi iddo gyrraedd adref, fe ddaeth storm o fath arall ar ei warthaf oblegid po fwyaf y sychedai Die am ddysgu, gwaetha'n y byd y'i cystwyid ef gan ei dad. O'r diwedd fe'i curwyd ef â phocer haearn, a gorfu iddo ffoi am ei fywyd. Cymorth Esgob Casglodd ei ychydig lyfrau ynghyd, a heb geiniog ar ei elw fe ddechreuodd gerdded tua Chaernarfon. Gwerthodd rai o'i lyfrau ar y daith, er mwyn cael bwyd ond cadwodd ei eirlyfrau Groeg a Lladin. O'r diwedd daeth i Fangor, lle y tynnodd sylw'r esgob, Dr. William Gleaver. Fe roes hwnnw gymorth mawr iddo gyda'i efrydiau, ac amryw lyfrau gwerthfawr. Rhoes ddillad iddo hefyd, a gwaith iddo yn ei erddi. Ymhen deufis, fodd bynnag, am ryw reswm neu'i gilydd, fe aeth Die i Dre-ffôs, Sir Fôn, at y Parch. John Williams. Ond daeth yr esgob yno ar ei ôl a'i rybuddio i beidio â dychwelyd ato ef i Fangor. Ffroaduriaid Ffrainc Diflannodd Dic o Dre-ffôs gyda'r un sydynrwydd ag yr aethai yno 'roedd y gweision, medd ef, yn gas wrtho. Ond yn ystod ei arhosiad byr yn Sir Fôn fe gyfarfu â nifer o ffoaduriaid o Ffrainc. Rhoesai'r rheini ramadeg Ffrangeg iddo, ac nid hir y bu cyn dysgu siarad yr iaith honno ag acen dra chywir. Fe gafodd gyfle dipyn yn ddiweddarach i ddysgu'r Eidaleg, a daeth i siarad cyn llithriced yn yr iaith honno ag yn iaith Ffrainc. Wrth ymddiddan, ni neidiai byth o un iaith i iaith arall heb i'r neb y byddai'n siarad ag ef wneuthur hynny'n gyntaf. Llyfrau amdano Yr adeg yma yr oedd yn echreiddig dros ben o ran ymddangosiad cnwd mawr o wallt du a barf gydynnog o'r unlliw, dillad garw a drylliog wedi eu lapio'n haenau amdano, a llyfrau ym mhobman yn y plygion. Mewn gair, yr oedd fel lljfrgelL symudol! Dodid y cyfrolau yn ôl eu maint ac yn ôl ffurf ei gorff, ac fe wyddai Dic yn dda ymhle'r oedd pob llyfr. Pan âi i mewn i ystafell, ni byddai'n sylwi dim ar y lle, ac wedi mynd allan drachefn ni chofiai iddo fod yn yr ystafell o gwbl. Yr oedd llyfr yn ei law yn barhaus; a thybiai fod pawb y cyfarfyddai ag ef mor hoff o ieithoedd ag oedd ef. Lerpwl eto Nid yn unig yr oedd yn gibddall; yr oedd ei lais hefyd yn wichlyd ac amhersain. Ond wedi'r cwbl, yr oedd rhyw lewych yn ei wedd yn dynodi deall, a rhyw symlrwydd gonest yn ei ymddygiad yn ennill parch pawb. O Dre-ffôs aeth Dic i Lerpwl unwaith eto. Wedi ei ddilladu'n daclusach fe geisiodd [I dudalen 288.